Sesiwn Holi ac Ateb gyda’r Tîm Adolygu Diwylliant

Mae’r Adolygiad Diwylliant Annibynnol o fewn Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC), dan arweiniad y Cadeirydd Fenella Morris CB, ar y gweill erbyn hyn.  

Mae’r Tîm Adolygu Diwylliant yn gwahodd aelodau presennol a chyn-aelodau o staff (sydd wedi gadael GTADC o fewn y saith mlynedd diwethaf), asiantaethau partner a chydweithwyr Golau Glas, ac aelodau’r cyhoedd, a hoffai rannu eu profiadau gyda’r Tîm i gysylltu â’r tîm yn uniongyrchol trwy law e-bost swfrsreview@gmail.com 

Mae’r Tîm yn awyddus i glywed gan bawb sy’n rhan o neu sy’n dod i gysylltiad â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, boed eu profiadau’n rhai da, drwg neu niwtral, er mwyn porthi’r Adolygiad Diwylliant. 

Ddydd Iau 18fed Mai 2023 rhwng 10.30 a 11.00 a.m. bydd Fenella Morris KC yn cyflwyno’r Adolygiad Diwylliant yn bersonol, gyda rhai o’i thîm, yn swyddfeydd Blake Morgan, Sgwâr Canolog, Caerdydd a bydd sesiwn Holi ac Ateb agored. 

Bydd y sesiwn yn cael ei ffrydio’n fyw a bydd nifer cyfyngedig o bobl yn unig yn gallu bod yn bresennol wyneb yn wyneb gan fod y nifer o lefydd yn gyfyngedig. 

Yn dilyn y sesiwn, bydd cyfnodau penodol lle gall unrhyw un sy’n dymuno siarad â’r Tîm Adolygu Diwylliant siarad yn uniongyrchol â nhw naill ai wyneb yn wyneb neu drwy law Timau. Bydd cyfleoedd eraill i siarad â’r Tîm ar ôl hyn, mewn fformatau gwahanol, ond mae’r Tîm yn gobeithio y bydd rhai yn manteisio ar y cyfle hwn i gychwyn. 

Os hoffech fynychu’r sesiwn wyneb yn wyneb, neu archebu slot gyda’r Tîm, cysylltwch â Fenella Morris KC a’r Tîm Adolygu Diwylliant drwy law eu cyfeiriad e-bost preifat uniongyrchol: 

swfrsreview@gmail.com 

 

Cyfarwyddiadau ymuno â ffrydio byw

I ymuno â’r ffrydio byw ewch i’r isod:

https://vimeo.com/digwyddiad/3404083

Dylai’r ffrydio byw gychwyn yn brydlon am 10.30yb.  

  • Cyngor Call 1 = Gwnewch yn siwr bod y sain ymlaen are ich dyfais!
  • Cyngor Call 2 = Os ydych chi ar y dudalen ac mae hi ar ôl 10.30yb on rydych hi’n methu gweld y cyflwyniad, dylech adnewyddu’r porwr gwe drwy wasgu F5 neu glicio’r saeth gylch i lwytho’r dudalen eto.
  • Cyngor Call 3 = Cewch gynnig cwestiynau drwy ddefnyddio’r blwch cwestiynau – mae’n bosib bydd rhaid i chi droi’r ddyfais i ffurff dirwedd er mwyn gweld y blwch cwestiynau.

Gan fod hwn yn fforwm cyhoeddus sy’n agored i bartïon allanol, nid oes cyfrinair i ymuno.

Hysbysir pob parti yn gwrtais bod y ddolen hon ar gyfer gwylio yn unig. Gwaherddir yn llwyr unrhyw ffilmio, recordio neu rannu unrhyw agwedd ar y cyflwyniad neu ddigwyddiad. Bydd y ffrydio byw yn cael ei recordio gan y tîm a bydd ar gael yr wythnos ganlynol. Atgoffir pawb i ufuddhau i’n Rheolau Cyfryngau Cymdeithasol.

I godi cwestiwn yn ystod y ffrydio byw, gallwch ychwanegu cwestiwn yn y blwch Holi ac Ateb ar y ddolen Vimeo. Gallwch aros yn ddienw os dymunwch neu cewch nodi’ch enw, a fydd yn cael ei arddangos gyda’r cwestiwn. Croesewir cwestiynau yn Gymraeg ac yn Saesneg.

 

Ydych chi’n methu ymuno â’r sesiwn hon? 

Bydd y ffrydio byw yn cael ei recordio a bydd ar gael wedyn. 

Gallwch gysylltu â’r Tîm Adolygu Diwylliant unrhyw bryd, drwy law e-bost: swfrsreview@gmail.com 

 

Gwybodaeth Preifatrwydd

I gael gwybodaeth am sut y bydd yr Adolygiad Diwylliant yn diogelu ac yn prosesu eich gwybodaeth, gweler Hysbysiad Preifatrwydd yr Adolygiad yma. I gael gwybodaeth ynghylch sut a pham y bydd GTADC yn rhannu ac yn datgelu data personol y mae’n ei gadw i’r Adolygiad, gweler Hysbysiad Preifatrwydd GTADC ynghylch rhannu data personol rhwng GTADC a’r Adolygiad yma.