Mae gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion yn allweddol i’n gweithredu ar gyfer atal, gan gynorthwyo diogelu ein cymunedau.  

Ein sesiynau diogelwch:

  • Codi ymwybyddiaeth o ddiogelwch tân a lleihau’r risg i blant o gael eu niweidio os bydd tân
  • Codi ymwybyddiaeth o ganlyniadau troseddau tân ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan atal tanau sy’n cael eu cynnau drwy anwybodaeth neu esgeulustod
  • Darparu sgiliau a gwybodaeth y gellir eu defnyddio gydol oes plant a phobl ifanc a’u rhannu gyda’r teulu a ffrindiau

Am wybodaeth ar Ymgysylltu ac Ymyrraeth Ieuenctid, ymagwedd wedi’i dargedu, cliciwch yma

 

Trefnu Ymweliad ar Gyfer Eich Ysgol

Rydym yn credu mai’r ffordd orau i leihau risg yw addysgu ac atal, dyna pam fod ein tîmau sy’n arbenigo mewn Addysg a Gwasanaethau Ieuenctid yn dysgu plant a phobl ifanc ar draws ardal Gwasanaeth De Cymru am bwysigrwydd diogelwch o gwmpas  tanau.

Mae anghenion addysgol amrywiol gan blant a phobl ifanc ac mae ein staff pwrpasol wedi datblygu gweithdai penodol ar gyfer plant oed Cynradd ac Uwchradd; gan addysgu am larymau mwg, neu ganlyniadau cynnau tanau bwriadol.

I ddarganfod mwy, neu i drefnu ymweliad ar gyfer eich ysgol, cysylltwch â ni.