Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Dywedodd Dominic Mika, Cyfarwyddwr Newid Strategol a Thrawsnewid, “Adnabyddodd yr Adolygiad Annibynnol i Ddiwylliant rhai meysydd allweddol ar gyfer gwella yn ein cyfathrebiadau ledled y Gwasanaeth. Roedd y rhain yn cynnwys yr angen i gryfhau cyfathrebiadau mewnol, sefydlu sianelau clir a dyrchafu ymgysylltu â grwpiau nad sy’n cael eu cynrychioli’n ddigonol. Roedd hefyd yn amlygu pwysigrwydd datblygu strategaeth gyfathrebu a aliniwyd â newid diwylliannol wrth ganolbwyntio ar gynyddu gwelededd a hygyrchedd arweinyddiaeth ar draws y Gwasanaeth.”

Dywedodd Rhian Moore, Pennaeth Cyfathrebiadau ac Ymgysylltu, “Pan ymunais â’r Gwasanaeth yn Rhagfyr, fy mlaenoriaeth oedd mynd i’r afael â’r argymhellion ynghyd â datblygu ein gweithgarwch cyfathrebu ac ymgysylltu, fel y cawn seiliau cryf ac agwedd rymus i ddarparu cyfathrebiadau ac ymgysylltu rhagorol â’n staff, ein partneriaid a chymunedau. Fe wnes i adolygu’r adroddiadau, edrychais ar realiti ein cyfathrebiadau ac ymgysylltais â chydweithwyr gan gynnal archwiliad i gaffael asesiad meincnod.

“Rydym wedi tynnu hyn oll ynghyd i’n strategaeth gyfathrebiadau ac ymgysylltu sydd â saith ffrwd waith sy’n amlinellu’r newidiadau byddwn yn gwneud a’n llinell amser gogyfer â chynnydd ym mhob maes. Maen nhw’n cynnwys cyfathrebiadau mewnol a newid diwylliannol, cyfathrebiadau ac ymgysylltu, cyfathrebiadau allanol, cyfathrebiadau argyfwng a hydwythedd ac ymgysylltu â rhanddeiliaid a’r cyfryngau.

“Yn ogystal, rydym yn gweithio ar sut byddwn yn mynd y tu hwnt i’r argymhellion ac arwain y ffordd o fewn y sector yn ein hagwedd at gyfathrebiadau ac ymgysylltu. Rydym yn buddsoddi yn ein tîm a’n sgiliau, ein gwybodaeth a’n ffyrdd o weithio fel y byddwn yn gymwynasgar a chefnogol, yn agored, yn onest a gofalgar yn ein hagwedd, ac rydym yn canolbwyntio ar sut rydym yn cefnogi rhagoriaeth weithredol a dysgu a gwella’r hyn rydym yn gwneud yn barhaus.”

Corffori’r adolygiad i ddiwylliant i’n cyfathrebiadau

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi sicrhau fod yr Adolygiad i Ddiwylliant yn parhau’n weledol ac yn rhan barhaus o’n sgyrsiau. Cychwynnwyd gyda chyfres o sioeau teithiol staff â’r Comisiynwyr i egluro sut roeddwn am weithio drwy a darparu’r newidiadau oedd eu hangen.

Rydym wedi rhannu diweddariadau newyddion rheolaidd ar y cynnydd rydym yn gwneud, a chynnal fforymau Shout i bobl cael dweud eu dweud ynghyd â sesiynau ymgysylltu ehangach, gan gynnwys ymweliadau gan Brif Swyddogion. Rydym hefyd wedi cydnabod Adolygiad Fenella Morris yn gyhoeddus a rhannu diweddariadau â staff, rhanddeiliaid a’r cyfryngau – yn amlygu’r cynnydd ac atgyfnerthu ein hymroddiad at newid.

Ar ddechrau’r flwyddyn, fe wnaethom ddatblygu a lansio ein Datganiad Diwylliant lle wnaethom amlinellu’r safon newydd rydym yn ei ddisgwyl. Rydym wedi lansio strategaeth newydd sy’n cynnwys gweledigaeth, cenhadaeth a gwerthoedd sydd wedi’u hadfywio, ac wedi alinio ein cyfathrebiadau â’r ymddygiadau a’r diwylliant rydym yn gweithio tuag at adeiladu. Mae diweddariadau i’n gwefan yn parhau i gael eu rhannu drwy law ein gwefan, y cyfryngau cymdeithasol a chyfweliadau â’r cyfryngau, yn ein helpu ni i gadw mewn cysylltiad â’n cymunedau ac arddangos atebolrwydd.

Ymunodd Pennaeth Cyfathrebiadau ac Ymgysylltu newydd â ni yn Rhagfyr 2025, a datblygwyd strategaeth newydd mewn ymgynghoriad â chydweithwyr. Mae’r strategaeth hon wedi’i halinio â’r arferion gorau cenedlaethol a Safonau Tân y CPTC, ac mae’n canolbwyntio ar:

  • Gwella cyfathrebu mewnol a gwelededd o ran arweinyddiaeth
  • Creu sianelau adborth diogel, strwythuredig
  • Hyrwyddo negeseuon cynhwysol a diwylliannol cymwys
  • Cryfhau cydberthnasau â chyfranddalwyr a chymunedau
  • Cefnogi newid drwy law cyfathrebu tryloyw ac ymgysylltiedig

Mae’r gwaith hwn yn cael ei ddarparu drwy law saith ffrwd waith tactegol, bob un â llinellau amser clir a mesurau i dracio cynnydd

Sbarduno newid â chyfathrebu clir ac arweinwyr gweladwy

Rydym wedi defnyddio’r Adolygiad i Ddiwylliant fel sail i’n rhaglen drawsnewid law yn llaw ag adroddiadau a chynlluniau allweddol eraill. Mae’r dull cydlynus hwn yn helpu ni i yrru newid diwylliannol arwyddocaol ar draws y Gwasanaeth.

