Trawsnewid
Diweddariad ar gynnydd trawsnewid Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Dros yr ychydig wythnosau nesaf, rydym yn bwriadu rhannu diweddariadau ar y cynnydd a wnaed gennym wrth ddarparu argymhellion Adolygiad Annibynnol i Ddiwylliant Fenella Morris. Mae hyn yn ffurfio rhan o’n hymroddiad ehangach at dryloywder, atebolrwydd a darparu gwasanaeth cynhwysol ac eithriadol.
Drwy law ein rhaglen drawsnewid, Camu Ymlaen, rydym yn cymryd camau cydlynus i gorffori canfyddiadau’r Adolygiad Annibynnol i Ddiwylliant ac adroddiadau allweddol eraill. Ein nod yw adeiladu diwylliant cryfach, mwy cadarnhaol ar draws y Gwasanaeth – un sy’n adlewyrchu ein cyd-werthoedd ac sy’n cefnogi De Cymru ddiogelach, fwy hydwyth.
Y maes cyntaf o argymhellion byddwn yn canolbwyntio arno yw Cyfathrebu ac Ymgysylltu.