Rydym ni’n credu’n gryf mewn buddion cael gweithlu amrywiol a chynhwysol, ac rydym ni’n annog ceisiadau gan bob sector o’n cymunedau.

Wrth i gymunedau De Cymru newid a dod yn fwy amrywiol yn ddiwylliannol, mae’n hanfodol ein bod ni’n addasu’r ffordd rydym ni’n darparu gwasanaethau a sicrhau ein bod ni’n cynrychioli ac adlewyrchu’n llawn y cymunedau rydym ni’n eu gwasanaethu.

Ein gweithwyr yw ein hased pwysicaf. Mae ein holl weithwyr yn gwneud cyfraniad allweddol bob dydd ac yn chwarae rôl annatod wrth ddiogelu cymunedau De Cymru. Yn ogystal â chydnabod pwysigrwydd y swyddogaethau amrywiol ar draws ein sefydliad, rydym ni’n credu’n gryf mewn gwerth cael gweithlu amrywiol a chynhwysol.

Ein nod yw cynnwys cydraddoldeb ac amrywiaeth ym mhopeth rydym ni’n ei wneud. Mae’r gwasanaeth yn hyrwyddo cydraddoldeb cyfle, yn cymryd camau i atal gwahaniaethu anghyfreithlon, ac yn hyrwyddo cysylltiadau da rhwng pobl o grwpiau amrywiol. Rydym ni wedi gweithio tuag at Ddyletswyddau Cyffredinol a Phenodol i Gymru, o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 o ran cyflawni gweithlu cynhwysol, wrth wneud y canlynol;

  • Trin pawb yn deg ac â pharch
  • Herio rhagfarn a gwahaniaethu
  • Hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o ddyletswyddau cyffredinol a phenodol i Gymru ymhlith gweithwyr
  • Hyrwyddo cyfle cyfartal a datblygiad gyrfaol o fewn y gwasanaeth
  • Hwyluso diwrnodau gweithredu cadarnhaol yn benodol ar gyfer pobl o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli yn fewnol ac yn allanol
  • Hyrwyddo a chynorthwyo diwrnodau ymwybyddiaeth ac ymgyrchoedd cydraddoldeb yn fewnol ac yn allanol (e.e. Mis Hanes Pobl Dduon LHDTh+, Diwrnod Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl)
  • Cynorthwyo staff i fynychu amrywiaeth o gynadleddau a gweithdai sy’n gysylltiedig â chydraddoldeb ac amrywiaeth ar gyfer datblygu proffesiynol
  • Darparu atebion amrywiol ar gyfer anghenion a disgwyliadau gwahanol. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod unrhyw ddogfennau neu wybodaeth a gyhoeddir yn ateb dyletswyddau cydraddoldeb cyffredinol neu benodol i Gymru, mewn modd sy’n hygyrch i bobl o grwpiau gwarchodedig

Un o’n deilliannau corfforaethol yw cael gweithlu sy’n amrwiol, sy’n cael ei werthfawrogi’n gyfartal, a bod gan bawb fynediad at gyfleoedd datblygu, yn ogystal â chyfleoedd proffesiynol. (Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2015-2020)

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch â’r tîm recriwtio ar 01443 232200.