Diffoddwr Tân Ar-Alwad
Fis Mehefin eleni byddwn yn dathlu Mis Ar-Alwad, gan gydnabod gwaith rhyfeddol ein Hymladdwyr Tân Ar-Alwad cyfredol, ac yn rhoi mwy o wybodaeth i chi ar sut #GallwchChi fod y person nesaf i ymuno â’n tîm Ar-Alwad.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn gweithredu 47 o orsafoedd ar draws 10 awdurdod unedol, gyda 36 ohonynt yn cael eu cefnogi neu eu staffio’n gyfan gwbl gan griwiau Ar-Alwad.
Mae Ymladdwyr Tân Ar-Alwad yn weithwyr proffesiynol hyfforddedig sy’n ymateb i argyfyngau yn eu hardal leol, ac yn aml mae ganddynt ymrwymiadau eraill hefyd.
Rhaid i unigolion fyw neu weithio yn y gymuned ac ymrwymo i nifer penodol o oriau bob wythnos yn gyfnewid am gyflog, gan gynnwys unrhyw statws cyflogaeth.
Tra byddant ar ddyletswydd, rhaid i Ddiffoddwyr Tân Ar-Alwad gario ‘rhybuddiwr’ gyda nhw i ymateb yn brydlon pan fo angen.
#GallwchChi …
Ddod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad os ydych yn byw neu’n gweithio ger gorsaf
Rhaid i chi fod yn ddigon agos at yr orsaf i ymateb i argyfwng, fel arfer o fewn pum munud.
Fod Ar-Alwad ar gyfer dau leoliad
Mae hyn yn golygu y gallwch chi helpu’r cymunedau lle rydych chi’n byw a lle rydych chi’n gweithio. Os yw’ch cyflogwr yn caniatáu hynny, gallwch ddewis gweithio mewn dau leoliad ar wahanol adegau o’r dydd, gan newid eich amseroedd argaeledd fel bod y rôl yn cydfynd â’ch bywyd.
Pan nad ydynt yn ymateb i argyfyngau, rhaid i Ddiffoddwyr Tân Ar-Alwad fynychu nosweithiau ymarfer wythnosol ar gyfer hyfforddiant parhaus a datblygu sgiliau.
Mae hefyd yn ofynnol iddynt hysbysu ac addysgu eu cymunedau lleol a chynnal ymweliadau diogelwch yn y cartref.
Mae gofynion corfforol a meddygol ar gyfer y rôl, gan gynnwys cryfder a ffitrwydd cardiofasgwlaidd, yn ogystal â safon golwg a chlyw.
Mae ymgeiswyr yn cael cyfres o asesiadau, gan gynnwys dringo ysgolion, gwacáu anafusion, trin offer, a phrofion mannau cyfyng.
Mae archwiliad meddygol llawn a gwiriad DBS hefyd yn rhan o’r broses recriwtio.
Fel Diffoddwr Tân Ar-Alwad yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, #GallwchChi …
Rydym yn recriwtio NAWR mewn nifer o orsafoedd:
I gael rhestr lawn o orsafoedd, edrychwch ar ein hadran ‘Recriwtio ar hyn o bryd’ isod.
#GallwchChi ymuno â ni HEDDIW!
Cliciwch ar ‘Ymgeisiwch Nawr’ i gychwyn eich cais gyda ni.
I gael rhagor o wybodaeth a chymorth, cysylltwch â’n Tîm Recriwtio ar 01443 232200 neu anfonwch e-bost i recriwtio@decymru-tan.gov.uk
Gallwch hefyd fynychu un o’n Nosweithiau Dril wythnosol a gynhelir ar draws De Cymru a gofyn unrhyw gwestiynau sy gyda chi i’n criwiau, neu alw heibio i ddigwyddiad recriwtio Ar-Alwad yn eich ardal chi.
I gael rhagor o gynnwys yn ystod y Mis Ar Alwad, edrychwch ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol:
Blaenau Gwent:
Pen-y-bont ar Ogwr:
Caerffili:
Merthyr Tudful:
Sir Fynwy:
Rhondda Cynon Taf:
Torfaen:
Bro Morgannwg: