Cadetiaid tân
Mae’r Cadetiaid tân yn rhoi cipolwg unigryw i bobl ifanc ar weithio mewn gwasanaeth brys.
Rydym yn cynnig cyfleoedd cynhwysol hwyliog a heriol i bobl ifanc ac rydym gan geisio datblygu sgiliau personol a chymdeithasol trwy weithgareddau sy’n hyrwyddo hunanddisgyblaeth, gwaith tîm a dinasyddiaeth. Mae cyfle hefyd i ennill gwobrau a gweithio tuag at ennill cymhwyster BTEC cydnabyddedig, a hynny oll wrth gael hwyl a gwneud ffrindiau newydd.
Fel Cadét Tân, byddwch chi’n cael eich trin fel diffoddwyr tân ifanc dan hyfforddiant, gan ddysgu’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen ar ddiffoddwr tân wrth gymryd rhan mewn gweithgarwch yn eich Gorsaf Dân leol a’r cyffiniau. Byddwch yn cael eich gwisg eich hun a phecyn tân y bydd angen i chi ofalu amdanynt yn dda, a bydd disgwyl i chi fynychu noson Drill wythnosol yn eich Uned Cadetiaid tân. Bydd disgwyl i chi ddangos rhywfaint o ddisgyblaeth ac ymrwymiad, yn union fel ein diffoddwyr tân.
Yn ogystal â gweithgareddau wythnosol yn eich Uned leol, cewch gyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, gwersylloedd, cystadlaethau a theithiau cymdeithasol yn yr awyr agored. Mae llawer o’n grwpiau Cadetiaid hefyd yn chwarae rhan weithredol yn eu cymuned yn cefnogi mentrau ac elusennau lleol.
Cwblhewch ein Pecyn Cais a’i ddychwelyd i:
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Parc Busnes Forest View
Llantrisant
CF72 8LX
neu e-bostiwch firecadets@southwales-fire.gov.uk.
Dilynwch ni ar Twitter: @SWFRSYSS
Dilynwch ni ar Instagram: @swfrs_fire_cadets