Peloton y Prif Swyddog 2020

Gwneud y Filltir Ychwanegol Dros Elusen y Diffoddwyr Tân

Bydd Peloton Pennaeth Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n ddigwyddiad rhithiol eleni gyda beicwyr yn addo codi arian i Elusen y Diffoddwyr Tân.

Bydd y digwyddiad blynyddol heriol, oedd arfer gweld staff yn beicio o’u gorsafoedd yn Ne Cymru i ben teithiau megis Brighton a Torquay, ychydig yn wahanol eleni o ganlyniad i gyfyngiadau Covid-19.

Ni fydd yn bosib i’r Peloton gymryd rhan fel grŵp mawr fel roedd hi arfer bod yn y blynyddoedd a fu, ond byddant yn addo beicio gartref neu yn eu hamser eu hunain gan gwmpasu 4,200 milltir i gyd erbyn diwedd Awst, sy’n gymaint â theithio o gwmpas y DU unwaith. Bydd cefnogwyr yn gallu dilyn eu cynnydd ar fap rhithiol ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a chyfrannu’r rhoddion hollbwysig hynny i Elusen y Diffoddwyr Tân drwy ymweld â  www.justgiving.com/fundraising/huwjakeway

Mae Elusen y Diffoddwyr Tân yn darparu ystod arbennig o gymorth a chyngor yn ymwneud ag iechyd meddwl, iechyd corfforol a lles cymdeithasol i ddiffoddwyr tân a’u teuluoedd. Doedd yr Elusen ddim yn gallu cynnal llawer o ddigwyddiadau codi arian eleni achos Covid-19, ac mae hwn wedi lleihau eu huncwm o £200,000 y mis. Er mwyn galluogi’r Elusen i barhau i ddarparu cymorth hanfodol i’r sawl sydd ei angen fwyaf, mae’n yn gal war gefnogwyr i helpu, ac mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n falch o ymateb i’r her.

Dywedodd Huw Jakeway QFSM, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru sy’n cefnogi Peloton y Prif Swyddog bob blwyddyn: “Er bod y digwyddiad yn edrych ychydig yn wahanol o bosib eleni, ‘rydym mor frwd ag erioed o ran cefnogi Elusen y Diffoddwyr Tân a’r gwaith ardderchog y maent yn ei gyflawni i gefnogi’r holl bersonél a’u teuluoedd yma yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a’n cydweithwyr ar draws y DU ill dau.
“Rydym wedi derbyn cefnogaeth eithriadol dros y blynyddoedd diwethaf sy’n ein gwneud ni’n falch dros ben i allu cefnogi ein Helusen, a gobeithio y bydd pobl yn gallu cymryd rhan cymaint ag o’r blaen drwy rannu ein cynnydd ar ein map rhithiol. Diolch i bawb sy wedi cyfrannu’n barod, rydych chi’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.”

Dilynwch y cynnydd ar y map rhithwir isod, trydarwch eich cefnogaeth trwy #PelotonYPrifSwyddog a chyfrannwch yr hyn y gallwch chi …

 Dim ond bwced elusen Just Giving Diffoddwyr Tân sy'n rhoi yma