Ein Diwylliant, Ein Hymroddiad i Newid

Yn gynnar yn 2024, cawsom ganlyniadau Adolygiad Diwylliant annibynnol i ddeall yn well y profiadau a gafodd ein pobl a nodi ffyrdd o wella ein diwylliant sefydliadol. Roedd yr adolygiad yn eglur ac yn onest, gan dynnu sylw at lawer o bethau cadarnhaol — megis balchder wrth gyflawni gwasanaeth cyhoeddus, cefnogaeth gadarn gan gymheiriaid, ac ymrwymiad i gymunedau. Roedd hefyd yn nodi materion difrifol, gan gynnwys arweinyddiaeth anghyson, cyfathrebu gwael, a goddef ymddygiad amhriodol. Gwnaeth yr adroddiad llawn, sydd ar gael yma, gyfres o argymhellion i gefnogi newid ystyrlon, hirdymor.

Ers hynny, rydym wedi cymryd camau sylweddol i roi’r argymhellion hynny ar waith a chreu gweithle sy’n fwy cynhwysol, parchus a chefnogol. Mae’r dudalen hon yn crynhoi diweddariadau parhaus am y cynnydd rydym yn ei wneud i adeiladu gwasanaeth tân ac achub sy’n wirioneddol adlewyrchu ein gwerthoedd yn ogystal â gwasanaethu ein cymunedau gydag uniondeb.  Cewch ddarllen trosolwg yma.

 

Y Diweddariadau Diweddaraf – Gwanwyn 2025

Lansio’r Academi Arweinyddiaeth

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi lansio ei Academi Arweinyddiaeth a Datblygiad Personol. Lleolir yr Academi ym Mhorth Caerdydd, a bydd yn gatalydd i rymuso ein staff ar draws y sefydliad i ddod yn arweinwyr arloesol, tosturiol a llwyddiannus. Rydym eisiau adeiladu sefydliad sy’n dod ag arfer gorau ynghyd, a ddaw hefyd yn sefydliad y mae eraill yn troi ato i ddysgu arfer gorau. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen i ni newid sut rydym yn cefnogi, grymuso a gwella sgiliau ein pobl. Mae’r Academi yn ymwneud â datblygiad ehangach, gan sicrhau bod pawb o fewn y sefydliad yn cael cyfle i feithrin eu sgiliau arwain a’u datblygiad personol trwy hyfforddiant a dargedwyd ar eu cyfer.

 

Melin Drafod Tân y Dyfodol

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn datblygu Melin Drafod Tân y Dyfodol. Dyma fenter flaengar a gynlluniwyd i archwilio sut y gall technoleg, ansawdd data gwell, ac ymchwil yn seiliedig ar dystiolaeth lunio dyfodol gwasanaethau tân ac achub. O ganlyniad weithio’n agos gyda phartneriaid strategol a chyrff proffesiynol, bydd y Felin Drafod Tân y Dyfodol yn cefnogi meddwl arloesol, cryfhau cynllunio strategol, a hyrwyddo diwylliant o ddysgu parhaus ar draws y Gwasanaeth.

 

Lansio’r Datganiad Diwylliant

Laniwyd datganiad diwylliant diwygiedig yn Ionawr 2025.

Cymunedau De Cymru sy’n ganolog i’r datganiad diwylliant sy’n addewid gan y gwasanaeth i ‘[greu] gwasanaeth tân ac achub diogel, modern yn Ne Cymru a[sicrhau] bod pawb yn cael eu trin ag urddas a pharch, yn rhydd rhag gwahaniaethu, bwlio, aflonyddu ac ymddygiad amhriodol. Rydym yn gwneud yr ymrwymiad hwn i’n staff, ein cymunedau a’r partneriaid a’r rhanddeiliaid yr ydym yn gweithio gyda nhw bob dydd’.