Rydym wedi cryfhau ein cyfathrebu mewnol â chyfarwyddiadau tîm a mwy eglur ynghyd â chyfarfodydd â rheolwyr ac arweinyddiaeth sy’n weledol. Mae diweddariadau bellach wedi’u hymgorffori i’n sgyrsiau dyddiol i gadw pawb yn wybodus a chynwysedig.

Mae datblygu arweinyddiaeth yn ffocws allweddol ac mae’r Strategaeth Gyfathrebu Mewnol newydd yn amlinellu dull newydd ac yn cefnogi rheolwyr i rannu diweddariadau ac egluro penderfyniadau’n glir.

Gyrru newid drwy law cydweithredu a chynllun gweithredu clir

Rydym wedi datblygu cynllun gweithredu clir yn seiliedig ar yr Adolygiad i Ddiwylliant ac adroddiadau allweddol eraill sy’n cael ei ddarparu drwy law’r rhaglen Camu Ymlaen. Mae’r cynllun hwn yn mapio argymhellion ac yn gyrru newid ar draws y Gwasanaeth.

I sicrhau bydd y cynllun yn adlewyrchu agweddau amrywiol, rydym yn gwahodd mewnbwn o’n staff cyfan yn weithredol. Mae prosiectau yn cael eu cychwyn a’u cefnogi gan dasgluoedd a gyfansoddir o blith staff ar draws y Gwasanaeth, yn darparu model i sicrhau amrywiaeth o fewn ein prosiectau a chynllunio i’r dyfodol.

Rydym wedi lansio adolygiadau pwrpasol ac adnoddau ar y cyd, gan gynnwys ein strategaeth a’n cynlluniau trawsnewid newydd. Mae diweddariadau ar gael yn rheolaidd drwy law’r fewnrwyd, cylchgrawn Shout a digwyddiadau ymgysylltu.

I gefnogi tryloywder ac ehangu llais staff, mae’r Grŵp Diwylliant a Chysylltiadau’n cael ei sefydlu fel fforwm a arweiniwyd gan staff ar gyfer craffu a mewnbwn. Rydym hefyd yn cyflwyno pecynnau cymorth rhaglen reoli i sicrhau darpariaeth effeithiol a gwelliant parhaus.

Eich cadw wedi’ch diweddaru ynglŷn â’n trawsnewidiad diwylliannol

Rydym wedi ymrwymo i rannu diweddariadau rheolaidd ar newid diwylliannol. Mae’r rhain wedi’u cynllunio a’u cydlynu a’u rhannu drwy law’r Hysbysiadau Arferol, cylchgrawn Shout, sioeau teithiol a thudalen rhyngrwyd pwrpasol.

Ry’n ni wedi gwella sut y rhennir diweddariadau – yn eu cysylltu â’r adran drawsnewid yn dilyn pob Bwrdd Gwelliant Gwasanaeth. Yn allanol, mae diweddariadau hefyd yn cael eu cyhoeddi yn ein hystafell newyddion ar y wefan.

Ailgynlluniwyd cylchgrawn Shout i alinio â’n blaenoriaethau strategol ac arddangos straeon newid a arweiniwyd gan gydweithwyr. Mae’r Strategaeth Gyfathrebiadau ac Ymgysylltu newydd yn llywio’r gwaith hwn, yn sicrhau bydd diweddariadau’n eglur, yn gyson ac wedi’u halinio â’n hamcanion ac yn arddangos cynnydd.

Ymgysylltu ac ymgynghori cynnar â staff

Rydym wedi cryfhau ymgynghoriadau cynnar â staff i sicrhau ymglymiad arwyddocaol wrth lunio newid ar draws y Gwasanaeth. Mae grwpiau ffocws wedi disodli gweithgorau blaenorol, gan ddarparu cyfleoedd ehangach am fewnbwn gan staff. Mae dros 175 o sesiynau tîm, law yn llaw â gweithdai yn cynnwys rheolwyr a chadetiaid tân, wedi caniatáu cyfraniadau amrywiol tuag at brosiectau allweddol, gan gynnwys mewnbwn i’r cod moeseg a datblygu’r weledigaeth, cenhadaeth a gwerthoedd newydd.

I gefnogi ymgynghori parhaus a chynrychiolaeth staff, mae’r Grŵp Diwylliant a Chysylltiadau’n cael ei sefydlu fel fforwm a arweiniwyd gan staff sy’n darparu craffu a mewnbwn ar hyd y siwrne drawsnewid. Mae’r grŵp hwn yn chwarae rôl hanfodol wrth gynnal deialog agored rhwng staff a’r arweinyddiaeth.

Rydym hefyd yn gwella sut rydym yn gwerthuso ymgynghori ac yn tracio’i effaith. Er enghraifft, fe wnaeth yr archwiliad cyfathrebiadau a gynhaliwyd yng Ngwanwyn 2025 hysbysu dyrchafiadau i’n harferion ymgysylltu. Mae ein Strategaeth Gyfathrebiadau ac Ymgysylltu yn cynnwys llif gwaith pwrpasol sy’n canolbwyntio ar ymgysylltu â staff a rhanddeiliaid yn gynnar ac arwyddocaol, wrth sicrhau’r cyfathrebir newid yn glir i adeiladu ymrwymiad ar y cyd.