Panel Penodi Adolygiad Diwylliannol

Fel rhan o ymrwymiad y Gwasanaeth i gomisiynu Adolygiad Diwylliannol Annibynnol bydd Panel Penodi Annibynnol yn ymgynnull yfory, dydd Gwener 17 Chwefror.

Y Panel Penodi Annibynnol yn unig fydd yn gyfrifol am ddewis y Cwnsler y Brenin mwyaf addas ar gyfer rôl y Cadeirydd.

Nid yw’r Prif Swyddog Tân yn rhan o’r broses ddethol neu benderfynu hon, ond os bydd angen bydd ar gael i’r Panel Penodi Annibynnol i ateb unrhyw gwestiynau sy’n benodol i’r Gwasanaeth a all godi.