Cyflwyniad

I ddarparu ein gwasanaethau’n effeithiol, efallai bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (“GTADC”) angen casglu a phrosesu eich data personol. Mae GTADC wedi ymrwymo i ddiogelu’r data hwnnw ac mae’r rhybudd preifatrwydd hwn yn egluro sut mae GTADC yn defnyddio data personol amdanoch chi a sut rydym yn diogelu’r data personol hwnnw.

Efallai bydd y rhybudd hwn yn cael ei ddiweddaru o dro i dro, i adlewyrchu natur newidiol ein gwasanaethau.

 

Pwy ydym ni?

Mae GTADC yn rheolydd data ar gyfer data personol ac fe’i cofrestrir fel hyn gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (“SCG”) sef corff rheoleiddio annibynnol y DU a sefydlwyd i gynnal hawliau gwybodaeth, gan gynnwys y rhai hynny a gynhwyswyd o fewn deddfwriaeth diogelu data. Mae deddfwriaeth diogelu data yn cynnwys yr holl ddiogelwch data a deddfwriaeth cymwys sydd mewn grym o dro i dro yn y DU gan gynnwys GDPR y DU; Deddf Diogelu Data 2018 (a phob rheoliadau a wnaethpwyd dan y pennawd hwnnw); a Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebiadau Electronig 2003 fel y’u diwygiwyd; a phob deddfwriaeth a gofyniad rheolaethol arall sydd mewn grym o dro i dro sy’n ymwneud â’r defnydd o ddata personol (gan gynnwys ond heb gyfyngiad, preifatrwydd cyfathrebiadau electronig).

Ein rhif cofrestru â’r SCG yw Z4777683 ac fe ellir gweld hwn ar wefan y SCG.

Ein Swyddog Diogelu Data yw ein Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth, ac mae ganddo’r cyfrifoldeb am ddiogelu data a materion llywodraethu gwybodaeth o ddydd i ddydd o fewn GTADC.

Gellir cysylltu â nhw wrth gysylltu â’n Tîm Llywodraethu Gwybodaeth:

 

Pam ydyn ni angen casglu data personol?

Mae’r data personol rydym yn casglu a phrosesu yn caniatáu i ni ddarparu gwasanaethau atal, diogelu a brys i’r cymunedau rydym yn gwasanaethu. Hefyd, efallai byddwn yn defnyddio peth o’r data personol i’n helpu ni i wella ein gwasanaethau. Mae esiamplau o pam rydym yn casglu neu, fel arall, prosesu data personol yn cynnwys:

  • Darparu gwasanaethau cyhoeddus a’n galluogi ni i gyflawni ein cyfrifoldebau statudol, gan gynnwys rheoli ymatebion i ddigwyddiadau megis tanau, gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd ac argyfyngau eraill.
  • Sicrhau diogelwch parhaus ein staff ac aelodau’r cyhoedd wrth gyflawni ein dyletswyddau. Mae hyn yn cynnwys casglu a phrosesu data personol drwy law delweddau llonydd (lluniau), delweddau symudol (ffilm/fideo) a recordiadau sain lle bo’n briodol. Er enghraifft, drwy law Camerâu Teledu Cylch Cyfyng ar ein hadeiladau a’n cerbydau neu gamerâu fideo a wisgwyd ar gyrff ein gweithwyr.
  • I gysylltu drwy law ffôn, tecst, e-bost a gyda’r post, yn enwedig pe bawn angen caffael gwybodaeth bellach ynghylch digwyddiad gan y rhai hynny a adroddodd neu fel arall sydd wedi bod ynghlwm â hwy. Hefyd, i gadarnhau eich hunaniaeth cyn darparu rhai o’n gwasanaethau.
  • I wirio ansawdd ac effeithiolrwydd ein gwasanaethau. Gan gynnwys cysylltu ar ôl darparu rhai gwasanaethau, i gaffael safbwyntiau ar y gwasanaethau hynny i’n helpu ni ddeall anghenion yn well, fel y cawn ddeall sut i atal digwyddiadau pellach a helpu diogelu pobl i’r dyfodol.
  • I ddarparu cyngor atal tân yn y cartref, cyfarwyddyd, a chynnal gwiriadau diogelwch rhag tân yn y cartref.
  • I ddarparu cyngor diogelwch tân i fusnesau, cyfarwyddyd ac i gynnal archwiliadau diogelwch tân i fusnesau.
  • I ymgymryd â chamau rheolaethol, trwyddedu a gorfodi ar gyfer diogelwch tân i fusnesau.
  • I gynnal ymchwiliadau tân.
  • I ymchwilio i unrhyw bryderon neu gwynion ynghylch ein gwasanaethau.
  • I ymchwilio a chynllunio gwasanaethau newydd.
  • I gynnal ein cofnodion a’n cyfrifon ein hunain.
  • I wirio bod ein gwasanaethau yn parhau i gwrdd â’i gyfrifoldebau cyfreithiol.
  • I ymgymryd ag ymarferion recriwtio a phrosesu ceisiadau ar gyfer cyflogaeth.
  • I gefnogi a rheoli ein staff.

Os na chawn ein darparu â data personol ar gais, efallai na fyddwn yn gallu darparu’r help, cefnogaeth, cyngor a’r gofal angenrheidiol. Hefyd, fe all ein hatal rhag rhoi pobl mewn cysylltiad â sefydliadau a gwasanaethau eraill a all ddarparu help, cefnogaeth, cyngor a gofal.

Tra byddwn yn aml yn casglu a phrosesu data personol achos bod gennym ddyletswydd neu ymrwymiad nad sydd angen caniatâd arnom, byddwn bob tro’n annog pobl i ddarparu’u data personol sydd angen arnom i ni pan ofynnir amdano fel y cawn gyflawni’n gwaith.

Pe bai gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, cysylltwch â’n Tîm Llywodraethu Gwybodaeth.

 

Pa ddata personol ydyn ni’n casglu?

Bydd y math o ddata personol rydym yn casglu a phrosesu ynghylch unigolion yn amrywio, yn dibynnu ar y math o wasanaeth sy’n cael ei ddarparu. Efallai bydd hyn yn cynnwys data personol ynghylch unigolion megis:

  • Enw, teitl, cyfeiriadau, rhifau ffôn a chyfeiriadau e-bost.
  • Oed a/neu ddyddiad geni.
  • Rhyw.
  • Cenedligrwydd.
  • Dewis Iaith.
  • Gwybodaeth ynghylch amgylchiadau personol megis pwy sy’n byw yn y cyfeiriad.
  • Manylion eich perthynas agosaf.
  • Anghenion addysgu a hyfforddi.
  • Gwybodaeth Cyflogi.

Efallai fe all hwn gynnwys categorïau arbennig o ddata personol megis:

  • Data personol sy’n datgelu tarddiad hil neu ethnig.
  • Data personol sy’n datgelu safbwyntiau gwleidyddol.
  • Data personol sy’n datgelu crediniaeth grefyddol neu athronyddol.
  • Data personol sy’n datgelu aelodaeth o Undeb Llafur.
  • Data generig.
  • Data biometreg.
  • Data sy’n ymwneud ag iechyd person.
  • Data sy’n ymwneud â bywyd rhywiol person.
  • Data sy’n ymwneud â chyfeiriadedd rhywiol person.

Efallai gall hwn gynnwys data sy’n ymwneud â chollfarnau troseddol a throseddau neu faterion diogelwch megis:

  • Gweithgarwch troseddol.
  • Cyhuddiadau.
  • Ymchwiliadau.
  • Achosion.
  • Dirwyon.
  • Amodau neu gyfyngiadau a roddwyd ar unigolyn; a’u
  • Mesurau sifil a all arwain at gosb droseddol os nad ymlynir ag ef.

