Datganiad gan Gomisiynwyr ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Dywedodd Vij Randeniya, Comisiynydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru:

Pwrpas penderfyniad y Comisiynwyr wrth geisio secondiad i rôl y Prif Swyddog Tân oedd darparu capasiti a phrofiad ar unwaith yn ystod yr ymyriad cyfredol yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ac mae hwn yn arfer cyffredin ar draws y sectorau preifat a chyhoeddus.

Roedd y broses yn cynnwys mynd at nifer o uwch unigolion o fewn gwasanaethau tân ac achub eraill Cymru, a mesur eu profiad, eu sgiliau, a’u hargaeledd yn erbyn sawl rhagofyniad y cytunwyd arno gan y Comisiynwyr.

Penderfynodd y Comisiynwyr ar y cyd fod Stuart Millington yn bodloni’r gofynion hynny, ac mae wedi cael ei drosglwyddo ar secondiad i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru fel Prif Swyddog Tân Dros Dro.

Roedd yr holl Gomisiynwyr yn ymwybodol o record y Prif Swyddog Tân Dros Dro Millington a’r tribiwnlys cyflogaeth sydd ar ddod.

Bydd y broses recriwtio ar gyfer Prif Swyddog Tân neu Brif Swyddog Gweithredol parhaol yn dechrau cyn gynted ag y bydd gan y Comisiynwyr farn eglur ar anghenion y Gwasanaeth yn y dyfodol.