Ymladdwr Tân ar Alwad
Mae Ymladdwyr Tân Ar Alwad yn rhan anhepgor o’r Gwasanaethau Tân ac Achub. Maent yn darparu gwasanaeth effeithlon, effeithiol gan weithredu ar frys o fewn mwy na 90% o’r DU.
Yn Ne Cymru, mae tua thraean o’n gweithlu gweithredol yn Ymladdwyr Tân Ar Alwad a leolir fel arfer o fewn cymunedau gwledig, mewn trefi bach a phentrefi.
Yn debyg i’r Ymladdwyr Tân System Ddyletswydd Gyflawn, mae Ymladdwyr Tân Ar Alwad yn ymateb i danau a Galwadau Gwasanaeth Arbennig e.e. gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd, argyfyngau cemegol, ac argyfyngau naturiol eraill. Mae hefyd gofyn iddynt hysbysu ac addysgu eu cymunedau lleol a chynnal ymweliadau Diogelwch a Lles mewn cartrefi pobl.
Mae Ymladdwyr Tân Ar Alwad yn gweithio yn ôl System Ddyletswydd Ar Alwad a rhaid iddynt fyw neu weithio o fewn y gymuned Leol. Maent yn hanu o bob cefndir. Yn eu plith mae adeiladwyr, ymgynghorwyr, rhieni sy’n aros gartref, gweinyddwyr, gweithwyr ffatri, gofalwyr, myfyrwyr neu bobl sy’n ddi-waith ar hyn o bryd. Y rhain yw’r bobl sy’n gallu rhoi o’u hamser i gynorthwyo’r Gwasanaethau Tân ac Achub gan ennill cyflog yr un pryd.
Mae’r holl Ymladdwyr Tân Ar Alwad â ‘rhybuddiwr’ bob amser tra eu bod ar ddyletswydd, fel bod modd iddynt ymateb i’w Gorsafoedd pan fydd angen, o fewn amser penodol o gael galwad. Gallant ymateb i alwadau brys o’u cartrefi yn ystod oriau hamdden neu, mewn rhai achosion, o’u gweithle os bydd eu cyflogwr yn caniatáu.
Gofynnir i bob Ymladdwyr Tân Ar Alwad ymroi i nifer penodol o oriau gweithredu a mynychu sesiwn hyfforddiant fin nos bob wythnos (sef noson ymarfer).
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a hysbysebir manylion pob ymgyrch recriwtio ar y dudalen hon.
Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio ar gyfer Ymladdwyr Tân Ar-Alwad yn y gorsafoedd canlynol:
Abercarn |
Abercynon |
Abersychan |
Abertillery |
Barri |
Blaenavon |
Pen-y-bont |
Brynmawr |
Caerffilli |
Caldicot |
Chepstow |
Bontfaen |
Gilfach Goch |
Hirwaun |
Mynydd Cynffig |
Llanilltud Fawr |
Maesteg |
Trefynwy |
Bro Ogwr |
Pont-y-clun |
Pontycymer |
Pontypridd |
Porthcawl |
Rhymney |
Risca |
Tredegar |
Brynbuga |
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch â’r tîm recriwtio ar 01443 232200.