Fodd bynnag, byddwn yn casglu neu fel arall prosesu ba ddata bynnag sydd angen arnom i ddarparu’r gwasanaeth a ddarperir yn unig. Darperir rhai esiamplau o’r gwasanaethau rydym yn darparu ac esiamplau o’r mathau o ddata personol a ellir ei gasglu gennym neu fel arall a brosesir gennym isod.

 

Ymateb i Argyfyngau

Er mwyn ymateb i argyfwng a dyrannu adnoddau’n briodol, efallai byddwn yn casglu, neu fel arall, yn prosesu data personol megis:

  • Enw, teitl a rhifau ffôn y galwr i gyfathrebu â hwy.
  • Cyfeiriad y digwyddiad.
  • Gwybodaeth ynghylch unrhyw un a all fyw neu fod yn y digwyddiad, megis eu hoed, rhyw ac unrhyw faterion iaith/cyfathrebu.
  • Unrhyw wybodaeth sy’n berthnasol i warchod bywyd neu arbed eiddo, megis manylion rhif cofrestru ceir, neu p’un ai os oes unrhyw ddeunyddiau fflamadwy neu gemegol wedi’u storio ar leoliad digwyddiad.

Hefyd, efallai byddwn yn casglu neu, fel arall yn prosesu, categorïau arbennig o ddata personol megis:

  • Gwybodaeth ynghylch iechyd, gan gynnwys unrhyw gyflyrau meddygol, o’r rhai hynny a all fyw neu fod mewn digwyddiad, megis os ydynt yn wynebu unrhyw faterion symudedd.

Mae GTADC yn gweithredu Ystafell Reoli Gwasanaethau Brys ar y Cyd â staff o sefydliadau partner – Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Pan wneir galwad i’r rhif 999 brys a gwneir cais am y Gwasanaeth Tân ac Achub, cysylltir y galwr â Chyd-reoli Tân. Gall y gweithredydd Rheoli Tân sy’n siarad â’r galwr fod o naill ai GTADC neu Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae gweithredwyr wedi derbyn hyfforddiant eang i ddelio â galwadau gan ardaloedd y ddau Wasanaeth Tân ac Achub ac maent yn defnyddio’r un system rheoli digwyddiadau.

 

Gwarchodaeth, Diogelwch, Ymwybyddiaeth Sefyllfaol a Hyfforddiant

I sicrhau diogelwch parhaus ein staff ac aelodau’r cyhoedd yn ein lleoliadau ac wrth gyflawni ein dyletswyddau, i warchod ein hasedau, i wella ymwybyddiaeth sefyllfaol mewn digwyddiadau, i gofnodi tystiolaeth, i asesu a monitro perfformiad ac i gynorthwyo hyfforddiant, efallai byddwn yn recordio delweddau llonydd (lluniau), delweddau symudol (ffilm/fideo), a sain, er enghraifft, drwy law Camerâu Teledu Cylch Cyfyng ar adeiladau a cherbydau, camerâu fideo sy’n cael eu gwisgo gan ein gweithwyr, camerâu a dronau a ddefnyddir mewn digwyddiadau neu yn ystod galwadau a wnaed i unrhyw un o’n llinellau ffôn sy’n cael eu recordio.

Efallai byddwn yn casglu, neu fel arall, yn prosesu data personol megis:

  • Eich delwedd, gan gynnwys delweddau llonydd (lluniau) a delweddau symudol (ffilm/fideo).
  • Manylion a rhif cofrestru eich cerbyd
  • Recordiadau sain o’ch llais.
  • Enw, teitl, cyfeiriad a rhif ffôn.
  • Oed a/neu ddyddiad geni.
  • Gwybodaeth ynghylch unrhyw un a all fyw neu fod yn y digwyddiad, megis eu hoed, rhyw ac unrhyw faterion iaith/cyfathrebu.
  • Unrhyw wybodaeth sy’n berthnasol i warchod bywyd neu arbed eiddo, megis manylion rhif cofrestru ceir, neu p’un ai os unrhyw ddeunyddiau fflamadwy neu gemegol wedi’u storio ar leoliad digwyddiad.

Hefyd, efallai byddwn yn casglu neu, fel arall yn prosesu, categorïau arbennig o ddata personol megis:

  • Gwybodaeth ynghylch iechyd, gan gynnwys unrhyw gyflyrau meddygol, o’r rhai hynny a all fyw neu fod mewn digwyddiad, megis os ydynt yn wynebu unrhyw faterion symudedd.

 

Recriwtio

I ddarparu ein gwasanaethau a chyflawni ein swyddogaethau craidd yn ôl disgrifiad Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 ac i orfodi a rheoleiddio cyfraith tân ac achub megis y Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005, rydym yn darparu rhybuddion swydd (lle fyddwch wedi rhoi cais i dderbyn y rhain), yn ymgymryd ag ymarferion recriwtio ac yn prosesu ceisiadau am gyflogaeth. Efallai byddwn yn casglu, neu fel arall, yn prosesu data personol megis:

  • Enw, teitl, cyfeiriadau, rhifau ffôn a chyfeiriadau e-bost.
  • Oed a / neu ddyddiad geni.
  • Rhif Yswiriant Gwladol.
  • Gwybodaeth recriwtio megis teitl swydd, hanes gwaith, oriau gweithio, hanes hyfforddi ac aelodaeth broffesiynol a gynhwysir ar eich ffurflen gais, CV, llythyr eglurhaol.
  • Eich hawl i ddogfennaeth gwaith a thystlythyrau.
  • Eich delwedd (a ellir ei recordio ar Gamerâu Teledu Cylch Cyfyng) a manylion a rhif cofrestru eich cerbyd os fyddwch chi’n ymweld â ni am gyfweliad.

Hefyd, efallai byddwn yn casglu neu, fel arall yn prosesu, categorïau arbennig o ddata personol megis:

  • Gwybodaeth ynghylch eich iechyd, gan gynnwys unrhyw gyflwr meddygol, a chofnodion iechyd a salwch.

Hefyd, efallai byddwn yn casglu, neu fel arall, yn prosesu data personol sy’n ymwneud â chollfarnau troseddol a throseddau sy’n ymwneud â materion diogelwch.

Bydd y data personol a ddarperir fel rhan o ymarferiad recriwtio a phroses ymgeisio fel arfer dim ond yn cael ei ddefnyddio at y dibenion hyn. Y manylion byddwn yn dal bydd y data personol a ddarparwyd ar ein ffurflen gais e-recriwtio, neu a ddarparwyd i ni drwy law e-bost neu ar lafar fel rhan o’r broses ymgeisio, neu ddata personol byddwn yn caffael yn ystod prosesau cefndir a betio megis gan gyflogwr blaenorol ac unrhyw eirda cymeriad, fel rhan o wiriadau datgelu a gwahardd ac fel rhan o unrhyw brawf meddygol a all fod yn ofynnol ar gyfer y rôl.

Os ydych chi wedi dewis cwblhau elfen Cyfle Cyfartal y broses ymgeisio, efallai byddwn yn dal a phrosesu data personol megis tarddiad ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd, crefydd a chrediniaeth ac iaith. Bydd y data personol hwn yn cael ei ddal at ddibenion ystadegol a monitro’n unig ac ni fydd yn cael ei weld gan banelau rhestr fer neu ddethol.

 

Diogelwch Tân yn y Cartref

I ddarparu cyngor penodol ynghylch diogelwch mewn cartref, efallai byddwn yn casglu, neu fel arall, yn prosesu data personol megis:

  • Enw, teitl, cyfeiriadau, rhifau ffôn a chyfeiriadau e-bost.
  • Oed a/neu ddyddiad geni.
  • Rhyw.
  • Dewis Iaith.