Rhagflaenwyd y datganiad gan amlinelliad o ddisgwyliadau newydd am ymddygiad a ffyrdd o weithio. Mae e’n cael ei atgyfnerthu gan addewidion uwch arweinwyr y gwasanaeth, gan gynnwys y Comisiynwyr a benodwyd gan Lywodraeth Cymru, yr Uwch Dîm Arwain, a’r Prif Swyddog Tân Fin Monahan. Mae’r Prif Swyddog Tân wedi addo ‘sicrhau tryloywder, tegwch, a strategaeth eglur i’n harwain ymlaen’ yn ogystal â ‘dathlu llwyddiant, cydnabod cyflawniadau, a gwneud yn siŵr bod pob llais ar draws y sefydliad yn cael ei glywed’.

 

Ymgynghoriad am y Strategaeth a’r Weledigaeth, y Genhadaeth a’r Gwerthoedd

Fel rhan o’n gwaith parhaus i sicrhau bod lleisiau ein staff yn cael eu clywed, rydym wedi gwneud yn siŵr ein bod yn cael sgyrsiau agored ac yn rhoi cyfle i chi roi adborth, trwy law sesiynau ymgynghori.

Gyda lansiad ein Gweledigaeth, Cenhadaeth a Gwerthoedd newydd, a lansiad diweddar y Cynllun Gweithredu Strategol – rydym yn falch bod pawb wedi cael y cyfle i lunio dyfodol y gwasanaeth.

 

Gofalu am Ymddygiadau

Mae’r rhaglen “Gofalu am Ymddygiadau” yn cael ei gweithredu ar gyfer holl staff y gwasanaeth ac mae e’n cynnwys hyfforddiant, gweithdai, fideos gwybodaeth ac ymgyrch bosteri. Arwydd o ymrwymiad y Gwasanaeth i ddelio ag ymddygiad amhriodol yw hwn gan sicrhau bod yr holl weithwyr a staff yn teimlo’n ddiogel, yn gyfforddus, yn hapus, ac yn cael eu cefnogi yn y gweithle. Mae hwn yn gam hollbwysig tuag at feithrin gweithle mwy diogel a pharchus wrth ddarparu’r modd a’r sgiliau i unigolion ffynnu yn yr amgylchedd hwn.

Darganfyddwch fwy yma.

 

Cynllun Gwella Strategol 2025-2040

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi cyhoeddi ei  Gynllun Gwella Strategol ar gyfer 2025-2040. Mae’r Cynllun Gwella Strategol yn ofyniad cyfreithiol ac mae e’n cynnwys diweddariadau ar strategaeth, adolygiadau thematig, newid trawsnewidiol a diwylliannol, a’r cynllun gwella blynyddol.

Mae’r cynllun hwn yn gosod cyfeiriad strategol y Gwasanaeth ar gyfer y 15 mlynedd nesaf. Datblygwyd y cynllun trwy ymgynghori ac ymgysylltu, ac mae e’n seiliedig ar ein Cynlluniau Gwella Blynyddol. Mae e’n canolbwyntio ar wyth thema strategol, sef:

  • Gweithio effeithiol
  • Atal
  • Amddiffyn
  • Ymateb
  • Amddiffyn a gwella ein hamgylchedd
  • Cyfathrebu ac ymgysylltu
  • Gwerthfawrogi a datblygu ein pobl
  • Arloesi a thrawsnewid

Darganfyddwch fwy am y cynllun yma.

 

Blwyddyn ar ôl yr Adolygiad – Myfyrdodau

Flwyddyn ar ôl yr Adolygiad Diwylliant, mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi gwneud newidiadau mawr i wella ei ddiwylliant a’i arweinyddiaeth. Mae uwch arweinwyr a Chomisiynwyr newydd yn arwain Rhaglen Drawsnewid eang sy’n canolbwyntio ar gynhwysiant, llywodraethu, a lles staff. Gyda mewnbwn cryf gan staff, mae’r gwasanaeth wedi lansio Datganiad Diwylliant newydd ac mae e’n datblygu gwerthoedd newydd, a’r cyfan yn cael ei gyflawni wrth barhau i ymateb i argyfyngau a chefnogi cymunedau ar draws De Cymru.

