Rhybudd wrth i ddiffoddwyr tân fynychu hyd at BUMP o danau coginio o fewn wythnos yn Ne Cymru yn ystod cyfnod COVID-19

Rhybudd wrth i ddiffoddwyr tân fynychu hyd at BUMP o danau coginio o fewn wythnos yn Ne Cymru yn ystod cyfnod COVID-19

Codwyd pryderon gyda mwy o bobl gartref yn ystod y pandemig, bod sylw pobl yn fwy tebygol o grwydro wrth iddynt goginio gartref.

Mae’r ffigurau diweddaraf wedi datgelu bod tanau sy’n dechrau yn y gegin ar eu huchaf yn Ne Cymru ar hyn o bryd o ystyried y tair blynedd diwethaf, a choginio yw’r achos mwyaf o danau damweiniol yn y cartref. Yn ystod y cyfnod cyfyngiadau symud rhwng Ebrill a Mai coginio sydd wedi achosi bron i hanner y tanau. Bu cynnydd sylweddol hefyd mewn tanau a achoswyd gan sosbenni sglodion a pheiriannau ffrio gyda rhai digwyddiadau’n achosi canlyniadau trasig.

Mae llawer ohonom wedi addasu yn ystod y cyfyngiadau symud drwy naill ai’n gweithio gartref neu ddysgu plant gartref, a gyda chynnydd mewn amlorchwyl mae’n fwy tebygol bydd eich sylw yn cael ei dynnu wrth i chi goginio.

Er mwyn eich helpu chi i atal tân yn eich cartref, rydym yn annog pobl i fod yn ymwybodol iawn ac osgoi gadael yr ystafell wrth goginio. Os byddwch chi’n gadael yr ystafell, diffoddwch y stôf a chadwch bentan y stof yn glir.

Dywedodd Pennaeth Diogelwch Cymunedol Dean Loader: “Rydyn ni’n apelio i’r cyhoedd yn ystod y cyfnod anodd hwn i gymryd gofal ychwanegol, gan gofio am ddiogelwch tân sylfaenol er mwyn helpu osgoi tanau yn y cartref a lleihau’r galw ar ein diffoddwyr tân. Mae rhai o’r digwyddiadau diweddar y buom yn bresennol ynddynt wedi bod yn gwbl ddiangen. Ledled Cymru, mae dros 40% o’r holl danau yn y cartref yn dechrau yn y gegin – gan ddangos yn union pa mor hawdd y gall paratoi pryd o fwyd droi’n drychineb. Gyda mwy o bobl yn treulio mwy o amser yn coginio gartref, gallai nifer yr achosion hyn fod wedi codi hyd yn oed yn uwch. Gall un eiliad o ddiffyg canolbwyntio yn unig droi’n drychineb -mae’n swnio’n amlwg ond mae diffyg talu sylw’n un o brif achosion tân yn y gegin, a gallai hyn fod gan ofynion ein plant, neu weithred mor syml â defnyddio ffôn symudol neu dabled. Dro ar ôl tro rydym yn mynychu tanau mewn tai sydd wedi dechrau yn y gegin – mor hawdd yw anghofio am eich bwyd yn coginio, yn enwedig os ydych chi wedi blino, os nad ydych chi’n talu sylw neu os ydych chi wedi bod yn yfed. Fodd bynnag, gall y canlyniadau fod yn ddinistriol. ”

Cynghorion craff ar gadw’n ddiogel yn y gegin:

  • Gwnewch yn siŵr bod gennych larwm mwg gweithredol a phrofwch e’n rheolaidd. Gallwch weld ein canllaw ar larymau mwg bîpio yma.
  • Peidiwch byth â gadael coginio heb oruchwyliaeth.
  • Peidiwch â gadael plant ar eu pennau eu hunain yn y gegin wrth goginio. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw matsis a dolenni sosbenni o’u cyrraedd.
  • Gwnewch yn siŵr nad yw dolenni sosbenni’n sticio allan – fel na fyddant yn cael eu taro oddi ar y stof.
  • Cadwch lieiniau sychu llestri, clytiau a dillad o’r stof a’r pentan, gwres a fflamau.
  • Cadwch yr offer trydanol (ceblau a chyfarpar) yn bell o ddŵr.
  • Lle bo’n bosibl, defnyddiwch ddyfeisiau cynnau tân yn lle matsis neu danwyr i gynnau stofiau nwy, er mwyn osgoi defnyddio fflamau noeth.
  • Gall olew poeth gynnau’n hawdd, defnyddiwch beiriant ffrio gyda thermostat – mae hwn yn atal y saim rhag mynd yn rhy boeth.
  • Peidiwch â llenwi sosban sglodion neu unrhyw beiriant ffrio arall gyda mwy na thraean o olew.
  • Peidiwch byth â cheisio mynd i’r afael â thân sosban ar ben eich hun. Os bydd sosban yn mynd ar dân, peidiwch byth â rhoi dŵr arni.
  • Dylech chi beidio â choginio ar ôl yfed alcohol neu gymryd meddyginiaeth a allai wneud i chi deimlo’n gysglyd neu’n flinedig.
  • Gwiriwch ddwywaith fod y stof wedi’i diffodd ar ôl i chi orffen coginio. Cymerwch ofal wrth ddefnyddio cyfarpar trydanol.
  • Cadwch y stof, y pentan a’r gril yn lân ac mewn cyflwr gweithredol. Gall haenau o fraster a saim arwain at gynnau tân.
  • Os bydd tân yn eich cegin, ewch allan, arhoswch allan a ffoniwch 999.

Lawr lwythwch copi o’n Llyfryn Diogel ac Iach, neu am fwy o wybodaeth ar goginio’n ddiogel  ewch i’n gwefan.