Hefyd, efallai byddwn yn casglu neu, fel arall yn prosesu, categorïau arbennig o ddata personol megis:

  • Gwybodaeth ynghylch iechyd, gan gynnwys unrhyw gyflyrau meddygol o’r rhai hynny a all fyw yn y cartref.
  • Er enghraifft, mae’n ein helpu ni i wybod os oes unrhyw un yn yr eiddo’n ysmygwr, p’un ai os oes unrhyw alcohol yn y tŷ a ph’un ai os oes gan unrhyw un materion meddygol a all effeithio’u gallu i adael yr eiddo mewn argyfwng.

 

Helpu Plant a Phobl Ifanc

I ddarparu addysg diogelwch rhag tân un i un sydd wedi’i deilwra i blant a phobl ifanc (y rhai hynny i fyny at 18 oed) sydd ag ymddygiad gosod tanau, yn ogystal â chefnogaeth a chyngor i rieni, gwarcheidwaid a gofalwyr i helpu lleihau tanau bwriadol ac i fynd i’r afael â phryderon diogelwch tân, efallai byddwn yn casglu, neu fel arall, yn prosesu data personol megis:

  • Enw, teitl, cyfeiriadau, rhifau ffôn, cyfeiriadau e-bost cyfeirwyr a rhieni, gwarcheidwaid a gofalwyr, a’u perthynas â’r plentyn neu’r person ifanc.
  • Tystiolaeth o gydsyniad gan riant, warcheidwad neu ofalwyr.
  • Enw, oed, nodweddion personol a disgrifiad/naratif ymddygiad sy’n achosi pryder plentyn neu berson ifanc.
  • Gwybodaeth sy’n ymwneud ag unrhyw faterion iechyd a diogelwch wrth weithio gyda’r plentyn neu’r person ifanc.

Hefyd, efallai byddwn yn casglu neu, fel arall yn prosesu, categorïau arbennig o ddata personol megis:

  • Gwybodaeth sy’n ymwneud ag iechyd y plentyn neu’r person ifanc gan gynnwys unrhyw gyflwr meddygol.

 

Diogelwch Tân i Fusnesau

Er mwyn darparu cyngor penodol ynglŷn â Diogelwch Tân mewn busnes a gorfodi a rheoleiddio deddfwriaeth diogelwch tân megis Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005, efallai byddwn yn casglu, neu fel arall, yn prosesu data personol megis:

  • Enw, teitl, cyfeiriadau, rhifau ffôn a chyfeiriadau e-bost.
  • Oed a / neu ddyddiad geni.
  • Rhyw.
  • Dewis Iaith.

Hefyd, efallai byddwn yn casglu neu, fel arall yn prosesu, categorïau arbennig o ddata personol megis:

  • Data personol sy’n datgelu tarddiad hil neu ethnig.
  • Data personol sy’n datgelu crediniaeth grefyddol neu athronyddol.

Tra byddwn efallai’n cofnodi sut y defnyddir adeilad a all ddynodi, er enghraifft, ei fod yn cael ei ddefnyddio at ddibenion gofal iechyd, yn arferol, ni fyddwn yn gofyn am wybodaeth sy’n ymwneud ag iechyd penodol person.

Hefyd, efallai byddwn yn casglu, neu fel arall, yn prosesu data personol sy’n ymwneud â chollfarnau troseddol a throseddau sy’n ymwneud â materion diogelwch.

 

Cyfathrebiadau, Atynnu ac Ymgysylltu

Gall GTADC ddefnyddio fideos, sain neu ffotograffiaeth wrth eu cyhoeddi’n gyhoeddus ar gyfer ddibenion cyfathrebu, atynnu ac ymgysylltu. Mae hyn yn cynnwys rhesymau megis addysgu, recriwtio, dyrchafu neu ddiogelwch cymunedol. Fe all fideos, sain neu ddeunyddiau ffotograffiaeth gael eu cymryd, er enghraifft, mewn digwyddiadau cyhoeddus. Efallai byddwn yn casglu, neu fel arall, yn prosesu data personol megis:

  • Enw, teitl, cyfeiriadau, rhifau ffôn a chyfeiriadau e-bost.
  • Oed a/neu ddyddiad geni.
  • Gwybodaeth ynghylch eich rôl a’ch gweithle.
  • Eich delwedd, gan gynnwys delweddau llonydd (lluniau) a delweddau symudol (ffilm/fideo).
  • Recordiadau sain o’ch llais.
  • Eich safbwyntiau neu sylwadau ar unrhyw bynciau gan gynnwys unrhyw ddata personol a allwch chi benderfynu datgelu i ni.

Bydd llawer o’r data personol yn cael ei gaffael yn uniongyrchol gennych chi. Ond hefyd, efallai byddwn ni’n caffael data personol o’n gwasanaethau partner neu ddata personol sydd eisoes yn gyhoeddus.

Efallai bydd GTADC yn cyhoeddi deunyddiau fideo, sain neu ffotograffiaeth ar y rhyngrwyd (megis gwefan YouTube), ar gyfryngau eraill (megis teledu, radio, sinema, DVD neu gyfryngau caled eraill), ar y cyfryngau cymdeithasol, yn y wasg neu ddeunydd print (megis posteri neu ddeunydd copi caled arall).

Lle bydd GTADC yn defnyddio’r fath ddeunydd yn y dull uchod, fel arfer bydd yn dibynnu ar ei les gyfiawn i wneud hyn lle rydym yn credu ei fod yn rhesymol i wneud hyn a lle nad yw’n effeithio eich hawl at breifatrwydd. Lle bydd GTADC yn dibynnu ar les gyfiawn, mae hawl gan unigolion i wrthwynebu’r fath ddefnydd.

Byddwn yn ymdrechu i gadw’r eich data personol yn gywir a chyfredol. Fodd bynnag, os credwch bydd y wybodaeth sydd gennym yn anghywir neu os ydych yn ymwybodol bod rhai manylion wedi newid, rhowch wybod i ni fel y cawn gofnodi’r newidiadau hynny.

Os ydych chi’n dymuno gwrthwynebu parthed y defnydd o fideos, ffotograffiaeth neu recordiadau sain neu dynnu eich caniatâd lle bydd cydsyniad yn ddibynnol, cysylltwch â’r Tîm Llywodraethu Gwybodaeth:

Er gellir gwrthwynebu neu dynnu cydsyniad ar unrhyw adeg, unwaith byddwn wedi cyhoeddi fideos, sain neu ddeunyddiau ffotograffiaeth mi fyddai wedi bod ar gael i’r cyhoedd ac, fel y cyfryw, ni all GTADC warantu bydd deunyddiau yn cael eu dileu’n llwyr o bob ffynhonnell.

 

Ymgynghoriadau

Efallai bydd GTADC yn cynnal ymgynghoriadau, er enghraifft, lle bydd gennym ddyletswydd statudol i wneud hyn ac i’n helpu ni gwneud penderfyniadau deallus ynghylch sut rydym yn ymarfer ein swyddogaethau cyhoeddus a’n grymoedd statudol. I gynnal ymgynghoriadau, efallai bydd GTADC yn casglu, neu fel arall, yn prosesu data personol megis:

  • Enw a chyfeiriad e-bost.
  • Y rhinwedd eich bod yn ateb.
  • Enw’r sefydliad rydych chi’n ymateb ar eu rhan (os yn gymwys).
  • Awdurdod Lleol neu ardal sefydliadol gweithrediadau eich cartref.
  • Eich safbwyntiau neu sylwadau ar unrhyw bynciau gan gynnwys unrhyw ddata personol a allwch chi benderfynu datgelu i ni.

