Rhagarweiniad i Gadeirydd yr Adolygiad Diwylliant

Ar 17 Chwefror, cadarnhawyd mai Cadeirydd Annibynnol yr Adolygiad Diwylliant o fewn Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru oedd Cwnsler y Brenin Fenella Morris (CB).

Mae Fenella Morris CB wedi darparu diweddariad ar yr Adolygiad Diwylliannol. Dywedodd Fenella, “Mae’n fraint gennyf gael fy mhenodi’n bennaeth Adolygiad Diwylliannol Annibynnol Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Ar hyn o bryd, rwy’n casglu tïm amrywiol ynghyd i helpu gyda’r gwaith pwysig hwn fydd yn archwilio pob agwedd o’r diwylliant o fewn y Gwasanaeth.

Bydd yr Adolygiad yn cael ei gynnal gyda thryloywder a chydbwysedd. Ni fydd yn cefnu rhag unrhyw faterion sensitif a all godi ac fe fydd yn adnabod agweddau cadarnhaol a negyddol ill dau o’r diwylliant.

Rwyf am sicrhau fod yr Adolygiad yn gwrando ar bawb ac yn helpu pob person i deimlo’n ddiogel ac i allu rhannu’u profiadau – boed yn dda neu’n ddrwg. Rwy wedi ymroi i sicrhau cyfrinachedd cyhyd ag rwy’n gyfreithiol abl i wneud, a chyda hynny mewn cof, rwy’n annog pobl i godi llais ynghylch unrhyw beth fydd ganddynt i’w rhannu.”