Cartref gofal Caerdydd yn cael dirwy o bron i hanner miliwn o bunnoedd

Cartref gofal Caerdydd yn cael dirwy o bron i hanner miliwn o bunnoedd am fethiannau difrifol o ran diogelwch tân, gan beryglu bywydau.

Mae cyfarwyddwyr cartrefi gofal wedi pledio’n euog i achosion sylweddol o dorri rheoliadau diogelwch tân achub bywyd mewn cartref gofal preswyl yn Ne Cymru, a allai fod wedi arwain at “drasiedi ar raddfa fawr”.

Dedfrydwyd Farrington Care Homes Limited, sy’n rhedeg nifer o gyfleusterau ledled y DU gan gynnwys Cartref Gofal Preswyl Hillcroft yng Nghaerdydd, ar y 10fed o Fedi 2020 yn Llys Ynadon Caerdydd.

Yn dilyn archwiliadau lluosog ers 2011 gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, canfuwyd bod Cartref Gofal Preswylwyr Hillcroft, sy’n gartref â 25 o ystafelloedd gwely, wedi torri nifer o reoliadau diogelwch tân y Gorchymyn Diogelwch Tân, sydd ar waith i leihau’r risg o farwolaeth neu anaf difrifol mewn achos o dân. Roedd y cwmni wedi cael amser ychwanegol dros nifer o flynyddoedd i wirio’r ffaeleddau ond nid oedden wedi cwrdd â gofynion angenrheidiol y Gorchymyn Diogelwch Tân, ac arweiniodd hyn at erlyniad.

Wrth grynhoi, dywedodd Shomon Khan y Barnwr Rhanbarth “Mae hyn yn sicr yng nghategori’r diffyg uchel… dyma aelodau mwyaf agored i niwed ein cymdeithas… rhoddwyd pob un ohonynt mewn perygl… roedd perygl o drasiedi ar raddfa fawr. Mae’r rhain yn droseddau difrifol iawn… mae’n anodd iawn dychmygu grŵp o unigolion mwy agored i niwed… cyflawnwyd (dwy o’r) troseddau tra bod y cwmni’n cael ei ymchwilio.”

Gorchmynnodd y Barnwr Khan i’r cwmni dalu’r cyfanswm o £432,944.64 o fewn 12 mis, ac mae’r ffigur yn cynnwys taliadau ychwanegol a chostau erlyn. Cafodd y ddirwy ei gostwng i £300,000 ar ôl apêl.

Roedd y troseddau’n ymwneud â threfniadau diogelwch tân gan gynnwys strwythur diogelu adeiladau rhag tân er mwyn atal tân a mwg rhag ymledu, asesiad risg tân annigonol, larymau mwg annigonol, llwybrau dianc rhag tân anhygyrch oedd â rhwystrau, goleuadau argyfwng diffygiol, methu â chynnal ymarferion gwacáu priodol, diffyg cynnal a chadw llwybrau dianc allweddol a rheoli diogelwch tân is-safonol.

Er gwaethaf hysbysiadau gorfodi niferus a gyhoeddwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, methodd y cwmni â gwneud camau priodol i gydymffurfio â’r hysbysiadau. Dim ond pan nodir y methiannau diogelwch tân mwyaf difrifol y gwasanaethir hysbysiad gorfodi, rhaid cydymffurfio â’r hysbysiad a gall methu â gwneud hynny arwain at erlyniad.

Dywedodd Owen Jayne,  Rheolwr Grŵp, a Phennaeth Diogelwch Tân Busnes Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, “Ein rôl ni yw gweithio gyda busnesau ledled De Cymru i’w cefnogi i amddiffyn busnesau a phreswylwyr rhag y risg o dân.  Nod y ddeddfwriaeth diogelwch tân a orfodir gennym, a elwir yn Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005, yw cadw preswylwyr yn ddiogel.  Pan fyddwn yn canfod achosion o dorri’r ddeddfwriaeth hon, ein dyletswydd ni yw cymryd camau i atal marwolaeth neu anaf difrifol.

“Nid yw’r penderfyniad i erlyn busnesau byth yn un ysgafn, ond yn yr achos hwn roedd risg ddifrifol i breswylwyr sy’n agored i niwed a phriodolwyd hyn yn uniongyrchol i’r methiannau mynych i gydymffurfio â hysbysiadau gorfodi.

“Rydym yn falch bod y barnwr yn cydnabod y risgiau ac mae difrifoldeb y dedfryd yn adlewyrchu difrifoldeb y llys wrth ystyried torri’r rheoliadau diogelwch tân. Hoffwn ddiolch hefyd i Mr Justin Davies o Gyfreithwyr Hugh James a gynrychiolodd y Gwasanaeth gydol yr erlyniad.”

Os oes gennych bryderon am ddiogelwch tân neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y Gorchymyn Diogelwch Tân gallwch ymweld â www.decymru-tan.gov.uk