Byddwn yn prosesu data personol i gynllunio a chynnal ymgynghoriad, a, lle bo’n gymwys, dadansoddi canlyniadau. Cydnabyddir y gallai unigolion ddewis adnabod eu hunain mewn ymateb i ymgynghoriad. Byddwn er hyn, ar bob adeg, yn ymdrechu i ddileu unrhyw wybodaeth adnabod cyn cynhyrchir a chyhoeddir adroddiad.

Lle byddwn yn cyhoeddi, derbyn ceisiadau neu fel arall lle bydd gofyn arnom i rannu data personol, gwneir hyn dim ond pan fydd sail gyfreithiol i wneud hyn.

Os ydych chi wedi cofrestru i ymuno â’n Cofrestr Rhanddeiliaid, cewch ymeithrio neu ddiweddaru eich dewisiadau ar unrhyw adeg. Cysylltwch â’n tîm Cyfryngau a Chyfathrebiadau:

  • E-bost: Swyddfa_Wasg@decymru-tan.gov.uk
  • Post: Cyfryngau a Chyfathrebiadau, Pencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Parc Busnes Forest View, Llantrisant, CF72 8LX
  • Ffôn: 01443232299

 

Ystadegau

Mae GTADC yn prosesu gwybodaeth, gan gynnwys data personol, ynghylch y gwasanaethau rydym yn darparu, i gynhyrchu ystadegau. Defnyddir y rhain i’n caniatáu ni i adnabod meysydd lle gallwn wella’r gwasanaethau rydym yn darparu a’n/neu’n caniatáu ni i ddatblygu cyngor penodol. Yn ogystal â’u defnyddio at ein dibenion ein hunain, rydym hefyd yn derbyn ceisiadau, ac ar adegau mae gofyn i ni ddarparu gwybodaeth i sefydliadau eraill megis Gwasanaethau Brys eraill, Llywodraeth Cymru, Asiantaethau’r Llywodraeth, Darparwyr Iechyd ac Awdurdodau Lleol.

Tra’r ydym yn prosesu data personol i gynhyrchu’r ystadegau, fel arfer, mae’r ystadegau gwirioneddol a gynhyrchwyd yn anhysbys. Lle’r ydym yn derbyn ceisiadau neu, fel arall lle bydd gofyn arnom i rannu data ystadegol nad sy’n anhysbys, gwneir hyn dim ond pan fydd sail gyfreithiol i wneud hyn.

I gynhyrchu ystadegau, efallai byddwn yn casglu, neu fel arall prosesu data personol megis:

  • Cyfeiriadau.
  • Rhyw.
  • Dewis Iaith.

Hefyd, efallai byddwn yn casglu neu, fel arall yn prosesu, categorïau arbennig o ddata personol megis:

  • Data personol sy’n datgelu tarddiad hil neu ethnig.
  • Data personol sy’n datgelu crediniaeth grefyddol neu athronyddol.
  • Data sy’n ymwneud ag iechyd person.
  • Data sy’n ymwneud â chyfeiriadedd rhywiol person.

Lle rhoddir cais am ddata personol at ddibenion ystadegol yn unig, mae dewis gennych i’w ddarparu ai peidio (bydd hyn cael ei egluro i chi ar yr adeg honno).

 

Lle’r ydym yn casglu data personol?

Yn aml, darperir data personol gennych chi – er enghraifft pan fyddwch yn cysylltu â ni wrth ffonio, yn llenwi un o’n ffurflenni ar-lein neu pan fyddwn yn ymweld â chi yn eich cartref neu yn eich lleoliad busnes.

Ambell waith, caiff ei ddarparu gan:

  • Aelod o’ch teulu megis gŵr, gwraig, plentyn neu riant. Hefyd, gan warcheidwad neu ddarparwr gofal.
  • Corff cyhoeddus arall, megis gwasanaeth tân ac achub arall, yr Heddlu, timau troseddwyr ifanc, gwasanaethau plant, y gwasanaeth ambiwlans, y GIG neu awdurdod lleol.
  • Ysgolion
  • Sefydliadau neu gwmnïau eraill a gafodd ganiatâd gennych i rannu eich manylion â ni.
  • Ffynonellau i’r cyhoedd megis cofrestri cyhoeddus, er enghraifft Tŷ’r Cwmnïau.

Mae peth data personol yn wirfoddol, ond fe all effeithio’r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu os na ddarperir y data personol hwn. Gellir casglu peth data personol yn awtomatig, megis gan ein system rheoli digwyddiadau a fydd yn casglu’r rhif ffôn rydych yn defnyddio i alw a’ch lleoliad.

 

Beth yw’r sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arno i gasglu, neu fel arall, prosesu eich data personol?

Mae’r data personol rydym yn dal yn caniatáu i ni ddarparu gwasanaethau atal, diogelu a brys i’r cymunedau rydym yn gwasanaethu. Hefyd, efallai byddwn yn defnyddio peth o’r data personol i’n helpu ni i wella ein gwasanaethau.

Uchod, cewch ganfod esiamplau o ba ddata personol rydym yn casglu ac o le byddwn yn ei gasglu.

Er byddwn yn aml yn casglu a phrosesu data personol achos bod gennym ddyletswydd neu ymrwymiad nad sydd angen caniatâd arnom, byddwn bob tro’n annog pobl i ddarparu’u data personol sydd angen arnom i ni pan ofynnir amdano fel y cawn gyflawni’n gwaith. Pe bai gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, cysylltwch â’n Tîm Llywodraethu Gwybodaeth.

Os na chawn ein darparu â data personol ar gais, efallai na fyddwn yn gallu darparu’r help, cefnogaeth, cyngor a’r gofal angenrheidiol i chi. Hefyd, fe all ein hatal rhag rhoi pobl mewn cysylltiad â sefydliadau a gwasanaethau eraill a all ddarparu help, cefnogaeth, cyngor a gofal i chi.

Er mwyn i ni brosesu data personol, rhaid i ni gael sail gyfreithiol i wneud hynny – mae’r rhain wedi’u diffinio o fewn deddfwriaeth diogelu data. Bydd y sail gyfreithiol yn gwahaniaethu yn dibynnu ar y gwasanaeth rydym yn darparu neu’r gweithgaredd penodol rydym yn ymgymryd ag ef. Rydym yn casglu a phrosesu eich data personol ar sail un neu fwy o’r seiliau/rhesymau canlynol:

