Ry’n ni #YmaiChi yr Dolig hwn

Mae’n adeg yr Ŵyl, ac yn amser adlewyrchu, ac yma yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, hoffwn gymryd munud i’ch atgoffa i gadw’ch hun a’ch anwyliaid yn ddiogel y Nadolig hwn.

Gan fod nifer ohonom yn cynllunio i ddal i fyny ac ail-gysylltu â theulu a ffrindiau’r Nadolig hwn, ry’n ni’n ymbil arnoch i gadw’n wyliadwrus wrth i chi fwynhau danteithion yr Ŵyl.

Mae mwyafrif y tanau cegin yn cael eu hachosi gan ddiffyg sylw wrth goginio, gyda chwympo i gysgu’n ail agos. Gall ychwanegu ychydig o ddiodydd Nadoligaidd i’r pair fod yn drychinebus ac yn peryglu eich cartref, eich anwyliaid a chithau. Mae tanau’n gallu lledaenu’n afreolus ac arwain at ganlyniadau trychinebus. Yn ystod y tair blynedd ddiwethaf, achoswyd un allan o bob tri thân damweiniol yn y cartref yn ystod cyfnod yr Ŵyl gan goginio sydd heb ei oruchwylio.

Mae’n hawdd cael eich llygad dynnu wrth i chi goginio pryd mawr – dim ond ychydig eiliadau mae’n cymryd i dân gynnau. Felly, os y’ch chi’n cynllunio coginio gwledd Nadoligaidd gartref eleni, sicrhewch eich bod yn cadw llygad ar eich twrci, samwn neu gnau rhost!

Dyewedodd Pennaeth Diogelwch Cymunedol a Phartneriaethau, St. John Towell: 

“Gall profi tân yn eich cartref ar unrhyw adeg o’r flwyddyn fod yn ddinistriol, ond eithafir hyn dros gyfnod yr Ŵyl. Ry’n ni am i chi fwynhau’r gwyliau’n ddiogel a chymryd y camau angenrheidiol i atal tanau rhag cychwyn.

O ganhwyllau i oleuadau’r Nadolig, o socedi wedi’u gorlwytho i goginio heb oruchwyliaeth, dim ond ychydig o eiliadau sydd angen ar dân i gynnau, felly mae’n bwysig peidio â chael eich llygad dynnu gan ganolbwyntio ar beth fyddwch chi’n gwneud. Cadwch eich hunan yn ddiogel a darllenwch ein hargymhellion a’n cyngor diogelwch. Gall hyd yn oed cael larwm mwg gweithiol a’i brofi’n rheolaidd neu feddu ar gynllun dianc a’i hymarfer atal trasiedi.

Gan bawb yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, da chi, cadwch yn ddiogel a gofalwch amdanoch chi eich hunain. Nadolig Llawen, bawb.”

Dathlwch yr Ŵyl mewn modd diogel, gan osgoi’r goleuadau glas y Nadolig hwn wrth ddilyn ein cyngor a’n cyfarwyddyd diogelwch.

  • Sicrhewch eich bod wedi gosod larymau mwg gweithiol yn eich cartref a phrofwch hwy’n gyson! Gweler ein canllaw ar Larymau Mwg sy’n Bîpio
  • Gwnewch restr ddiogelwch wrth noswylio – cymrwch gip ar ein canllaw i ganfod ba mor ddiogel yw eich cartref
  • Gwnewch Gynllun Dianc

Coginio Gwledd Nadoligaidd?

  • PEIDIWCH BYTH â gadael coginio heb ei oruchwylio – mae tanau’n cychwyn pan fyddwch chi’n colli eich sylw!
  • Lle bo’n bosib, defnyddiwch ffyn gwreichion yn hytrach na matsis neu gynheuwyr i gynnau ffyrnau nwy, er mwyn osgoi fflamau noeth
  • Diffoddwch bopeth wedi i chi orffen
  • Mewn achos o dân – ewch allan, arhoswch allan a galwch 999
  • Am gynghorion gorau ynghylch cadw’n ddiogel, ymwelwch â’n tudalen Diogelwch Coginio

Pan fyddwch chi’n estyn am y tinsel a’r addurniadau, sicrhewch …

  • Eich bod yn gwirio gwifrau am unrhyw ddifrod
  • Na fyddwch yn gorlwytho socedau – defnyddiwch un plwg i bob un soced
  • Eich bod yn cadw canhwyllau’n bell i ffwrdd o addurniadau a’ch bod yn eu diffodd yn llwyr cyn i chi fynd i’r gwely
  • Na fyddwch yn gadael i’r bylbiau gyffwrdd ag unrhyw beth all losgi’n hawdd, fel papur
  • AR BOB ADEG, dadblygiwch oleuadau Nadolig pan fyddwch yn mynd i’r gwely neu os byddwch chi’n gadael y tŷ – dros y cyfnod Nadoligaidd, mae tua 1 mewn 4 o danau cartref damweiniol yn cael eu hachosi gan ddiffygion trydanol
  • Gweler mwy o wybodaeth diogelwch YMA

P’un ai os ydych chi’n gwneud rhywfaint o siopa Nadolig munud olaf neu’n mynd ag anrhegion at ffrindiau a theulu,  cymrwch ofal ychwanegol wrth yrru mewn amodau gaeafol

  • Caniatewch amser ychwanegol ar gyfer eich siwrne
  • Sicrhewch fod gennych welededd llwyr cyn dechrau eich siwrne
  • Cwblhewch ein Rhestr Wirio Diogelwch Cerbydau
  • PEIDIWCH BYTH Â gyrru o dan ddylanwad cyffuriau neu alcohol

Os y’ch chi’n brin eich amser ac yn ystyried siopa ar-lein…

  • Byddwch yn ymwybodol o nwyddau trydanol ffug – defnyddiwch Declyn Gwirio Electrical Safety First
  • Peidiwch â dibynnu ar adolygiadau – gellir ffugio’r rhain yn hawdd
  • Os fydd y pris yn ymddangos yn rhy dda i’w gredu, yna mae e’n siŵr o fod felly!

Dros gyfnod yr Ŵyl, mae bron i hanner y tanau a fynychwyd gan ein criwiau yn tarddu o sbwriel…

  • Da chi, peidiwch â llosgi gwastraff cartref!
  • Gwaredwch eich sbwriel yn ddiogel – cysylltwch â’ch awdurdod lleol am wybodaeth ynghylch casgliadau a chanolfannau ailgylchu, neu ymwelwch â Chymru yn Ailgylchu

I sicrhau galllwch chi, eich teulu, eich cymdogion a’r gwasanaethau brys oll gadw’n ddiogel eleni, parhewch i ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru dros gyfnod yr Ŵyl.

Am ragor o wybodaeth a negeseuon diogelwch, ewch at ein gwefan www.decymru-tan.gov.uk neu dilynwch ni ar ein sianelau cyfryngau cymdeithasol Trydar/Facebook/Instagram neu beth am lawr lwytho ein llyfryn Diogelwch yn y Cartref.

Beth bynnag fyddwch chi’n gwneud, cadwch yn ddiogel, meddyliwch yn ofalus, a byddwch yn ymwybodol y gwyliau hyn ein bod ni yma i chi.