Apwyntiad o Brif Swyddog Tân Interim

Mae’r Comisiynwyr wedi cytuno ar secondiad dros dro Stuart Millington fel Prif Swyddog Tân Interim Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) yn cychwyn o 9.00yb ar Ddydd Llun 12fed o Chwefror 2024. Fydd Stuart yn ymuno â GTADC ar secondiad o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru o’i swydd bresennol fel Prif Swyddog Tân Cynorthwyol.

Bydd Stuart yn gweithio gyda’r Comisiynwyr a’r Gwasanaeth i sicrhau parhad busnes a dilyniant yn erbyn cylch gorchwyl y Comisiynwyr yn dilyn cyhoeddiad y Dirprwy Weinidogion ddydd Mawrth 5 Chwefror 2024.

Hoffem gynnig croeso cynnes i Stuart a’r gefnogaeth a’r arweinyddiaeth y bydd yn ei gynnig i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Dywedodd Prif Swyddog Tân Millington:

“Rwy’n ymwybodol bod hwn wedi bod yn gyfnod ansicr i bawb yma yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ac felly rwy’n mynd i’r afael â’r cyfle hwn gydag ymdeimlad cryf o gyfrifoldeb ond hefyd gydag ymdeimlad o optimistiaeth.

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r nifer fawr o staff broffesiynol ac ymroddedig sy’n gweithio mewn gorsafoedd ac adrannau ar draws yr ardal ac rwy’n gwybod o fy nghysylltiadau blaenorol gyda’r Gwasanaeth bod llawer iawn y gallwn fod yn falch ohono.

“Er nad wyf yn diystyru’r her sydd o’n Blaenau ni gyd, rwy’n hyderus y byddwn yn ymateb i’r her hon ac yn ymateb i’r argymhellion o fewn yr Adolygiad Diwylliannol Annibynnol ddiweddar er mwyn gwneud y Gwasanaeth yn weithlu cynhwysol a chroesawgar, lle mae pawb yn teimlo’n werthfawr.

“Rwy’n gobeithio y gallwn groesawu’r cyfle hwn gyda’n gilydd, y gallwn ymdrechu i sicrhau ein bod yn gyflogwr o ddewis lle mae amrywiaeth yn cael ei ddathlu, lle gall pawb ffynnu ac y gallwn lunio dyfodol cadarnhaol i’r Gwasanaeth sy’n batrwm o ragoriaeth a pharch wrth symud ymlaen.”