  • Mae’r prosesu yn angenrheidiol i amddiffyn eich buddion hanfodol. (Er enghraifft, pan fyddwn yn casglu a phrosesu data personol fel rhan o ddigwyddiad lle’r ydych yn ymateb ac mae yna risg i’ch bywyd).
  • Mae’r prosesu’n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a gynhaliwyd er lles y cyhoedd neu wrth arfer awdurdodaeth swyddogol a freiniwyd arnom fel gwasanaeth tân ac achub. (Er enghraifft, wrth ymgymryd â’n swyddogaethau craidd yn ôl disgrifiad Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 neu wrth orfodi a rheoleiddio cyfraith diogelwch tân megis y Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005).
  • Rydych wedi rhoi eich cydsyniad i ni brosesu eich data personol at bwrpas penodol (Ar ychydig iawn o achlysuron byddwn yn gofyn am ganiatâd i ni brosesu eich data personol gan, yn arferol, mae gennym ddyletswyddau neu rymoedd cyfreithiol i brosesu eich data personol i ymgymryd â’n swyddogaethau fel gwasanaeth tân ac achub. Byddai esiamplau, fodd bynnag, yn cynnwys lle rydych wedi cofrestru i dderbyn diweddariadau am swyddi gweigion neu gyfleoedd i wirfoddoli, lle rydych wedi rhannu eich data personol ac wedi cytuno i fod yn rhan o ymgyrch, gan gynnwys ymddangos ar wefan GTADC, ar sianelau cyfryngau cymdeithasol, cylchlythyr mewnol i staff, fideo diwedd blwyddyn ac o fewn hysbysebion, a lle fyddwch wedi ymgeisio am gystadleuaeth neu wobr).
  • Mae’r prosesu’n angenrheidiol ar gyfer cydymffurfio ag ymrwymiad cyfreithiol. (Er enghraifft, Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974, Deddf Gwybodaeth am yr Amgylchedd a Diogelwch 1988, a Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.).
  • Mae’r prosesu’n angenrheidiol ar gyfer cyflawni cytundeb rydych wedi cychwyn â ni, neu achos bod ei angen cyn cychwyn cytundeb. (Er enghraifft, sicrhau fod darpar gyflenwr yn cwrdd â gofynion GTADC neu brosesu data personol arbennig i sicrhau taw’r sawl rydym yn ceisio cyflogi yw’r bobl iawn ar gyfer y rolau dan sylw).
  • Mae gennym les cyfiawn i wneud hynny, heblaw wrth gyflawni ein tasgau cyhoeddus neu wrth ymarfer yr awdurdod swyddogol a freiniwyd arnom fel gwasanaeth tân ac achub a’n bod wedi ystyried eich hawliau. (Er enghraifft, diogelu ein rhwydwaith, ein safleoedd a’n systemau).

Ni fyddwn yn ail-ddefnyddio eich data personol at ddiben newydd heblaw’r hyn y casglwyd ef yn wreiddiol, oni bai bydd y defnydd newydd yn gymharus â’r diben gwreiddiol y casglwyd y data personol, neu ein bod wedi eich hysbysu o’r defnydd newydd ac wedi rhoi cyfle rhesymol i’w wrthwynebu, neu fel arall, y caniateir y defnydd newydd neu ei fod yn gyfreithiol ofynnol.

Er mwyn i ni brosesu categorïau arbennig o ddata personol, rhaid i ni hefyd gael amod ychwanegol ar gyfer prosesu sydd ddim o reidrwydd yn gorfod cael ei gysylltu.

Lle rydym yn prosesu categorïau arbennig o ddata personol, bydd yr amod ar gyfer prosesu yn gwahaniaethu yn dibynnu ar y gwasanaeth rydym yn darparu neu’r gweithgaredd penodol rydym yn ymgymryd ag ef. Rydym yn casglu a phrosesu eich categorïau arbennig o ddata personol yn seiliedig ar un neu fwy o’r amodau canlynol:

  • Cydsyniad diamwys.
  • Diogelwch cyflogaeth, nawdd cymdeithasol a diogelwch cymdeithasol (os yr awdurdodwyd drwy gyfraith).
  • Diddordebau hanfodol.
  • Cyrff nad sydd er elw.
  • Gwnaed yn gyhoeddus drwy law gwrthrych y data.
  • Hawliau cyfreithiol neu weithredoedd barnwrol.
  • Rhesymau o les sylweddol i’r cyhoedd (â sail gyfreithiol).
  • Gofal iechyd neu gymdeithasol (â sail gyfreithiol).
  • Iechyd cyhoeddus (â sail gyfreithiol).
  • Archifo, ymchwilio ac ystadegau (â sail gyfreithiol).

Mae rhesymau o les sylweddol i’r cyhoedd yn cynnwys:

  • Dibenion statudol a llywodraethol.
  • Atal neu ganfod gweithredoedd anghyfreithlon.
  • Diogelu’r cyhoedd.
  • Cymorth ar gyfer unigolion sydd ag anabledd neu gyflwr meddygol arbennig.
  • Diogelu plant ac unigolion sydd mewn perygl.

Er mwyn i ni brosesu collfarnau troseddol a throseddau neu faterion sy’n gysylltiedig â diogelwch, rhaid iddo naill ai fod o dan reolaeth awdurdodaeth swyddogol, neu raid i ni fodloni amod ar gyfer prosesu sy’n cynnwys:

  • Diogelwch cyflogaeth diogelwch nawdd cymdeithasol a diogelwch cymdeithasol.
  • Dibenion gofal iechyd neu gymdeithasol.
  • Iechyd cyhoeddus.
  • Dibenion statudol a llywodraethol.
  • Atal neu ganfod gweithredoedd anghyfreithlon.
  • Diogelu plant ac unigolion sydd mewn perygl.

Mae gan GTADC Dogfen Bolisi Priodol mewn lle yn nodi sut fyddwn yn diogelu Categorïau Arbennig o Ddata Personol a Data Collfarnau Troseddol, sy’n cefnogi ein Polisi Corfforaethol ar Reoli Gwybodaeth, ein Gweithdrefn Diogelu Data a’n Rhybuddion Preifatrwydd. Mae hwn yn cwrdd â gofynion Deddf Diogelu Data 2018 sef bod rhaid i ddogfen bolisi priodol fod mewn lle wrth Brosesu Categorïau Arbennig o Ddata Personol a Data Collfarnau Troseddol mewn rhai amgylchiadau. Eglura prosesu GTADC ac mae’n bodloni gofynion Cynllun Gwaith 1, Rhan 4, Deddf Diogelu Data 2018.

Mae gan GTADC rymoedd cyffredinol o dan Adran 5A o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 i’n caniatáu ni i wneud unrhyw beth rydym yn ystyried sy’n briodol at ddibenion cyflawni unrhyw un o’n swyddogaethau, neu unrhyw beth sy’n gysylltiedig â hwy. Bydd y grymoedd cyffredinol hyn yn cynnwys casglu a phrosesu data personol personol a sensitif i gyflawni’r swyddogaethau hyn.

 

Pwy arall fydd â mynediad i’ch gwybodaeth?

Efallai gellir cyrchu’r data personol a ddelir gan GTADC gan weithwyr awdurdodedig GTADC sydd ei hangen er mwyn ymgymryd â’u rôl. Efallai mai staff ar draws amrywiaeth o adrannau a lleoliadau fydd hyn. Fodd bynnag, fel y nodwyd, mae rheolyddion mewn lle i sicrhau bydd gan staff fynediad at y data personol perthnasol i’w rôl hwy yn unig.

Er enghraifft, gellir cyrchu’r data a ddarparwyd o fewn eich ffurflen gais gan unrhyw aelod o’n Tîm Recriwtio ac Asesu ac, os bydd yn ofynnol, gan aelodau eraill o’n hadran AD ehangach. Hefyd, caiff ei ddarparu i aelodau’r Panel Rhestr Fer a Chyfweld fel rhan o’r broses ddethol.

Tra bydd mwyafrif ein gwaith yn cael ei gyflawni gan ein staff, rydym yn defnyddio darparwyr gwasanaeth trydydd parti i gyflawni rhai swyddogaethau ar ein rhan. Hefyd, fe all fod yn angenrheidiol i ni rannu data gyda sefydliadau eraill i gyflawni ein dyletswyddau megis yn ystod argyfyngau, digwyddiadau mawr neu er lles diogelwch y cyhoedd.

Lle’r ydym yn cydweithio gydag unrhyw drydydd parti, mae ganddynt hwythau gyfrifoldebau i ddiogelu eich data chithau. Fodd bynnag, lle bo’n briodol, bydd GTADC yn cynnal amrywiaeth o wiriadau ac yn meddu ar gytundebau mewn lle i sicrhau y rhoddir y lefel briodol o amddiffyniad i’ch data chithau. Lle bydd angen i ni rannu eich data gyda sefydliadau eraill, byddwn yn gwneud hyn yn electronig (lle bo’n bosib) i sicrhau ei fod yn cael ei gyfathrebu’n gywir a chyflym. Ar bob adeg, byddwn yn sicrhau fod unrhyw drosglwyddiad o’ch data personol yn cael ei wneud yn briodol a diogel.

