Mae Achosion o Foddi Damweiniol yng Nghymru’n Parhau i Ddisgyn

Mae nifer y marwolaethau o ganlyniad i foddi damweiniol yng Nghymru yn parhau i ddisgyn, yn ôl data newydd o’r Fforwm Diogelwch Dŵr Cenedlaethol (FfDDC).

Datgela’r ffigurau diweddaraf Cronfa Ddata Digwyddiadau Dŵr (CDdD), a gynhelir gan FfCDD, fod 20 o farwolaethau wedi digwydd mewn dŵr yng Nghymru o ganlyniad i ddamweiniau neu achosion naturiol yn 2019, sef gostyngiad o ddau o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Dyma’r bedwaredd flwyddyn yn olynol i nifer y marwolaethau o ganlyniad i foddi damweiniol yng Nghymru wedi gostwng. Bu gostyngiad o 26 y cant ers 2016, pan lansiodd FfCDD ei Strategaeth Atal Boddi yn y DU, gyda’r nod o leihau nifer y marwolaethau o ganlyniad i foddi damweiniol ledled y DU gan 50 y cant.

Disgynnodd nifer y marwolaethau o ganlyniaad i fodiau damweiniol ar draws y DU hefyd yn 2019 i 223, sef gostyngiad o 40 ar y 263 o farwolaethau a ddigwyddodd yn 2018.

Mae Diogelwch Dŵr Cymru, sy’n dod â sefydliadau sydd â diddordeb mewn diogelwch dŵr ynghyd i weithio gyda’i gilydd i leihau boddi, yn aelod o’r FfDDC. Dywedodd y Cadeirydd, Dave Ansell: “Rydym yn falch o weld bod nifer y rhai sy’n marw o ganlyniad i foddi damweiniol yn disgyn am flwyddyn arall. Mae hyn yn sicr yn rhan o waith gwych ein holl bartneriaid sy’n gweithio i godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch dŵr yng Nghymru.

“Ond mae un farwolaeth o ganlyniad i foddi yn un yn ormod ac rydym bob amser yn annog y cyhoedd i ofalu am eu diogelwch eu hunain, gan wybod, yn anffodus, y gallai’r farwolaeth wedi digwydd erbyn i’r gwasanaethau brys ymateb i ddigwyddiad.”

Mae bron i hanner (9) yr holl farwolaethau o ganlyniad i foddi damweiniol wedi digwydd ar yr arfordir/ar y lan/ar y traeth, felly mae teuluoedd yn cael eu rhybuddio i gymryd gofal arbennig os ydynt yn bwriadu mynd i’r traeth yn ystod misoedd yr haf.

Ychwanegodd Dave Ansell: “Nid yw hyn yn amser i bwyso ar y rhwyfau, wrth i gyfyngiadau ar symudiadau lacio, rydym yn atgoffa pobl i gymryd cyfrifoldeb ychwanegol am eu diogelwch eu hunain yn y dŵr, ar ddŵr neu’n agos ato ac i ystyried yn ofalus os ydynt yn bwriadu mynd i mewn i’r dŵr gan fod dŵr oer a pheryglon eraill yn dal i fod yn risg sylweddol.”

Er gwaethaf y tywydd cynnes, bydd y dŵr yn dal yn ddigon oer i achosi sioc dŵr oer, sy’n gallu analluogi hyd yn oed y nofwyr mwyaf galluog nad ydynt yn gyfarwydd ag amodau dŵr agored nac ychwaith wedi ymgynefino ag hwy. Diogelwch ddylai fod y brif ystyriaeth bob amser.

Os byddwch chi’n mynd i drafferthion yn y dŵr, cofiwch frwydro yn erbyn eich greddf ac arnofiwch yn gyntaf. Os ydych chi’n gweld rhywun mewn trafferth yn y dŵr, ffoniwch 999 a gofynnwch am wylwyr y glannau, neu’r ffoniwch y Gwasanaeth Tân os ydych chi ar lan dŵr mewndirol.

Mae Wythnos Atal Boddi, sef ymgyrch gan Gymdeithas Achub Bywydau’r DU, yn cael ei chynnal o’r 12fed tan y 19eg o Fehefin, ac eleni mae’n canolbwyntio ar roi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar unigolion a theuluoedd i fwynhau’r dŵr yn ddiogel. Gellir cael rhagor o wybodaeth ar www.rlss.org.uk/drowning-prevention-week

Mae FfDDC yn casglu ystadegau ar draws y DU o nifer o ffynonellau gan gynnwys cwestau, ac yn rhannu’r rhain yn farwolaethau yn ôl gweithgaredd, oedran, math o leoliad a daearyddiaeth, i roi syniad mwy eglur i’r rhai sy’n gweithio ym maes atal boddi a diogelwch dŵr o ran ble i dargedu ymyriadau.

Gellir gweld copi llawn o Adroddiad Digwyddiadau Marwol blynyddol y DU ar gyfer 2019 ar www.nationalwatersafety.org.uk/waid/reports-and-data/