30 mlynedd gan wasanaeth gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn lansio prosiect etifeddiaeth ‘Ysbryd Tân’ cyn ei ben-blwydd yn 30 oed

Ffurfiwyd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) ym 1996 trwy uno brigadau tân De Morgannwg, Canol Morgannwg, a Gwent. Canlyniad uniongyrchol i ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru, yn benodol Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 oedd yr uno hwn.

Erbyn hyn, wrth i’r gwasanaeth agosáu at ei ben-blwydd yn 30 oed ym mis Ebrill 2026, mae menter etifeddiaeth yn cael ei lansio i anrhydeddu effaith y gwasanaeth ar bobl, diwylliant a chymunedau.

Mae prosiect Ysbryd Tân yn galw ar gyn-aelodau staff a staff wedi ymddeol GTADC ac aelodau’r gymuned i rannu eu hatgofion, ffotograffau a straeon fel rhan o archif ddiwylliannol ar gyfer y dathliadau’r pen-blwydd.

Ar gyfer gyn-aelodau staff a’u teuluoedd

Oeddech chi, neu aelod o’ch teulu, yn rhan o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru? Mae tîm y prosiect yn croesawu cyfraniadau gan unrhyw un â rhan yn y gwasanaeth dros y blynyddoedd, gan gynnwys diffoddwyr tân, staff rheoli, staff corfforaethol a chymorth neu gontractwyr.

Gall cyfranogwyr:

  • Wirfoddoli ar gyfer cael eich cyfweld i archif Ysbryd Tân
  • Gyflwyno ffotograffau (diwrnodau ar ddyletswydd, digwyddiadau cymdeithasol, gwaith cymunedol, neu eiliadau anffurfiol)
  • Rannu atgofion ac eiliadau balch
  • Ddweud wrthym am gydweithiwr neu fentor a wnaeth effaith barhaol

Dyma gyfle unigryw i ystyried yr hyn y mae diwylliant y gwasanaeth tân yn ei olygu mewn gwirionedd – yr hyn yr ydym yn ei diogelu, ei dathlu a’i pharhau.

Ar gyfer y cyhoedd

Mae’r tîm hefyd yn awyddus i glywed gan aelodau’r cyhoedd â rhyngweithiadau cofiadwy gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Boed drwy ymateb brys, ymweliadau ysgol, digwyddiadau elusennol neu fentrau cymunedol. Mae pob stori’n helpu i greu darlun o gyrhaeddiad a dylanwad y Gwasanaeth.

Gallwch chi:

  • Wirfoddoli ar gyfer cymryd rhan mewn cyfweliad byr
  • Rannu lluniau o’ch profiadau
  • Adrodd eich straeon, mawr neu fach

Sut i gyfrannu

Os hoffech chi gymryd rhan, cewch gysylltu â thîm Ysbryd Tân drwy e-bost yn:

spirit-of-fire@southwales-fire.gov.uk 

or ysbryd-tan@decymru-tan.gov.uk ar gyfer cyfathrebu yn y Gymraeg

Neu gallwch anfon eich cyfraniadau drwy’r post:
Tîm Prosiect Ysbryd Tân
Pencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Parc Busnes Forest View
Llantrisant
CF72 8LX

Ymunwch â ni i ddiogelu’r etifeddiaeth a dathlu ysbryd y rhai sydd wedi llunio’r gwasanaeth a’r cymunedau y mae’n eu hamddiffyn.