Isod, rydym wedi nodi esiamplau o’r categorïau o sefydliadau y gallwn rannu data â nhw:

  • Gwasanaethau Brys: (Er enghraifft, Awdurdodau Tân ac Achub eraill, y Gwasanaeth Ambiwlans Cymreig, Gwylwyr y Glannau, yr Heddlu ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith eraill a’r Lluoedd Arfog.)
  • Darparwyr Gofal Iechyd: (Er enghraifft, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a chyrff a sefydliadau iechyd a lles eraill.).
  • Awdurdodau Lleol: (Er enghraifft, Addysg, Iechyd Amgylcheddol, Tai, Gwasanaethau Cymdeithasol neu Wasanaethau Ieuenctid)
  • Asiantaethau’r Llywodraeth a Chyrff Cyhoeddus: (Er enghraifft, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Archwilio Cymru, a’r Swyddfa Gartref)
  • Cwmnïau Gwasanaethau Cyhoeddus: Er enghraifft, Cwmnïau Trydan, Nwy, a Dŵr.
  • Oedolion Priodol Er enghraifft, rhiant, aelod o’r teulu a gwarcheidwad)
  • Cwmnïau Yswiriant
  • Sefydliadau Ariannol
  • Sefydliadau Addysgol: (Er enghraifft, athrawon)
  • Gwasanaethau Cyfreithiol: (Er enghraifft, Cyfreithwyr, y Llysoedd ac Ymchwiliadau Cyhoeddus)
  • Rheoleiddwyr
  • Llywodraeth Cymru: I gael rhagor o wybodaeth am ddata a gasglwyd gan y Gwasanaethau Tân ac Achub wrth fynychu digwyddiadau ac a rennir wedyn gyda Llywodraeth Cymru, gweler Digwyddiadau Gwasanaeth Tân ac Achub Llywodraeth Cymru: Rhybudd Preifatrwydd.
  • Archwilwyr. Prosesyddion Data: (Er enghraifft, y Gwasanaeth TGCh, Cymorth a Storio Data).
  • Bydd gan gwmnïau, sefydliadau ac unigolion fynediad at ddata personol i’n darparu â’r nwyddau a’r gwasanaethau sydd o dan gytundeb yn unig. Ni chânt ei ddefnyddio at unrhyw ddiben arall ac mae’n ofynnol arnynt i brosesu’r data personol yn unol â deddfwriaeth diogelu data. Bydd y gallu gan rai trydydd parti rydym yn ymgysylltu â hwy, er enghraifft, Cymorth a Storio Data TGCh, i gyrchu data personol ar y systemau rydyn nhw’n darparu cefnogaeth i ni. Ond byddai hyn dim ond ar gyfer cynnal y system ac fe’i rheolir yn ofalus i leihau unrhyw risgiau i ddata personol.
  • Y Fenter Dwyll Cenedlaethol: Mae’n gyfreithiol ofynnol i Wasanaeth Tan ac Achub De Cymru amddiffyn y cyllid cyhoeddus mae’n ei weithredu, ac fe all rannu gwybodaeth a ddarperir iddo â chyrff eraill sy’n gyfrifol am archwilio neu weinyddu cyllid cyhoeddus er mwyn atal a chanfod twyll. Y Fenter Dwyll Cenedlaethol (“MTG”) yw un ffordd y cyflawnir hyn.
  • Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru’n archwilio cyfrifon pob corff sector cyhoeddus Cymreig ac mae wedi cynghori Archwilio Cymru â’r dasg o ymgymryd â’r dadansoddiad cydweddu data sy’n ofynnol gan y MTG. Ymarferiad a gynhelir bob dwy flynedd yw’r Fenter Dwyll Cenedlaethol sy’n bwriadu synhwyro/atal twyll a gordaliadau o’r pwrs cyhoeddus ar draws y DU. Gofynna i’r Gwasanaeth goladu set arbennig o ddata dros gyfnod o ddwy flynedd.
  • Am ragor o wybodaeth ynghylch y MTG, gweler Rhybudd Preifatrwydd Cydweddu Data Archwilio Cymru.

Ni fyddwn yn rhannu eich data personol â sefydliadau neu bartneriaid allanol at unrhyw ddefnydd masnachol heb gael eich caniatâd yn gyntaf.

 

Ydyn ni’n trosglwyddo data personol ymysg gwledydd?

Ar adegau, efallai bydd yn angenrheidiol i drosglwyddo eich data personol y tu allan i’r Deyrnas Unedig neu y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, yn enwedig wrth gydnabod bod Gwasanaeth, Cymorth a’u Storio Data yn gynyddol ryngwladol.

Bydd unrhyw drosglwyddiadau mewn cydymffurfiaeth lwyr â’r ddeddfwriaeth diogelu data sy’n gymwys, gan sicrhau bydd amddiffynfeydd priodol mewn grym.

Er enghraifft:

  • Mae penderfyniad digonolrwydd yn cadarnhau fod y wlad rydym yn trosglwyddo data personol â hi yn sicrhau lefel briodol o ddiogelwch ar gyfer hawliau a rhyddid y gwrthrych sy’n destun i’r data.
  • Mae amddiffynfeydd priodol mewn grym megis rheolau corfforaethol gorfodol, cymalau cytundebol safonol, cod ymddygiad cymeradwy neu fecanwaith ardystio.
  • Rydych wedi darparu eich cydsyniad diamwys i’r trosglwyddiad ar ôl cael eich hysbysu o unrhyw risgiau posib.
  • Mae’r trosglwyddiad yn angenrheidiol am un o’r rhesymau eraill a nodwyd o fewn y ddeddfwriaeth diogelu data gan gynnwys cyflawni’r cytundeb rhyngoch chi a ni, rhesymau lles y cyhoedd, i sefydlu, ymarfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol, i gyflawni ein hymrwymiadau cyfreithiol neu reolaethol , neu i ddiogelu eich lles hanfodol lle’r ydych chi’n anabl naill ai’n gorfforol neu’n gyfreithiol i roi eich caniatâd ac, mewn rhai achosion cyfyngedig, ar gyfer ein buddiannau cyfiawn.

 

Mae’r safle hwn yn defnyddio cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis i wneud i’n gwefan weithio. Hefyd, rydym yn defnyddio cwcis i’n helpu ni ei wella ac mae gan y safle cwcis trydydd parti sy’n deillio o gynnwys a blannwyd i’n gwefan. Wrth barhau i ddefnyddio’r wefan, rydych chi’n cytuno i’r defnydd o gwcis. Gweler isod am ragor o wybodaeth ar reoli eich dewisiadau cwcis.

Beth yw cwci?

Ffeil fechan yw cwci a ellir cael ei osod ar eich dyfais sy’n caniatáu i ni eich adnabod a’ch cofio chi. Fe’i danfonnir at eich porwr ac fe’i storir ar ddisg caled eich cyfrifiadur neu dabled neu ddyfais symudol. Pan fyddwch yn ymweld â’n safle, efallai byddwn yn casglu gwybodaeth gennych yn awtomatig drwy law cwcis neu dechnoleg debyg.

Pa fath o gwcis ydyn ni’n defnyddio?

1. Cwcis angenrheidiol

Mae cwcis angenrheidiol yn gwneud i’r wefan weithio. Maen nhw’n caniatáu ymarferoldeb craidd megis diogelwch, rheolaeth o’r rhwydwaith a hygyrchedd. Heb y cwcis hyn ni fyddai’r wefan yn gweithredu’n gywir.

