Ymateb gwasanaeth i sesiwn lawn Llywodraeth Cymru 6 Chwefror 2024

Mae’r Gwasanaeth yn cydnabod datganiad Llywodraeth Cymru yn y Cyfarfod Llawn heddiw, ac yn croesawu’r craffu a’r cyfeiriad a fydd yn cael eu darparu gan y pedwar Comisiynydd penodedig sef y Farwnes Debbie Wilcox, Kirsty Williams, Vijith Randeniya a Carl Foulkes.

 

Hoffem sicrhau’r cyhoedd a’r holl staff na fyddem byth yn cyfaddawdu ar eich diogelwch, a chefnogwyd hyn yn yr adroddiad.

 

Hyd yma, mae’r Gwasanaeth wedi parhau i yrru’r Cynllun Gweithredu Drafft yn ei flaen mewn ymateb i’r argymhellion yn yr Adroddiad Adolygu Diwylliant Annibynnol. Yr wythnos diwethaf cynhaliwyd pum sesiwn ar gyfer staff iddynt ymgynghori ar y cynllun, a threfnwyd tair sesiwn arall ar gyfer yr wythnos hon, er mwyn cyflawni ein haddewid o ymgysylltu â staff am sut i symud argymhellion ymlaen. Mae pedwar gweithgor wedi cael eu cynnull i gyflawni’r Cynllun Gweithredu, a sefydlwyd strwythur llywodraethu, fel y manylir arno yn y Cynllun Gweithredu Drafft, a gyhoeddwyd ar ein gwefan ar y 16eg o Ionawr 2024.