Prawf diogelwch cartref ar-lein newydd

Prawf diogelwch cartref ar-lein newydd wrth i ddiffoddwyr tân fynychu bron 400 o danau damweiniol mewn tai yn Ne Cymru

Am y tro cyntaf, mae preswylwyr Cymru’n gallu gweld pa mor ddiogel yw eu heiddo o’r perygl o dân drwy glicio botwm.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi lansio prawf cyflym a hawdd ar y we i adolygu pa mor ddiogel rydych chi gartref.

Ers dechrau’r flwyddyn, mae diffoddwyr tân wedi mynychu bron 400 o danau domestig damweiniol ledled De Cymru, gydag offer coginio a chyfarpar diffygiol yn achosi’r nifer uchaf o ddigwyddiadau. Gall tanau domestig arwain at ganlyniadau dinistriol gan gynnwys difrod sylweddol i eiddo ac eitemau personol, anafiadau ac, mewn amgylchiadau trasig, colli bywydau.

Mewn ymgais i leihau tanau o’r fath bydd yr adnodd hunanasesu newydd yn eich galluogi i werthuso eich risg eich hun drwy ateb cwestiynau syml am wefru eich ffôn, gweithio larymau mwg, coginio, cynlluniau dianc rhag tân a llawer mwy. Mae’r adnodd unigryw yn rhoi cyngor pwrpasol a chynghorion da i’ch helpu i leihau’r risg o dân yn y cartref.

Bydd atebion wedyn yn cael eu cyfrifo i ddangos lefel eich risg. Gellir cynnig gwiriad diogelwch cartref AM DDIM i’r rhai gyda sgôr canolig neu uchel.

Yna bydd Ymarferydd Diogelwch yn y Cartref arbenigol yn cysylltu â chi a lle mae risg wedi ei nodi, bydd yn cynnig ystod o gyngor a chymorth, a lle bo angen bydd yn gosod cynhyrchion lleihau tân hanfodol, megis larymau mwg a synwyryddion gwres.

Mewn ymateb i’r pandemig Covid-19, rydym wedi addasu’r ffordd rydym yn darparu ein cymorth drwy addasu archwiliadau diogelwch yn y cartref sy’n cynnig addysg rithwir, canllawiau defnyddiol a dosbarthu ar stepen y drws.

Dywedodd Jason Evans, Pennaeth Lleihau Risg: “Mae ein nod yn parhau’n ddigyfnewid – sef cadw De Cymru’n ddiogelach trwy leihau risg ond rydym yn falch iawn o gyflwyno ffyrdd newydd o weithio yn llwyddiannus a fydd yn helpu i gefnogi’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae Covid-19 wedi ein herio mewn sawl ffordd ac rydym wedi dangos a gweithredu gweledigaeth o greadigrwydd ac arloesedd. Drwy addasu’r ffordd yr ydym yn ymgysylltu â’n cymunedau a’r rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf yn ystod y cyfnod hwn rydym wedi parhau i ddarparu’r addysg angenrheidiol mewn perthynas â diogelwch y cartref lle mae ei angen. Credwn ei bod yn llawer gwell achub bywydau drwy arfogi pobl â’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i atal tân rhag digwydd yn y lle cyntaf nag aros nes bod trychineb yn taro. Nid yw’r adnodd hwn yn disodli ein gwasanaethau presennol, ond rydym yn gobeithio y bydd yn gwella’r ffordd y gallwn helpu, gan roi’r cyfle i bobl ymweld â’n gwefan pryd bynnag y gallant a chael mynediad ar unwaith i’r cyngor sydd ei angen arnynt.”

Mae’r Tîm Diogelwch Cymunedol wedi cynnal 1000 o wiriadau addasedig, bron 500 o gyflenwadau stepen drws a thros 200 o ymweliadau critigol mewn ychydig o fisoedd.

Y cyfan rydym yn ei ofyn yw eich bod yn ateb pob cwestiwn yn onest fel y gallwn sicrhau eich bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch.

CYMERWCH Y BRAWF HEDDIW!