2. Cwcis dadansoddeg

Rydym yn defnyddio cwcis Google Analytics i’n helpu ni i wella ein gwefan wrth gasglu ac adrodd gwybodaeth ar sut rydych chi’n ei ddefnyddio. Mae’r cwcis yn casglu gwybodaeth mewn modd and sy’n adnabod unrhyw un yn uniongyrchol.

3. Cwcis trydydd parti

Mae hyn yn cynnwys cwcis o safleoedd megis YouTube, mewn fideos a blannwyd ar ein gwefan gan ein sianelau YouTube ninnau, lle gosodwyd cwcis ar eich cyfrifiadur wedi i chi glicio ar y chwaraewr fideo YouTube.

I ganfod mwy ynghylch cwcis, ymwelwch â https://www.aboutcookies.org/ a https://allaboutcookies.org/.

 

Sut alla i reoli fy newisiadau cwcis?

Mae’n bosib atal eich porwr rhag derbyn cwcis wrth newid dewisiadau cwcis eich porwr. Fel arfer, cewch ganfod y dewisiadau hyn yn newislen “opsiynau” neu “ddewisiadau eich porwr.

I ganfod sut i reoli cwcis ar borwyr poblogaidd, ymwelwch â:

Mae modd i chi ddiffodd rhai cwcis drwy law Your Online Choices. Efallai bydd angen i chi wneud hyn eto bob tro rydych chi’n defnyddio cyfeiriad IP neu ddyfais wahanol.

I eithrio eich hun rhag cael eich tracio gan Google Analytics ar draws pob gwefan, ymwelwch â: http://tools.google.com/dlpage/gaoptout.

 

Pa mor hir ydyn ni’n dal gafael ar eich data personol a sut ydyn ni’n ei ddiogelu?

Mae ein cyfnodau cadw data yn seiliedig ar ddigwyddiad ysgogol megis pryd y casglwyd y data yn wreiddiol, pryd y rhoddwyd caniatâd, cwblhad yr adroddiad, y weithred neu’r diweddariad olaf a ddigwyddodd ar gofnod a diwedd blwyddyn ariannol. Mae nifer o ffactorau yr ydym yn eu hystyried wrth benderfynu pa mor hir i gadw data personol megis gofynion cyfreithiol gan gynnwys ein hangen i amddiffyn neu gymryd camau cyfreithiol, gofynion gweinyddol i gyflawni ein swyddogaethau dyddiol, atebolrwydd,  llywodraethu da a thryloywder ac arfer orau.

Ni fyddwn yn cadw eich data personol am yn hirach nag sydd ei angen at y diben y’i casglwyd yn wreiddiol, oni bai bydd cadw hirach yn gymharus â’r diben gwreiddiol y casglwyd y data personol, neu ein bod wedi eich hysbysu o’r cadw hirach ac wedi rhoi cyfle rhesymol i’w wrthwynebu, neu bydd y cadw hirach fel arall yn cael ei ganiatáu neu’n gyfreithiol ofynnol.

Lle sy’n ofynnol, byddwn yn ymdrechu i gadw eich data personol yn gywir a chyfredol. Fodd bynnag, os ydych chi’n credu bod y data personol sydd gennym yn anghywir neu rydych chi’n gwybod bod rhai manylion wedi newid, gadewch wybod i ni fel y cawn gofnodi’r newidiadau hynny.

Mae GTADC wedi ymroi i sicrhau fod ein holl wybodaeth, gan gynnwys data personol, yn cael ei ddal yn ddiogel.

Mae llawer o’n gwybodaeth yn cael ei gofnodi a’i ddal ar systemau electronig/cyfrifiadurol. Gwarchodir y rhain gan fesurau diogelwch i atall unrhyw fynediad sydd heb ei hawdurdodi. Mae gan y systemau sy’n dal data personol reolyddion lefel mynediad uwch.

Cefnogir hyn wrth feddu ar ardaloedd gwaith diogel yn ogystal â hyfforddiant i staff, cyfarwyddyd a gweithdrefnau i sicrhau bydd pawb yn ymwybodol o’r pwysigrwydd o ofalu am ddata personol.

Mae’r cyfuniad hwn o fesurau yn ein helpu ni i sicrhau na ellir gweld eich data personol, na chwaith y gellir ei gyrchu gan neu’i ddatgelu i unrhyw un na ddylid ei weld.

Os ydym yn gwaredu gwybodaeth, byddwn yn sicrhau ein bod yn gwneud hyn mewn modd diogel. Dileer gwybodaeth electronig o’n systemau, a storir copïau caled o wybodaeth yn ddiogel cyn cael eu difa ar leoliad.

 

Pa hawliau sydd gen i mewn perthynas â’r data personol rydych chi’n ei ddal amdanaf fi?

Mae gennych hawl cyfreithiol i roi cais am gopi o’r data sy gennym amdanoch chi, oni bai ei fod yn destun eithriad. Fe ddelir â’ch cais yn unol â deddfwriaeth diogelu data.

Rydyn ni am sicrhau bydd eich data personol yn gywir a bod gennych yr hawl i roi cais i ni gywiro neu dynnu data rydych chi’n credu ei fod yn anghywir.

Mae gennych yr hawl i dynnu eich cydsyniad rhag prosesu eich data personol lle’r ydym yn dibynnu ar gydsyniad ar sail gyfreithiol. Mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol lle bydd y prosesu yn seiliedig ar fudd cyfreithiol, perfformiad tasg a gynhaliwyd er lles y cyhoedd neu wrth ymarfer awdurdod swyddogol a freiniwyd arnom fel gwasanaeth tân ac achub.

Hefyd, mae gennych yr hawl i ofyn am ddileu unrhyw ddata personol – bydd hyn dim ond lle mae’r data personol yn wallus, yn anghywir a/neu le nad oes sail gyfreithiol i ni ei gadw.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’ch hawliau data unigol, gweler gwefan y SCG.

I ymarfer eich hawliau data personol, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon yn ymwneud â’n defnydd o ddata personol, cysylltwch â’n tîm Llywodraethu Gwybodaeth:

A fyddwch cystal â nodi wrth ymarfer eich hawliau data personol, bydd hawl gennych i wneud hyn mewn perthynas â’ch data personol eich hun yn unig. Er enghraifft, wrth wneud Cais Data Gwrthrych am Wybodaeth, bydd hawl gennych at ddata personol sydd amdanoch chi’ch hun fel unigolyn yn unig. Bydd unrhyw gyfeiriadau at bobl eraill neu wybodaeth nad sydd amdanoch chi yn cael ei dynnu’n arferol o unrhyw ddogfennaeth a ddarperir (fodd bynnag, dangosir hyn yn glir a’i egluro).

Os ydych yn chwilio i ymarfer hawliau data personol person arall, bydd angen cydsyniad ysgrifenedig, clir gan y person hwnnw. Byddwn angen adnabyddiaeth gan y person hwnnw hefyd – yn ogystal â phrawf o’i gyfeiriad/chyfeiriad, neu eich cyfeiriad chithau, os mai dyna le maen nhw’n dymuno i’r ymateb ac unrhyw ddogfennaeth berthnasol gael ei ddanfon. Bydd dim ond hawl ganddynt at ddata personol sydd amddanyn nhw’u hunain fel unigolyn – bydd unrhyw gyfeiriad atynt fel pobl neu wybodaeth nad sydd amdanyn nhw yn cael ei ddileu o unrhyw ddogfennaeth a ddarparwyd (fodd bynnag, bydd hyn yn cael ei ddangos a’i egluro’n glir).