Darllenwch ein myfyrdodau llawn ar ôl blwyddyn yma.

 

Y Newyddion Diweddaraf

Yr Adolygiad Diwylliant

Trosolwg

Ym mis Chwefror 2023, penodwyd Fenella Morris, Cwnsler y Brenin (CB) yn Gadeirydd Annibynnol gan Banel Penodi Annibynnol i arwain yr adolygiad. Cychwynnwyd yr adolygiad diwylliant ym mis Mehefin 2023 a daeth i ben pan gyhoeddwyd yr adroddiad cyhoeddus ym mis Rhagfyr 2023.

 

Crynodeb o’r Canfyddiadau a’r Myfyrdodau

Cyflwynodd yr Adolygiad Diwylliant annibynnol o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) ddarlun cymysg yn cynnwys balchder yn ogystal â phryderon dwfn. Er bod y Gwasanaeth wedi cael ei ganmol am ei ymrwymiad cymunedol, diwylliant cefnogol y gwylfeydd, a chefnogaeth gref o ran iechyd galwedigaethol ac iechyd meddwl, datgelodd yr adolygiad faterion difrifol hefyd. Yn eu plith oedd arweinyddiaeth anghyson, diffyg tryloywder o ran dyrchafiad a recriwtio, a goddef ymddygiadau amhriodol megis bwlio, gwahaniaethu ac aflonyddu. Amlygwyd diwylliant o dawelwch, ofn siarad, a chyfyngder o ran amrywiaeth yn y gweithlu yn nodweddion oedd hefyd yn tanseilio ymddiriedaeth a morâl. Serch hynny, cafodd llawer o staff yn eu cydnabod am eu proffesiynoldeb a’u hawydd i helpu i ysgogi newid ystyrlon.

Argymhellion a Chanlyniadau
Yn yr adolygiad cafwyd nifer o argymhellion i’w cyflwyno fesul cam gyda’r nod o wella diwylliant sef arweinyddiaeth well, cyfathrebu cliriach, atebolrwydd cryfach, ac arferion cynhwysol. Galwodd am well hyfforddiant, systemau tecach, ac ymrwymiad i gydraddoldeb ac urddas i bawb. Pwysleisiodd yr adroddiad mai cyfrifoldeb pawb — gan gynnwys uwch arweinwyr a staff rheng flaen oedd cyflawni newid diwylliannol. Ers hynny, mae GTADC wedi cymryd camau sylweddol er mwyn ymateb i’r canfyddiadau hyn, gan weithio tuag at greu amgylchedd mwy agored, parchus a chynhwysol i bawb sy’n gwasanaethu ac yn cael eu gwasanaethu gan y sefydliad.

 

Newyddion am yr Adolygiad Diwylliant

 

Ffrydio’r Adolygiad Diwylliant Holi ac Ateb yn Fyw 18 Mai 2023

Fenella Morris KC

Woman with blonde hair and glassesMae Fenella wedi cynnal ymchwiliadau sensitif, gan gynnwys yn fwyaf diweddar, ymchwiliad i Ymgyrch Blacowt UKAD. Bu’n gwnsler i’r Adolygiad Diogelwch Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol Annibynnol ac roedd hi’n rhoi cyfarwyddyd yn Ymchwiliad Covid y Coleg Nyrsio Brenhinol. Dyfarnwyd y wobr ‘Sidanwr y Flwyddyn am Ddisgyblaeth Broffesiynol’ i Fenella yng Ngwobrau Bar Siambrau’r DU 2021, ac roedd hi’n Gyfreithiwr yr Wythnos y Times, ym mis Gorffennaf 2020.

