Gemau Cenedlaethol 2025
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, yn falch i gynnal Gemau Cenedlaethol Cadetiaid Tân 2025. Digwyddiad tridiau yw hwn, sy’n dod ag Unedau Cadetiaid Tân o bob rhan o’r DU ynghyd ar gyfer rhaglen o heriau tîm, datblygiad personol, a dathlu.
Bydd y digwyddiad blaenllaw hwn yn cael ei gynnal ar Gampws Cyncoed Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, gan gynnig cyfle i gadetiaid ddangos eu sgiliau, eu gwaith tîm, a’u hymrwymiad i werthoedd y gwasanaeth tân ac achub mewn cyd-destun cenedlaethol.
Pwrpas y Gemau yw hyrwyddo cynhwysiant, disgyblaeth, hydwythdedd ac arweinyddiaeth ymhlith pobl ifanc, gan hefyd gryfhau partneriaethau rhwng gwasanaethau.
Bydd timau o 6 chadet a 2 hyfforddwr oedolion yn cystadlu mewn cyfres o weithgareddau strwythuredig sy’n adlewyrchu natur weithredol a chymunedol y gwasanaeth tân ac achub.
Ochr yn ochr â’r chystadlu, bydd y digwyddiad yn cynnwys elfennau cymdeithasol, mewnbwn addysgol, ac ymgysylltu â’r cyhoedd ehangach a sefydliadau partner cadetiaid.
Mae’r ddogfen friffio hon yn nodi disgwyliadau a chyfrifoldebau llawn Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fel y sefydliad cynnal a’r holl Wasanaethau Tân ac Achub sy’n cyfranogi. Mae’n cynnwys arweiniad ar y canlynol:
Bydd y digwyddiad hefyd yn agored i aelodau o’r cyhoedd a phartneriaid cadetiaid, gyda phresenoldeb yn cael ei reoli drwy law system cyn-gofrestru.
Bwriad y ddogfen hon yw sicrhau profiad diogel, cynhwysol, wedi’i gydlynu’n dda i bawb sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad ac mae rhaid i’r holl arweinwyr tîm a staff cynorthwyol ei darllen ac ufuddhau. Mae GTADC wedi ymrwymo i gyflwyno digwyddiad cenedlaethol o ansawdd uchel ac mae e’n diolch i’r holl wasanaethau sy’n cyfranogi am eu cydweithrediad a’u cefnogaeth wrth gyflawni’r nod hwn.