Dros 400 o danau bwriadol mewn 8 wythnos yn unig

Dros 400 o danau bwriadol mewn 8 wythnos yn unig yn arwain at lythyrau rhybudd i droseddwyr posib.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn gweithio’n barhaus mewn partneriaeth â heddluoedd lleol i leihau’r nifer o danau bwriadol sy’n cael eu gosod ledled De Cymru. Dros yr wyth wythnos diwethaf, mae ein criwiau wedi mynychu dros 420 o danau glaswellt a sbwriel bwriadol.

Mae ôl-effeithiau wedi’u rhoi ar waith ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol er mwyn atal y rhai yr amheuir eu bod yn cynnau tanau’n fwriadol. Mewn digwyddiad diweddar yn y Fenni, cafwyd llythyrau taro gan Heddlu Gwent i rieni chwech o bobl yn eu harddegau a oedd yn cael eu hamau o fod yn gyfrifol am osod tân yn agos at Underhill Crescent.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent: “Cawsom adroddiad am danau’n cael eu cynnau mewn parc yn agos at gilgant Underhill, y Fenni tua 3.10yh ddydd Sul y 9fed o Awst. Aeth swyddogion i’r digwyddiad, gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, i ganfod bod y tanau eisoes wedi cael eu diffodd. Cyfaddefodd grŵp o chwech o bobl yn eu harddegau, yn cynnwys pedwar bachgen a dwy ferch rhwng 14 ac 16 oed, eu bod yn gyfrifol am y tanau a chymerwyd eu manylion gan swyddog. Anfonwyd llythyrau taro am ymddygiad gwrthgymdeithasol at eu gwarcheidwaid a rhieni’r bobl ifanc yn eu harddegau arddegau mewn perthynas â’r digwyddiad hwn.”

Dywedodd  Andy Spence, Rheolwr Gorsaf, ac aelod o Dîm Troseddau Tân, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru:  “Rydym yn gweithio’n ddiflino gyda’n partneriaid i leihau’r nifer o achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gysylltiedig â thanau bwriadol yn ein cymunedau. Mae tanau o’r fath yn cynyddu ac yn straen ar wasanaeth gyda’r potensial i leihau’r nifer o beiriannau sydd ar gael i fynd i argyfyngau eraill. Gall y tanau bach hyn ymddangos yn ddiniwed i gychwyn ond gallant arwain at danau llawer mwy a mwy arwyddocaol a all gael canlyniadau trasig.  ”

Mae tanau bwriadol yn beryglus dros ben a gallant ymledu’n gyflym iawn gan beryglu bywydau, achosi difrod sylweddol i eiddo a’r amgylchedd, gan gynnwys achosi niwed i fywyd gwyllt. Mae’r tanau hefyd yn gollwng darnau trwchus o fwg, sy’n gallu cynyddu’r risg i’r henoed a phobl agored i niwed sydd â chyflyrau meddygol. Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wedi tynnu sylw at beryglon mwg a achosir gan danau glaswellt i ddioddefwyr COVID-19 a allai fod yn byw gerllaw.

Byddem yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth ar amheuaeth o danau bwriadol, neu sy’n gweld unrhyw beth amheus i gysylltu â 101, neu ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.

Os gwelwch chi dân, neu unrhyw un yn cynnau tân, ffoniwch 999 ar unwaith.