Ydych chi’n poeni am blentyn neu berson ifanc yn chwarae gyda thân neu ymwneud â llosgi bwriadol? Yna gall y gwasanaeth Ymyrraeth Diogelwch Tân helpu.

Rydym yn cynnig rhaglenni hyblyg wedi’u teilwra i weddu i anghenion y plentyn neu’r person ifanc unigol. Gallwch gysylltu â ni fel rhiant neu warcheidwad os ydych chi’n poeni am ymddygiad eich plentyn mewn perthynas â thân. Gallwch hefyd gysylltu â ni os ydych chi’n weithiwr proffesiynol sy’n ymwneud â phlentyn neu berson ifanc sy wedi dangos ymddygiad o gwmpas tân sy’n codi pryderon.

I gysylltu â’r tîm anfonwch e-bost i FIS@decymru-tan.gov.uk neu ffoniwch 01443 232530 / 07979706926.

 

Ar gyfer holl ymholiadau Ymyrraeth Ieuenctid GTADC, llenwch Ffurflen Ymholiad Ymrwymiad Ieuenctid ac e-bostiwch i ieuenctid@decymru-tan.gov.uk