Byddwn yn ymateb i’ch cais cyn gynted â phosib ac, mewn unrhyw achos, yn arferol o fewn un mis calendr, gan ddechrau ar y diwrnod rydym yn derbyn y cais. Mae hwn hyd yn oed pan fydd hwn yn disgyn ar benwythnos neu ŵyl gyhoeddus. Fodd bynnag, os bydd y dyddiad gorffen yn disgyn ar benwythnos neu ŵyl gyhoeddus, mae’r mis calendr yn gorffen ar y diwrnod gwaith nesaf. Yn ychwanegol, os nad yw’r dyddiad calendr dan sylw yn bodoli gan fod gan y mis dilynol lai o ddiwrnodau, diwrnod olaf y mis fydd hi.

Os bydd eich cais o natur gymhleth neu os ydych yn gwneud mwy nag un cais, efallai byddwn yn ymestyn y cyfnod amser gan ddeufis calendr pellach i fwyafswm o dri mis calendr.

Ein sail gyfreithiol i brosesu eich cais, a’ch data personol yn y cyd-destun hwn, yw cyflawni ymrwymiad cyfreithiol (Erthygl 6(1)(c) GDPR y DU). Yn yr achos hwn, mae’r ymrwymiadau cyfreithiol a gynhwyswyd o fewn deddfwriaeth diogelu data. Os ydych yn darparu unrhyw ddata personol sy’n cael ei ddosbarthu fel data categori arbennig i ni neu os oes angen i ni brosesu hyn yn eich cais am wybodaeth, mi fyddai am resymau o les cyhoeddus sylweddol (Erthygl 9(2)( o GDPR y DU), sef diogelu eich hawliau data statudol (Atodlen 1 rhan 2(6) o’r Ddeddf Diogelu Data 2018).

Yn ychwanegol at hyn, byddwn yn defnyddio eich data personol am resymau eilaidd megis cyd-lynu eich cais a hyd yn oed i roi cais am gyngor a chymorth. Er enghraifft, byddwn yn cofnodi manylion eich cais yn ein cronfa ddata. Bydd hyn fel arfer yn cynnwys eich enw, eich manylion cyswllt a gwybodaeth arall byddwch wedi’i rhoi i ni. Byddwn yn cadw copi o’r wybodaeth sy’n disgyn o fewn cwmpas eich cais. Yn ogystal, efallai byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i grynhoi a chyhoeddi ystadegau sy’n dangos gwybodaeth fel y nifer o geisiadau rydym yn derbyn, ond nid mewn modd sy’n adnabod unrhyw un.

Mewn perthynas â’r rhesymau eilaidd a nodwyd uchod, y sail gyfreithiol yw’r prosesu sy’n angenrheidiol ar gyfer perfformio’r dasg sydd i’w gyflawni er lles y cyhoedd neu wrth ymarfer yr awdurdod swyddogol a freiniwyd arnom.

Adroddiadau am Ddigwyddiadau ac Ymchwiliadau i Dân

Mae gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru’r hawl i godi tâl am wasanaethau arbennig drwy law Adran 18A o’r Ddeddf Gwasanaethau Tân 2004. Mae GTADC yn codi tâl am fynediad at wybodaeth fwy cynhwysfawr a manwl sy’n ymwneud â digwyddiadau a fynychwyd, fel sy’n gyffredin ymysg gwasanaethau tân ac achub.

Gan fod gwybodaeth am ddigwyddiadau yn weddol gyrchadwy drwy law ffyrdd eraill, er mai dim ond wrth dalu’n unig y ceir mynediad, bydd ceisiadau am Adroddiadau Digwyddiadau neu Ymchwiliadau i Dân o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn cael eu gwrthod o dan Adran 21 (h.y. gwybodaeth i’r ymgeisydd drwy fodd arall), a chan fod yr eithriad hwn yn absoliwt, nid yw’n amodol ar brawf lles y cyhoedd.

Mae’r agwedd hon o godi tâl gan wasanaethau tân ac achub wedi’i hadolygu a’i gymeradwyo gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn ôl tystiolaeth Penderfyniad Rhybudd FS50859031.

Yn aml, mae data personol o fewn Adroddiadau i Ddigwyddiadau ac Ymchwiliadau i Dân yn gyfyngedig ac yn ymwneud yn arferol ag unrhyw ddioddefwyr a all fod wedi’u hanafu mewn digwyddiad. Fel arfer, gallwn ddatgelu gwybodaeth i feddiannwr eiddo, gyrrwr cerbyd neu rywun sy’n cynnal busnes ar safle ar adeg y digwyddiad yn unig. Fodd bynnag, yn aml rydym yn deall mai’r landlord/asiant gosod neu yswirwyr fydd yn rhoi cais am yr adroddiad – yn yr achosion hynny, gallwn ryddhau’r adroddiad, ar yr amod fod gennym ganiatâd yr unigolion hynny. Os oes amryfal bobl yn gysylltiedig â’r digwyddiad, mae angen caniatâd gan bob unigolyn i ryddhau fersiwn sydd heb ei hailolygu, pe bai’n cynnwys eu data personol neu sail gyfreithiol arall er mwyn datgelu eu data personol.  Mae hyn yn hanfodol er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data ac amddiffyn ymyrraeth ddiangen â phreifatrwydd pobl.

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gan  unigolion hawl i gopi o’u data personol eu hunain yn unig. Nid yw’n rhoi hawl iddynt am gopi o ddogfennau gwreiddiol neu wybodaeth nad sy’n ymwneud â hwy fel unigolyn dynodedig.

Os ydych yn chwilio i roi cais am Adroddiad Ymchwiliad i Ddigwyddiad neu Adroddiad Ymchwilio i Dân, gweler Adroddiadau i Ddigwyddiadau ac Ymchwiliadau i Dân am ragor o wybodaeth.

 

Sut allaf i wneud cwyn ynghylch sut rydych wedi trafod fy Nata Personol neu ymateb i gais gennyf i ymarfer fy hawl gwrthrych y data?

Os ydych yn anhapus â’r modd y deliwyd â’ch data personol neu sut rydym wedi ymateb i’ch cais i ymarfer eich hawliau gwrthrych data, mae gennych yr hawl i roi cais am adolygiad mewnol. Bydd adolygiad mewnol yn ystyried p’un ai bod eich data personol a’ch/neu’ch cais wedi’i drafod yn briodol, yn unol â deddfwriaeth diogelu data cymwys.

Dylid cyflwyno ceisiadau am adolygiad mewnol i’r Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth, sydd hefyd yn meddu ar swydd y Swyddog Diogelu Data, wrth ddefnyddio’r wybodaeth gyswllt uchod. Bydd adolygiadau mewnol yn cael eu cynnal gan yr Uwch Berchennog Risg Gwybodaeth (UBRG)  neu’r Dirprwy. Rydym yn bwriadu ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith o dderbyn y cais am adolygiad mewnol.

Os ydych yn anhapus â chanlyniad yr adolygiad, mae modd i chi geisio am adolygiad gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (“SCG”), sydd â’r grym i gadarnhau neu wyrdroi’r penderfyniad. Gweler manylion cyswllt SCG isod. Bydd GTADC yn glynu at benderfyniadau’r SCG oni bai ei fod yn ystyried fod ganddo sail i apelio at y Tribiwnlys Haen Gyntaf (Hawliau Gwybodaeth).

Byddwch yn ymwybodol bydd y SCG yn annhebyg o dderbyn cwyn hyd nes byddwch wedi dilyn ein gweithdrefn gwynion/adolygiad mewnol yn gyntaf.

 

Dyddiad Diweddaru Diwethaf: 15 Mai 2024