DIOLCH I CHI Hoffai’r Gwasanaethau Tân ac Achub, yr Heddlu ac asiantaethau partner ledled Cymru ddiolch i aelodau’r cyhoedd sydd wedi cysylltu â ni i nodi ac adrodd am y rhai hynny sy’n gyfrifol am gynnau tanau anghyfreithlon yn eu cymunedau. Mae’r wybodaeth a gafwyd wedi bod yn hanfodol i’n…
Amser cinio ddoe (y 15fed o Ebrill 2020), cawsom adroddiadau am dân glaswellt mawr yng nghefn Ystâd Ddiwydiannol Black Vein, Wattsville. Ar ôl cyrraedd, roedd y criwiau’n wynebu tân yn lledaenu’n gyflym gan effeithio ar 80 hectar o laswelltir a choedwigaeth. Dros gyfnod y digwyddiad, danfonodd Gwasanaeth Tân ac Achub…
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cymryd rhan yn ymgyrch “Yn Barod, yn Fodlon ac yn Gallu” Cyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân (CCPST) a lansiwyd heddiw (y 15fed o Ebrill), ac mae’n dangos sut mae gwasanaethau tân ac achub y DU yn parhau i amddiffyn a chefnogi…
Hoffai Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru gyflwyno ei ffrind newydd, sef Sbarc! Bydd Sbarc yn helpu i rannu negeseuon â phlant ifanc am y peryglon o chwarae â thân a sut y mae cadw’n ddiogel yn eich cartref ac yn eich cymuned. Yn ystod haf 2019, daeth y tri…
Wrth i benwythnos gŵyl banc y Pasg agosáu mae Cyngor Sir Fynwy, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a phartneriaid eraill ledled Gwent yn rhannu un neges syml – arhoswch gartref. Gydag addewidion o dywydd da a phenwythnos estynedig i bawb ei fwynhau, mae asiantaethau allweddol yn rhybuddio y gallai pobl…
Yn ystod y cyfnod digyffelyb hwn, mae gwasanaethau tân ledled Cymru yn annog y cyhoedd i beidio â chael eu temtio i losgi gwastraff o’r ardd neu’r tŷ. Gall yr hyn oedd i fod yn dân bach, neu ychydig o hwyl yn unig, ymledu’n gyflym a mynd allan o reolaeth.…
Yn ôl ‘Electrical Safety First’ gallai llawer o bobl yng Nghymru sy’n gweithio gartref o ganlyniad i bandemig fod yn gorlwytho socedi, cadwyno ceblau gyda’i gilydd a gwefru dyfeisiau ar welyau Wrth i niferoedd enfawr o bobl yng Nghymru ymaddasu i drefn weithio newydd, gallai llawer ohonynt fod yn peryglu…
Yn ystod y cyfnod digynsail hwn, rydym yn eich annog i beidio â chael eich temtio i losgi gwastraff o’ch gardd neu o’ch cartref. Rydym yn deall bod y cyfnod hwn o gadw pellter cymdeithasol a hunanynysu yn cynnig cyfle i wneud ychydig o arddio a chlirio eich siediau. Fodd…
Mae rhieni a gwarcheidwaid yn cael eu hannog i gadw llygad barcud ar eu plant ar ôl i’r hyn y credir ei fod yn dân glaswellt ledaenu’n beryglus o agos at ystâd dai gyfagos yn y Rhondda. Cafodd y Gwasanaethau Brys eu galw tua 4.30yh Ddydd Sul (y 29ain o Fawrth,…
Os ydych yn gweithio gartref, yn hunanynysu neu’n ymbellhau’n gymdeithasol, rydym yn gwybod y byddwch yn treulio mwy o amser gartref yn ystod yr wythnosau nesaf. Gallai hyn gynyddu’r siawns y byddwch chi’n cael tân yn eich cartref. Yn ffodus, drwy gymryd pedwar cam hawdd, gallwch chi leihau’r risg yn…