Yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (“y Gwasanaeth”), rydym yn cydnabod mai ein gweithwyr yw ein hased pwysicaf, ac er gwaethaf y rôlau, sy’n amrywio o rai Gweithredol a Rheoli Tanau i staff Corfforaethol ac Asiantaeth, gwyddom fod pob gweithiwr yn gwneud cyfraniad enfawr bob dydd i’n cynorthwyo wrth ddiogelu cymunedau De Cymru.

LHDT

Mae’r Grŵp LHDT ar gyfer pob aelod o staff sy’n ystyried eu hunain i fod yn lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu’n drawsrywiol. Dyma’r grŵp rhwydweithio mwyaf newydd a chafodd ei sefydlu i gydnabod eu hymrwymiad i staff cymorth a chaniatáu rhwydweithio yn ogystal â chyfleoedd cymdeithasol. Wedi i ddigon o ddiddordeb gael ei fynegi, caiff cyfarfod ei drefnu oddi ar y safle.

Bydd y gweinyddwr yn cadw unrhyw fanylion yn ymwneud â’r grŵp yn gwbl gyfrinachol. Os byddwch am fynegi diddordeb yn y grŵp, neu os bydd gennych unrhyw gwestiynau eraill, defnyddiwch y cyfeiriad e-bost a ddarparwyd.

Mae cyfrinachedd yn hollbwysig ac ymdrinnir ag unrhyw gyswllt yn unol â hynny.

Sylwer, mae’r grŵp hwn ar gyfer gweithwyr presennol Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru sy’n ystyried eu hunain i fod yn lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu’n drawsrywiol. Gellir gofyn cwestiynau sydd heb fod yn adnabyddadwy er mwyn gwirio a oes gan unigolyn statws gweithiwr.

Rhwydwaith Aelodau Lleiafrifoedd Du ac Ethnig (RhALlDE)

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn rhan o rwydwaith Aelodau Lleiafrifoedd Du ac Ethnig (ALlDE) sy’n grŵp blaengar o fewn Undeb y Brigadau Tân.

Mae’n cynrychioli, cefnogi ac arwain agenda cydraddoldeb ar gyfer aelodau lleiafrifoedd ethnig yn eu hundeb a’r Gwasanaeth Tân ac Achub heddiw ill dau, yn ogystal â hyrwyddo egwyddorion cydraddoldeb yn y cymunedau ehangach yr ydym yn eu gwasanaethu.

Ynghyd â chynnig arweiniad gyrfaol a dylanwadu ar greu a chynnal amgylcheddau gwaith cefnogol, mae’r grŵp hefyd yn addysgu am gydnabod amrywiaeth yn y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae GTADC yn falch o fod yn rhan o’r Rhwydwaith RhALlDE.

Black and Ethnic Minority Members Fire Brigades Union flag

Rhwydwaith Anableddau

Bwriedir i’r rhwydwaith anableddau staff fod yn rhwydwaith cymorth i weithwyr a chyn weithwyr GTADC sydd naill ai ag anableddau eu hunain neu sy’n darparu gofal i rywun ag anabledd.

Er bod y grŵp ond newydd sefydlu, y bwriad yw y bydd y grŵp yn darparu cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth i holl aelodau’r staff.

Rhwydwaith Staff Aml-ffydd 

Bydd y rhwydwaith hwn yn bodloni anghenion cymorth staff ymhellach mewn ffordd adeiladol a phroffesiynol. Bydd hefyd yn gwella’r ystod gynhwysfawr sefydledig bresennol sy’n cynnwys: LHDT, pobl anabl, yn ogystal â’r ddarpariaeth Rhwydweithio Menywod yn y Gwasanaeth Tân.

Gellir sefydlu grŵp ffydd/cred sy’n cytuno ac yn mabwysiadu Cylch Gorchwyl Rhwydweithiau Cymorth o dan ymbarel Rhwydwaith Cymorth Staff Aml-ffydd.

Ymhlith rhai o’r manteision i’r grwpiau fydd y gallu i ddefnyddio lleoliadau priodol GTADC i gynnal eu cyfarfodydd neu gymdeithasau y tu hwnt i oriau gwaith, gan gyflwyno hysbysiadau ar y rhyngrwyd a defnyddio cyfleusterau megis llungopïo ac ati.

Bydd y Rhwydwaith Aml-ffydd yn cynnwys cynrychiolwyr o bob un o’r grwpiau ffydd/cred i staff y gellid eu sefydlu a bydd yn cyfarfod tair gwaith y flwyddyn i rannu a gweithredu fel cyfrwng ar gyfer ymgysylltu sefydliadol.