Yma yng Ngwasanaethau Tân ac Achub De Cymru rydym yn frwd dros weithio gyda phobl ifanc a darparu amrywiaeth o raglenni ymyrraeth ieuenctid a anelir at bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed.

Mae gan ein Gwasanaeth Tân ac Achub ran bwysig i’w chwarae o ran cyfrannu at les plant a phobl ifanc drwy eu haddysgu am bwysigrwydd diogelwch tân a chanlyniadau tanau bwriadol, galwadau ffug ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rydym yn gwneud hyn drwy’r Prosiect Myrfyrio a’r Cynllun Ymyrraeth Gosod Tanau.

Mae ein Diffoddwyr Tân yn ddelfrydau ymddwyn da sy’n ysbrydoli ac yn dylanwadu’n gadarnhaol ar bobl ifanc ac mae ein holl ymyriadau’n anelu at gynyddu hyder a hunan-barch pobl ifanc gyda’r nod o wella eu sgiliau rhyngbersonol a galwedigaethol yn ogystal â darparu ymdeimlad o hunan gyfeiriad, hunan-barch a sgiliau bywyd, drwy Brosiect Phoenix a Chadetiaid Tân.

Cyflawnir pob un o’n hymyriadau i fodloni amcanion penodol ac fe’u cyflawnir yn unol â’r ‘Strategaeth Awdurdodau Tân ac Achub ar gyfer Plant a Phobl Ifanc’.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ein cynlluniau, cliciwch ar y dolenni perthnasol neu cysylltwch â’r Adran Diogelwch Cymunedol ar 01443 232000