Yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (“y Gwasanaeth”), rydym yn cydnabod mai ein gweithwyr yw ein hased pwysicaf, ac er gwaethaf y rôlau, sy’n amrywio o rai Gweithredol a Rheoli Tanau i staff Corfforaethol ac Asiantaeth, gwyddom fod pob gweithiwr yn gwneud cyfraniad enfawr bob dydd i’n cynorthwyo wrth ddiogelu cymunedau De Cymru.  

Fel sefydliad, rydym yn cydnabod bod pawb yn wahanol ac rydym yn gwybod bod gwahaniaethau’n ychwanegu gwerth gwirioneddol ac ystyrlon i ni fel cyflogwr a darparwr gwasanaethau ill dau.

Hanesion aelodau staff gwirioneddol yw’r rhain yn eu geiriau eu hunain, yn hytrach nag actorion â sgriptiau.

Os oes diddordeb gyda chi mewn ymgeisio ar gyfer rolau corfforaethol e.e. Adnoddau Dynol, Technoleg Cyfathrebu Gwybodaeth, Cyllid, Caffael, Storfeydd, Fflyd a Pheirianneg, Gweinyddiaeth Cyfryngau a Busnes, neu rolau gwisg megis gweithio yn yr Ystafell Reoli neu fod yn Ddiffoddwr Tân, ewch i’n tudalen ‘Gweithio Gyda Ni’ i gael mwy o wybodaeth.

Ac os ydych chi am wybod mwy am sut rydym yn gwireddu ein rôl fel cynghreiriad, gallwch ddarllen ein Rhwydwaith Cynghreiriaid Cydraddoldeb mewnol yma (dolen i’r llyfryn Rhwydwaith Cynghreiriaid Cydraddoldeb)

 

Menywod yn y Gwasnaeth

Cymunedau Duon, Asiaidd ac Ethnig yn y Gwasanaeth

Cymunedau LGBTQ+ o fewn y Gwasanaeth

Dynion yn y Gwasanaeth

Siaradwyr Cymraeg yn y Gwasanaeth