Cyhoeddiad Adolygiad Diwylliant Annibynnol

Penderfynodd Prif Swyddog Tân Huw Jakeway QFSM gomisiynu Adolygiad Diwylliant Annibynnol i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru ym mis Rhagfyr 2022, yng nghanol adroddiadau yn y cyfryngau am ymddygiad camdriniol gan gydweithwyr presennol a chyn-gydweithwyr y Gwasanaeth.

Mae’r Adolygiad Diwylliant Annibynnol yn ymdrin â’r diwylliant o fewn y Gwasanaeth, ein prosesau a’n gweithdrefnau disgyblu, yn ogystal â saith mlynedd o achosion hanesyddol. Penodwyd Fenella Morris CB i arwain yr adolygiad annibynnol ym mis Chwefror 2023. Cynhaliodd gyfres o ymweliadau lleoliad, cyfweliadau personol gydag unrhyw un a wirfoddolodd i rannu eu profiadau, grwpiau ffocws, arolwg ar-lein ac ymchwil bwrdd gwaith. Heddiw, y 3ydd o Ionawr 2024, rydym yn derbyn ac yn cyhoeddi’r Adolygiad Diwylliant Annibynnol cyflawn yn swyddogol.

Mae hwn yn Adolygiad Diwylliant Annibynnol cynhwysfawr, sy’n fwy cynhwysfawr na llawer o rai eraill. Mae’n ymdrin â’r diwylliant o fewn y Gwasanaeth drwy arolwg a gwblhawyd gan dros 450 o staff, ynghyd â 60 o gyfweliadau gydag ymadawyr, 128 o achosion disgyblu dros gyfnod o saith mlynedd ac 81 o brosesau a gweithdrefnau. Ymdriniodd tîm yr Adolygiad â negeseuon e-bost cyfrinachol gan 200 o staff presennol a blaenorol yn ogystal â phobl eraill, cynhaliodd 150 o gyfweliadau, mynychu 15 ymweliad safle gan gynnwys 11 gorsaf a chynnal pum grŵp ffocws ar gyfer cyfanswm o 45 o bobl. Rhai o brif ystadegau adroddiad Fenella Morris CB yn unig, yw’r rhain.

Mae’r adroddiad a dderbyniwyd heddiw, a llythyr agored oddi wrth Brif Swyddog Tân Huw Jakeway QFSM, erbyn hyn wedi cael eu cyhoeddi ar y 3ydd o Ionawr 2024. Bydd fersiynau Cymraeg yn dilyn, yn ddiweddarach.

Cliciwch ar y dolenni ar gyfer y canlynol:

Adroddiad gan Fenella Morris CB

Llythyr agored oddi wrth y Prif Swyddog Tân Huw Jakeway QFSM

Os oes gennych unrhyw adborth ar yr adroddiad, mae croeso i chi anfon e-bost at ded@decymru-tan.gov.uk