Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi addo torri ei ôl troed carbon

Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi addo torri chwarter ar ei ôl troed carbon ymhen tair blynedd yn unig.

Rydym yn diogelu cymunedau De Cymru bob dydd – ond oeddech chi’n gwybod ein bod yn gofalu am ddyfodol pawb hefyd.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) wedi ymrwymo i leihau ein heffaith amgylcheddol gan addo lleihau ein hôl troed carbon o 25% ymhen tair blynedd yn unig.

Gan gynnwys ystyried am sut i deithio i’r gwaith, pa gwpan i’w yfed ohono, dewis lleoliadau cyfarfodydd a’r llu o ddewisiadau a wnawn yn ein bywyd bob dydd, sicrhau cynaliadwyedd sy’n sail i bob dewis a wnawn ac mae pob cam a gymerwn yn rhan annatod o gyflawni ein gweledigaeth, ein cenhadaeth a’n nodau strategol.

Mae Cynllun Lleihau Carbon newydd y Gwasanaeth yn cynnwys gwneud newidiadau sylweddol ar draws pob adran er mwyn i ddiffoddwyr tân gweithredol a staff corfforaethol ill dau gymryd cyfrifoldeb a gwneud gwahaniaeth.

Bydd cyflawni uchelgais Llywodraeth Cymru i fod yn niwtral o ran carbon erbyn 2030 yn heriol dros ben ond, eleni mae cyfrifo ein hôl troed carbon ochr yn ochr ag ymgysylltu â’n staff wedi ein helpu i nodi ble mae angen i ni newid ein hymddygiad a sut i’w wneud. Mae hyn wedi helpu’r Gwasanaeth i flaenoriaethu meysydd allweddol i ganolbwyntio arnynt.

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae ein defnydd o drydan eisoes wedi gostwng o 20% ac mae’r defnydd o nwy wedi lleihau o 25% gyda goleuadau LED bellach ar waith a systemau boeleri yn cael eu disodli gan fodelau mwy newydd a mwy effeithlon. Mae hyn yn cynnwys gosod paneli solar mewn Gorsafoedd, gweithredu ystafelloedd sychu offer a yrrir gan synwyryddion fel rhan o’r gwaith adnewyddu newydd a chael gwared ar dywelion sychu dwylo a thywelion papur drwy ddewis unedau sychu dwylo mwy effeithlon, gan leihau ein ffrydiau gwastraff.

O fewn y cynllun, bydd y ffocws ar; reoli fflyd a theithio, technoleg arloesol, prosesau caffael a chyllid, lleihau gwastraff, cyflenwadau ac offer a defnyddio dŵr.

Dywedodd Geraint Thomas, Pennaeth Cyllid, Caffael ac Eiddo Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru sy’n arwain ar y prosiect: “Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb a rennir i leihau ein hôl troed carbon ac ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig y mae cyfraniad ein staff wedi bod wrth i ni ddatblygu’r cynllun hwn, gan ein helpu i nodi lle mae angen i ni newid ein hymddygiad a sut y gallwn wneud hyn. Drwy gydweithio gallwn sicrhau ein bod i gyd yn chwarae ein rhan i ddiogelu’r amgylchedd ar gyfer y dyfodol.”

Mae rhagor o wybodaeth am Gynllun Lleihau Carbon y Gwasanaeth 2020-2023 ar gael ar ein gwefan yma.