Fenella Morris CB yn cael ei phenodi’n gadeirydd Adolygiad Diwylliant

Yn dilyn proses benodi drylwyr, cadarnhawyd mai Cwnsler y Brenin Fenella Morris (CB) fydd Cadeirydd Annibynnol yr Adolygiad Diwylliant o fewn Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC).

Rhwng Adolygiad Diwylliant Brigâd Dân Llundain a darlledu adroddiad ITV ar ganlyniadau dau achos disgyblaeth hanesyddol yr ymchwiliwyd iddynt gan y Gwasanaeth yn flaenorol , cyhoeddodd y Prif Swyddog Tân Huw Jakeway QFSM y byddai’n dechrau Adolygiad Annibynnol o ddiwylliant y Gwasanaeth.

Ym mis Ionawr, yn dilyn cyfnod canfod ffeithiau a chynnull Panel Penodi Annibynnol, nododd Cyfreithwyr Blake Morgan restr hir o Gwnsleriaid y Brenin (AU) i’w hystyried gan y panel. Roedd y Panel Penodi Annibynnol yn cynnwys: Aliya Mohammed – Prif Swyddog Gweithredol Race Equality First; Rachel Williams – Sylfaenydd Stand Up To Domestic Abuse a goroeswr cham-drin domestig a’r Cynghorydd Lis Burnett – Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg. Roedd Steve Bradwick, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru a’r Prif Swyddog Tân yn bresennol i gynnig cyngor yn unig.

Cyfarfu’r Panel Penodi Annibynnol ar 7fed Chwefror 2023, a rhoddwyd enwau chwe CB ar y rhestr fer. Ar 17eg Chwefror 2023 bu’r panel yn cyfweld â’r CB ar y rhestr fer. Roedd y panel penodi yn cynnwys Rachel Williams a’r Cynghorydd Lis Burnett; gyda Paula Kathrens, partner Blake Morgan Solicitors. Roedd y Prif Swyddog Tân Huw Jakeway hefyd ar gael fel rôl ymgynghorol yn unig ac ni chymerodd unrhyw ran yn y broses benderfynu, ac roedd aelodau’r panel Rachel Williams a’r Cynghorydd Lis Burnett â chyfrifoldeb llwyr am benodi’r Cadeirydd annibynnol.

Ar ddiwedd eu trafodaethau, penododd y Panel Penodi Annibynnol Fenella Morris CB yn Gadeirydd Annibynnol, i arwain adolygiad diwylliant y Gwasanaeth, prosesau disgyblu ac achosion disgyblaeth hanesyddol. Mae Fenella wedi cynnal ymchwiliadau sensitif, gan gynnwys yn fwyaf diweddar  Ymgyrch Blacowt UKAD, a bu’n gwnsler i’r Adolygiad Diogelwch Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol Annibynnol a chyfarwyddodd yn yr Ymchwiliad Covid. Cafodd Fenella ei dyfarnu’n ‘Gwnsler Proffesiynol y Brenin dan Hyfforddiant y Flwyddyn’  yng Ngwobrau Bar Chambers UK 2021, a hi oedd Cyfreithwraig yr Wythnos gan y Times, ym mis Gorffennaf 2020.

Ar hyn o bryd, mae Fenella Morris CB yn rhagweld y bydd yr adolygiad wedi’i gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon.