Mae cyflwyno cais am Wybodaeth Swyddogol dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn caniatáu i chi geisio am unrhyw wybodaeth gofnodedig a gedwir gan Awdurdodau Cyhoeddus, gan gynnwys Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ac eithrio pan fydd y wybodaeth honno eisoes ar gael drwy’r wefan hon neu mewn ffordd arall.

Rhaid cyflwyno pob cais am wybodaeth yn ysgrifenedig; gallwch wneud hyn naill ai drwy law llythyr neu e-bost. Mae’n ofynnol i chi ddarparu cymaint o fanylion â phosib ynghylch y wybodaeth rydych chi eisiau a nodi manylion cyswllt rhag ofn bydd angen i ni gysylltu ynglyn â’ch cais.

Ar ôl i ni gael eich cais, a deall beth rydych chi eisiau, mae’n ofynnol i ni ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith. Yn y mwyafrif o achosion byddwn yn darparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch, fodd bynnag, mae rhai eithriadau lle nad yw’n ofynnol i ni ryddhau deunyddiau a allai, er enghraifft, beryglu diogelwch y cyhoedd. Os bydd gwybodaeth yn cael ei dynnu cyn i ni ei hanfon atoch, nodir hyn yn eglur a cheir eglurhad llawn.

Mae’n bosib y bydd eithriadau hefyd yn cael eu gweithredu os bydd cais yn rhy fawr, yn cael eu hystyried i fod yn afresymol neu os cyflwynir ceisiadau niferus. Cewch wybod cyn gynted ag y bydd modd os bydd hyn yn berthnasol, serch hynny, byddwn bob amser yn eich cynorthwyo gymaint â phosib.

Ni chodir tâl am wybodaeth a ddatgelir dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, ond hyn a hyn o amser sy’n ofynnol i ni ei dreulio yn ymwneud â cheisiadau. Os bydd eich cais yn debygol o gymryd mwy na’r amser uchaf a chaniateir (18.5 awr), bydden yn cysylltu â chi a thrafod a oes modd i ni gynorthwyo mewn ffordd arall.

 

Ceisiadau am adroddiadau am ddigwyddiadau (adroddiadau IRS)

Darperir y wybodaeth hon fel arfer ar gyfer cyfreithwyr, cwmnioedd yswiriant ac aseswyr colledion, sy’n gweithredu ar ran perchennog/ preswylydd eiddo neu gerbyd yr effeithiwyd arno mewn digwyddiad, ac yr adroddwyd amdano yn ffurfiol o fewn y cofnod digwyddiad perthnasol.

Gellid hefyd ddarparu gwybodaeth i rywun sy’n gweithredu ar ran unigolyn a gofnodwyd ar y cofnod digwyddiad fel person a gafodd ei anafu.

Mae proses ffurfiol ar gyfer cyflwyno cais am y wybodaeth hon a chodir tâl ar gyfer adroddiad SAG. Yn y lle cyntaf, dylid anfon ymholiadau drwy law e-bost i dataprotection@southwales-fire.gov.uk, gan nodi’r cyfeiriad, y dyddiad ac, os yn bosib, amser y digwyddiad. Bydd y Tîm Rheoli Gwybodaeth yn rhoi’r ffurflenni perthnasol a gwybodaeth bellach ar sut i ymgeisio i chi.

 

Gwneud Cais am Wybodaeth Swyddogol

Rydym wedi ceisio sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosib ar gael drwy’r wefan hon, ond os na allwch ddod o hyd i’r hyn yr ydych chi’n chwilio amdano, mae’n bosib y gallai ein Tîm Cydymffurfio a Llywodraethu Gwybodaeth eich helpu.

Os yw’r wybodaeth rydych yn chwilio amdani yn ymwneud â chi fel unigolyn, am berson arall, neu os gallai gynnwys gwybodaeth a allai adnabod pobl, byddai eich cais yn cael ei adolygu o dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data.

 

Gwybodaeth amdanoch chi

Os ydych chi’n gofyn am wybodaeth amdanoch chi eich hun, rhaid i chi wneud cais ysgrifenedig, gan ddisgrifio’n eglur y wybodaeth yr ydych chi’n chwilio amdani. Bydd yn rhaid i chi hefyd ddarparu dogfennau i brofi pwy ydych chi yn ogystal â’ch cyfeiriad presennol. Gallwch wneud hyn naill ai drwy law e-bost, neu lythyr.

Dim ond gwybodaeth sydd amdanoch chi fel unigolyn fydd gennych hawl iddi. Bydd unrhyw gyfeiriadau at bobl eraill, neu wybodaeth nad yw’n ymwneud â chi, yn cael ei dileu o’r dogfennau. Bydd hyn yn cael ei ddangos yn glir a’i hesbonio ar unrhyw fanylion a ddarperir.

 

Gwybodaeth am bobl eraill

Os ydych chi’n gwneud cais am wybodaeth am unigolyn arall, neu ar ran unigolyn arall, bydd angen caniatâd ysgrifenedig ac eglur arnom gan y person hwnnw yn ogystal â manylion clir am ble y mae’r unigolyn am i’r wybodaeth honno gael ei hanfon.

Bydd angen i’r unigolyn hwnnw ei adnabod hefyd, yn ogystal â phrawf o’i gyfeiriad, neu eich cyfeiriad, os mai dyna le mae’r unigolyn yn dymuno i’r dogfennau gael eu hanfon.

Bydd ganddynt hawl i wybodaeth sy’n ymwneud â hwy fel unigolyn yn unig. Bydd unrhyw gyfeiriadau at bobl eraill, neu wybodaeth nad yw’n ymwneud â hwy, yn cael eu dileu o’r dogfennau. Bydd hyn yn cael ei ddangos yn glir a’i hesbonio ar unrhyw fanylion a ddarperir

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am wneud cais am ddata personol, neu os hoffech wybod mwy am y wybodaeth bersonol a gesglir gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, mae croeso i chi gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data dynodedig.

 

Ymatebion i Geisiadau RhG

Rydym yn cyhoeddi detholiad o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth (RhG) a dderbyniwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ymatebwyd i ymholiadau (RhG) yn yr iaith y gofynnwyd amdani, ac fe’u rhestrir yn ôl rhif a blwyddyn. Oherwydd rhesymau preifatrwydd, rydym wedi dileu unrhyw fanylion personol. Nid ydym yn cyhoeddi ceisiadau dyblyg neu ailadroddus. I gael rhagor o wybodaeth mae croeso i chi gysylltu â’n Tîm Rheoli Gwybodaeth ar 01443 232213. Roedd y wybodaeth yn gywir adeg ei chyhoeddi ond nid yw’n cael ei hadolygu na’i diweddaru. Mae’n bosib na fydd yn adlewyrchu’r sefyllfa bresennol yn gywir ac felly dylid ei ystyried yn gofnod hanesyddol.

DIWEDDARIAD COVID-19: Ceisiadau Gwybodaeth

Rydym yn gofyn yn garedig i unrhyw ohebiaeth diogelu data ddod i Lywodraethu a Chydymffurfiaeth Gwybodaeth trwy e-bost, oherwydd oherwydd cyngor y Llywodraeth mae llawer o’n staff cymorth yn gweithio’n hyblyg ac efallai na fyddwn yn derbyn swydd gorfforol fel arfer. Mae SWFRS yn rhagweld y gallai gymryd mwy nag 20 diwrnod gwaith i ni gwblhau Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth a Cheisiadau Mynediad Pwnc. Mae’r Comisiynydd Gwybodaeth yn cydnabod y gallai fod oedi oherwydd efallai y bydd ein gwasanaethau a’n hadnoddau’n cael eu defnyddio mewn ffyrdd ychydig yn wahanol, o dan yr amgylchiadau digynsail presennol