Cynllun Gweithredu Drafft yr Adolygiad Diwylliant Annibynnol

Pleidleisiodd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru ar y 15fed o Ionawr 2024 i dderbyn pob un o’r 82 o argymhellion yn Adroddiad yr Adolygiad Diwylliant Annibynnol, fel yr argymhellwyd gan y Gwasanaeth.

 

Cytunodd yr Awdurdod hefyd i greu Pwyllgor Gweithredu Adolygu Diwylliant, i oruchwylio datblygu a chyflawni’r Cynllun Gweithredu a rhoi’r holl argymhellion ar waith. Bydd y pwyllgor yn cynnwys pum aelod o’r Awdurdod yn ogystal â rhanddeiliaid allanol cyfetholedig sy’n arbenigwyr pwnc (e.e. cynghorwyr cam-drin domestig, grwpiau lleiafrifoedd ethnig, grwpiau anabledd, ac arbenigwyr diwylliant).

 

Cyflwynodd Geraint Thomas, y Prif Swyddog Cynorthwyol, gyda chefnogaeth y Prif Swyddog Tân Huw Jakeway QFSM, a Alison Reed, Prif Swyddog Cynorthwyol Gwasanaethau Pobl, Gynllun Gweithredu Drafft y Gwasanaeth i’r Awdurdod Tân i’w adolygu.

 

Mae’r Cynllun Gweithredu Drafft yn manylu ar bedwar gweithgor sy’n cael eu sefydlu i fynd i’r afael â themâu a godwyd yn yr Adroddiad ar yr Adolygiad Diwylliant Annibynnol:

  1. Polisïau a gweithdrefnau
  2. Gwerthoedd, safonau, arweinyddiaeth
  3. Hyfforddiant, dyrchafiadau, recriwtio
  4. Diwylliant, Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, cyfathrebu

 

Mae’r Cynllun Gweithredu Drafft hefyd wedi’i rannu’n dair graddfa amser: ar gyfer camau gweithredu tymor byr o fewn 1-3 mis, tymor canolig (3 i 9 mis), camau gweithredu hirdymor (9 i 18 mis) ac yn flynyddol.

Gweld y Cynllun Gweithredu Drafft.

Gallwch weld fideo cyfarfod yr Awdurdod nawr ar youtube ac ar ein tudalen we fideos Awdurdod Tân 2023/24.