Dyluniwyd a chynlluniwyd Prosiect Bernie gan bobl ifanc Coleg Cymunedol Tonypandy i helpu i ostwng nifer yr achosion o gynnau tanau gwair bwriadol dros wyliau’r Pasg. Mae tanau gwair wedi cael effaith fawr ar y gymuned a’r amgylchedd lleol, ac mae’n anodd iawn mynd i’r afael â nhw. Weithiau, bydd eich ymladdwyr tân lleol wrthi’n delio â digwyddiad tân gwaith bwriadol, pan fyddant yn cael eu galw i ddelio â digwyddiad arall, er enghraifft tân mewn tŷ neu ddamwain ffordd.

Ydych chi’n sylweddoli beth yw canlyniadau cynnau tân yn fwriadol ar fynyddoedd ac yng nghefn gwlad?

Os cewch eich dal yn cynnau tân gwair, byddwch yn cael cofnod troseddol am weddill eich bywyd.

Os cewch eich dal yn cynnau tanau gwair yn fwriadol, efallai y cewch eich dedfrydu i ddwy flynedd yn y carchar – neu’n gorfod talu dirwy o £5,000.

Wrth weithio gyda’r bobl ifanc sy’n byw ac yn astudio yn Nhonypandy, rydym wedi datblygu rhaglen o weithgareddau gwahanol a fydd yn apelio at bobl ifanc. Bellach, ‘Bernie’r Ddafad’ yw masgot poblogaidd iawn Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ac mae’n mynychu pob un o’n sioeau teithiol.

Gwaith mewn partneriaeth rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, y Comisiwn Coedwigaeth, Prifysgol Caerdydd, Partneriaethau Diogelwch Cymdeithasol Rhondda Cynon Taf, Heddlu De Cymru, Safonau Masnach Rhondda Cynon Taf, Cymunedau’n Gyntaf, y Gwasanaeth Prawf, Teledu Cylch Cyfyng Rhondda Cynon Taf ac E3 yw Prosiect Bernie.

Os ydych chi’n cynnau tanau glaswellt yn fwriadol, byddwch yn barod i dalu’r pris.

Fideo