 

 

Charlene Ashiru

Woman with long brown hair and glasses smiling

Mae Charlene yn Fargyfreithwraig gydag arbenigedd mewn Cyfraith Cyflogaeth ac mae ganddi brofiad helaeth ar bob agwedd ar gyfraith cyflogaeth gytundebol a statudol, gan gynnwys yn aml achosion o chwythu’r chwiban a/neu wahaniaethu. Mae hi hefyd wedi gweithio ar ymchwiliadau sensitif mewn perthynas â honiadau penodol o wahaniaethu, yn ogystal â diwylliant gweithle cyffredinol. Bu Charlene yn Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn y Siambrau am bum mlynedd, gan hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a mentrau lles.

 

 

 

Gethin Thomas

Man with side parting, glasses, shirt and tie

Mae Gethin yn Fargyfreithiwr gyda chwmni amlddisgyblaeth helaeth, gan gynnwys cyfraith gyhoeddus a rheoleiddio. Mae Gethin yn aelod o Banel Cwnsleriaid C y Twrnai Cyffredinol, a Phanel B Cwnsleriaid Iau Llywodraeth Cymru. Yn y gorffennol fe’i cyfarwyddwyd gan gyfranogwr craidd yn yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig, yn ogystal â chynghori Adolygiad ‘Windrush Lessons Learned’. Cyn iddo ddod yn Fargyfreithiwr, gweithiodd Gethin i Gomisiwn y Gyfraith, ar brosiect a oedd yn cynnig system godeiddio newydd ar gyfer y gyfraith sy’n gymwys i Gymru.

 

 

Sut i gysylltu â’r Tîm Adolygiad Diwylliant

Mae’r Tîm Adolygiad Diwylliant yn gwahodd aelodau staff cyfredol a blaenorol (rhai sydd wedi gadael GTADC o fewn y saith mlynedd diwethaf), asiantaethau partner a chydweithwyr Golau Glas, ynghyd ag aelodau o’r cyhoedd a hoffai rannu eu profiadau gyda’r Tîm i gysylltu â’r tîm yn uniongyrchol, trwy law’r e-bost swfrsreview@gmail.com.

 

Beth yw’r amserlen ar gyfer yr Adolygiad?

Rydym yn cynnal camau cynnar yr Adolygiad a gall yr amserlen arfaethedig gyfredol, a nodir
isod, newid. Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu maes o law.
Mae’r amserlen a ragwelir ar gyfer yr Adolygiad fel a ganlyn:

  • Ymweliadau’r Tîm Adolygu â Chymru: 9fed o Fehefin 2023 a 17eg-19 o Orffennaf 2023
  • Cyfweliadau 1:1: Mehefin/Gorffennaf/Awst 2023
  • Arolwg Staff: Mehefin/Gorffennaf 2023
  • Adolygu Dogfennau Bwrdd Gwaith: Mehefin/Gorffennaf/Awst 2023
  • Grwpiau Ffocws Rhithwir: Medi 2023
  • Dadansoddi Data: Medi/Hydref 2023
  • Drafftio Adroddiad: Tachwedd/Rhagfyr 2023
  • Adroddiad Cyhoeddus: Rhagfyr 2023

 

Cylch Gorchwyl

Mae’r Cylch Gorchwyl Cyfan ar gael yma.

Cwestiynau Cyffredin

Mae’r Cwestiynau Cyffredin ar gael yma.

Diweddariad Dydd Llun 17 Gorffennaf 2023.

Gwybodaeth Breifatrwydd

I gael gwybodaeth am sut y bydd yr Adolygiad Diwylliant yn diogelu ac yn prosesu eich gwybodaeth, gweler Hysbysiad Preifatrwydd yr Adolygiad yma. I gael gwybodaeth ynghylch sut a pham y bydd GTADC yn rhannu ac yn datgelu data personol y mae’n ei gadw i’r Adolygiad, gweler Hysbysiad Preifatrwydd GTADC ynghylch rhannu data personol rhwng GTADC a’r Adolygiad yma.