Dutch Reach – newid arfer er mwyn amddiffyn defnyddwyr ffyrdd sy’n agored i niwed

Mae’r Dutch Reach yn dechneg syml ond effeithiol i atal pobl rhag cael eu taro gan ddrysau – damweiniau ofnadwy a llawer rhy gyffredin sy’n cael eu hachosi pan fydd pobl sy’n gadael cerbyd yn agor y drws yn sydyn i lwybr beiciwr neu ddefnyddiwr ffordd arall sy’n agored i niwed.

Wrth i deithio llesol gynyddu, mae cydadwaith diogel rhwng ceir a beiciau yn dibynnu ar gydweithredu ac ar fwy o ymwybyddiaeth ymysg gyrwyr fod defnyddwyr ffordd yn bresennol a’r rheiny heb gymaint o amddiffyniad â nhw. Mae partneriaid Diogelwch Ffyrdd Cymru wrthi’n hybu’r Dutch Reach, gan ofyn i yrwyr a theithwyr ddod i arfer ag ymestyn am ddolen y drws â’r llaw sydd bellaf oddi wrthi.

Mae Teresa Ciano, Cadeirydd Diogelwch Ffyrdd Cymru, yn esbonio’r dechneg, “Wrth ichi ddod allan o gerbyd gan ddefnyddio’r Dutch Reach, edrychwch yn eich drychau ac estyn am ddolen y drws â’r llaw sydd bellaf i ffwrdd o’r drws.

“Bydd rhan uchaf eich corff yn troi, sy’n caniatáu ichi edrych dros eich ysgwydd i’r ochr a’r cefn.

“Bydd agor y drws ychydig bach ac edrych eto cyn dod allan o’r cerbyd yn lleihau’n sylweddol ar y risg o ddod i gysylltiad â beiciwr yn pasio.”

Mae damweiniau â drysau bron bob amser yn codi oherwydd camgymeriad gan y modurwr, ar ôl methu gweld y beiciwr neu’r defnyddiwr ffordd arall sy’n agored i niwed yn dod yn nes.

Dywedodd Michelle Harrington, Rheolwr Diogelwch Ffyrdd RoSPA yng Nghymru, “Mewn llawer o senarios mae’n anodd iawn i feicwyr lwyr osgoi teithio o fewn parth y drws, sef yr ardal ar bwys cerbydau wedi’u parcio sy’n eu rhoi nhw mewn mwy o berygl o gael eu taro gan y drws.

“Hen brofiad brawychus yw gweld drws cerbyd yn cael ei agor yn sydyn ar lwybr beiciwr, ac yn rhy aml mae hyn yn arwain at wrthdrawiadau a symudiadau osgoi, fel gwyro neu frecio, sef symudiadau sy’n gallu achosi anafiadau neu hyd yn oed farwolaethau.”

Mae’r dechneg fwy araf a gofalus ar gyfer agor drws yn lleihau’r tebygolrwydd na fyddwch chi’n gweld beiciwr yn agosáu ac mae hefyd yn rhoi amser a lle ichi osgoi’r gwrthdrawiad.

Galwodd Teresa Ciano ar ddefnyddwyr ffyrdd Cymru i ddefnyddio’r Dutch Reach bob tro y byddan nhw’n dod allan o gerbyd, “Fe allai’r newid syml hwn yn ein harferion ni atal gwrthdrawiadau.

Da chi, defnyddiwch y dechneg, dwedwch wrth eich ffrindiau a’ch teulu a helpwch roi’r gair ar led drwy rannu negeseuon oddi wrth bartneriaid Diogelwch Ffyrdd Cymru.”

I gael rhagor o wybodaeth am y Dutch Reach a’i effaith o ran gostwng nifer yr anafusion ledled y byd, ewch i www.dutchreach.org.uk  Am archwiliadau ac awgrymiadau diogelwch cerbydau, cliciwch yma.