Tân Mawr Mewn Eiddo ar Stryd Dunraven yn Nhonypandy

Neithiwr, (tua 7:45yh ar yr 11eg o Fehefin 2020) cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru adroddiadau am dân mewn eiddo yn stryd Dunraven yn Nhonypandy.

Mynychodd amryfal griwiau’r lleoliad gan wynebu tân datblygedig mewn safle tri llawr.

Bu diffoddwyr tân yn gweithio i ddiffodd y tân gan ddefnyddio amrywiaeth o offer arbenigol gan gynnwys jetiau dŵr a thanciau dŵr ar olwynion, llwyfan ysgol awyr a chyfarpar anadlu.

Mae’r tân erbyn hyn dan reolaeth ond mae criwiau’r Gwasanaeth Tân yn aros yn y fan a’r lle fel rhagofal diogelwch.

Mae gwaith yn parhau i sicrhau bod y safle’n ddiogel a chynhelir ymchwiliad tân i ganfod achos y tân.