Mae nifer o dimau sy’n cyflawni rolau gweinyddol a thechnegol yn cefnogi’r gwasanaethau rheng flaen a ddarperir gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Mae Staff Gweithredol a Staff Cynorthwyol yn gweithio’n agos gyda’n gilydd i ddarparu lefel uchel o wasanaeth i gymunedau De Cymru.

Mae ein sefydliad wedi’i rannu i gyfarwyddiaethau â nifer o dimau o fewn pob un. O fewn pob tîm mae staff â gwahanol rolau yn gweithio tuag at goliau cyffredin y Gwasanaeth:

Gwasanaethau Corfforaethol

  • Cymorth Busnes a Rheoli Cyfleusterau
  • Cynnal a Chadw Eiddo
  • Perfformiad Gwasanaeth a Chyfathrebu
  • Cyllid a Chaffael

Gweithrediadau/Cyflwyno Gwasanaethau

  • Rheoli Tân
  • Staff Swyddfa yn y Pencadlys
  • Gweinyddiaeth yr Orsaf

Gwasanaethau Pobl

  • Amrywiaeth a Diwylliant
  • Cyflwyno Hyfforddiant, ODRT a Gorchymyn
  • Datblygu Pobl, Partneriaethau a Busnes Masnachol
  • Adnoddau Dynol
  • Uned Iechyd Galwedigaethol

Lleihau Risg

  • Timau Cymorth a CAD Diogelwch Tân i Fusnesau
  • Uned Diogelwch Tân yn y Cartref a Throsedd Tân
  • Gwasanaethau Addysg ac Ieuenctid
  • Timau Archwilio Diogelwch Tân i Fusnesau

Gwasanaethau Technegol

  • Iechyd a Diogelwch
  • Fflyd a Pheirianneg
  • Dimensiynau newydd
  • Rheoli Risg Gweithredol
  • Technoleg, Gwybodaeth a Chyfathrebu
  • Yr Adran Hydrantau a Diffoddyddion

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn credu yng ngwir werth gweithlu amrywiol. Rydym yn weithredol wrth annog ymgeiswyr o bob cefndir i ymgeisio er mwyn cynrychioli’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Cyflog

Penodir Staff Corfforaethol ar ricyn isaf y cyflog a gytunwyd ar gyfer gradd gyflog y swydd. Gwneir cynnydd o fewn y radd drwy ennill rhiciau blynyddol.

Os ydych chi wedi cyflwyno cais ar gyfer swydd rhan amser, telir eich cyflog ar gyfartaledd. Felly, fyddwch chi’n derbyn rhan o’r cyflog llawn, sy’n cyfateb i’r oriau byddwch yn gweithio.

Telir cyflogau yn fisol drwy law Trosglwyddiad Credyd Uniongyrchol i’ch Banc ar y 15fed o’r mis.

Oriau gweithio

Ar gyfer Staff Corfforaethol, mae wythnos gweithio llawn yn 37 awr yr wythnos, o Ddydd Llun i Ddydd Gwener. Gweithredir cynllun oriau hyblyg ar gyfer y rhan fwyaf o swyddi yn unol â gofynion busnes.

Rhannu swydd

Ceir manylion pellach am amodau ein Cynllun Rhannu Swydd ar gais.

Cyfnod prawf

Mae gweithwyr newydd yn destun cyflawniad boddhaol cyfnod prawf chwe mis o hyd. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd disgwyl i chi sefydlu eich addasrwydd ar gyfer y swydd.

Gwyliau

Mae hawl gwyliau blynyddol yn dibynnu ar hyd gwasanaeth (gweler isod):

  • Hyd at 5 mlynedd o wasanaeth parhaus = 25 diwrnod
  • 5+ mlynedd o wasanaeth parhaus = 29 diwrnod
  • 10+ mlynedd o wasanaeth parhaus = 32 diwrnod
  • 15+ mlynedd o wasanaeth parhaus = 34 diwrnod

Yn ychwanegol i wyliau blynyddol, mae hawl gennych i wyth diwrnod o wyliau statudol bob blwyddyn. Cyfrifir hawl gwyliau gweithwyr rhan amser ar sail cyfartaledd.

Mae gwybodaeth am fuddion i weithwyr yma.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch â’r tîm recriwtio ar 01443 232200 neu cysylltwch a ni

 

Datganiad Preifatrwydd Recriwtio