Mae Elusen yr Diffoddwyr Tân angen eich help!

Mae Elusen y Diffoddwyr Tân yn lansio apêl frys am roddwyr newydd ar ôl i’w hincwm codi arian arferol ostwng tua £200,000 y mis yn ystod y cyfnod cyfyngiadau symud.

Mae’n costio £10 miliwn o bunnau’r flwyddyn, bob blwyddyn, i gadw’r drysau ar agor a galluogi’r elusen i gefnogi anghenion meddyliol, corfforol a chymdeithasol cymuned gwasanaethau tân y DU.

Yn anffodus, oherwydd y pandemig coronafeirws a chanslo eu digwyddiadau codi yn ystod arian haf cyfan, mae incwm codi arian ar hyn o bryd tua £200,000 y mis yn brin.

“Mae hwn yn amser digyffelyb i Elusen yr Ymladdwyr Tân,” meddai’r Prif Weithredwr, Dr Jill Tolfrey. “Nid ydym erioed wedi wynebu’r fath gyfnod estynedig o amser heb unrhyw weithgarwch codi arian traddodiadol ac, i fudiad sy’n cael ei ariannu bron yn gyfan gwbl gan haelioni ei gefnogwyr, mae angen inni ddod o hyd i ffordd o newid hyn.

“Rwy’n gobeithio felly y bydd yr apêl frys hon yn cyffwrdd â chalonnau’r unigolion hael hynny a phob aelod o’n teulu anhygoel o fewn y Gwasanaeth Tân. Gan gynnwys diffoddwyr tân rheng flaen i staff cymorth a rheoli, personél wedi ymddeol a phawb yr ydym yn darparu ein gwasanaethau ar eu cyfer. Byddwn bob amser yno i chi pan fydd ein hangen arnoch, ond ar hyn o bryd rydym eich angen chi. Dechreuwch gyfrannu heddiw. ”

Os ydych chi’n gweithio yn y rheng flaen, yn staff cymorth neu staff rheoli, staff wedi ymddeol neu’n fuddiolwyr yr elusen drwy ddulliau eraill, maent yma i’ch cefnogi gydol oes.

Gallai fod heddiw, yfory, neu ymhen ugain mlynedd, ond pryd bynnag ac os daw’r amser hwnnw, byddwn yno i chi neu’ch anwyliaid. Mae Elusen y Diffoddwyr Tân wedi cefnogi cymuned y gwasanaethau tân am 77 o flynyddoedd, helpwch ni i sicrhau y byddant yma ar gyfer y 77 o flynyddoedd nesaf.

Helpwch ni i sicrhau dyfodol hirdymor yr Elusen, drwy’r pandemig hwn a thu hwnt. Rhowch os gallwch chi yma.