Datganiad gan Fenella Morris CB (26 Hydref 2023)

Ar y 26 Hydref, anfonodd Fenella Morris CB, Cadeirydd y Tîm Adolygu Diwylliant, ddiweddariad fideo i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru wrth i’r tîm ddod â’u hymchwiliad annibynnol i ben, a dechrau ysgrifennu eu hadroddiad.

Datganiad gan Fenella Morris CB:

“Mae’r Tîm Adolygu yn ddiolchgar iawn am yr holl wybodaeth, meddyliau a theimladau y mae pobl wedi’u rhannu am y Gwasanaeth – rhai da, drwg a difater.

Bu llawer o ymweliadau – â gorsafoedd, yr ystafell reoli a’r pencadlys, cyfweliadau – rhai wyneb yn wyneb a rhai rhithwir, e-byst, arolygon a grwpiau ffocws.

Erbyn hyn mae llawer o waith i’w wneud yn myfyrio ar yr holl ddeunydd a rannwyd â’r Tîm ac ysgrifennu Adroddiad am yr Adolygiad.

Bwriad y Tîm Adolygu yw cwblhau ei waith erbyn diwedd y flwyddyn.”

Gwyliwch y diweddariad cyfan ar fideo gan Fenella Morris CB yn llawn isod (Saesneg yn unig):