Dymunwn Nadolig Diogel, Iach a Llawen i chi #YmaiChi

Nid oes amheuaeth na fydd y Nadolig ychydig yn wahanol eleni ac wrth i ni i gyd baratoi ar gyfer y tebygolrwydd y byddwn yn treulio mwy o amser gartref dros y Nadolig eleni, mae’n bwysicach fyth ein bod ni’n atgoffa ein hunain, a’n gilydd, am gyngor diogelwch hanfodol i sicrhau ein bod ni’n dathlu’n ddiogel.

Gan fod cyfyngiadau’n golygu ein bod yn debygol o fwyta gartref yn amlach na bwyta mas dros y Nadolig eleni, mae hefyd yn bwysig ein bod ni’n parhau i fod yn wyliadwrus wrth goginio Yn anffodus mae’r rhan fwyaf o danau cegin yn digwydd o ganlyniad i beidio â thalu sylw, gyda chwympo i gysgu yn ail brif reswm.  Ychwanegwch ychydig o ddiodydd Nadoligaidd i’r gymysgedd a gallai hyn fod yn rysáit ar gyfer trychineb. Bydd eich cegin yn llawn mwg neu bydd niwed i’ch eiddo, a gallai hefyd achosi difrod, anaf neu niwed difrifol. Os nad ydych chi’n canolbwyntio, gall coginio hyd yn oed y pryd symlaf achosi tân – felly pan fyddwch chi’n gwneud twrci gyda’r holl fwydydd cysylltiedig, mae bod yn wyliadwrus yn bwysicach fyth. Mae’n hawdd i’ch sylw grwydro wrth goginio pryd o fwyd mawr – dim ond ychydig eiliadau y mae’n ei gymryd i dân ddechrau.

Dywedodd Dean Loader, Pennaeth Diogelwch Cymunedol a Lleihau Risg: “Mae tanau’n drychinebus ar unrhyw adeg o’r flwyddyn ond mae hyd yn oed yn fwy dros dymor yr ŵyl.

O ran canhwyllau, goleuadau Nadolig, socedi plygiau wedi’u gorlwytho, coginio heb oruchwyliaeth, rydym am i chi fod yn ddiogel a chymryd camau i atal tanau rhag digwydd a difetha’r gwyliau. Felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n edrych ar ein hawgrymiadau diogelwch, bod gennych larwm mwg gweithredol a’ch bod chi’n ei wirio’n rheolaidd, bod gennych gynllun dianc a’ch bod chi’n ymwybodol o rai o’r peryglon tân posibl. Oddiwrth bawb yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, cadwch yn ddiogel a gofalwch am ei gilydd. Nadolig Llawen i chi i gyd.”

Gall tanau ledaenu’n gyflym gan fynd allan o reolaeth ac arwain at ganlyniadau dinistriol. Yn ystod y tair blynedd diwethaf achoswyd un o bob tri thân tŷ damweiniol yn ystod cyfnod yr ŵyl o ganlyniad i goginio heb dalu sylw priodol.

Oeddech chi’n gwybod mai coginio heb oruchwyliaeth yw un o achosion mwyaf tanau mewn tai yn Ne Cymru? Nid ydym am weld trasiedi’n dilyn eich dathliadau achos peryglon ychwanegol yr adeg hon o’r flwyddyn.

Dyma rhai awgrymiadau o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru i gadw’n ddiogel yn ystod tymor yr ŵyl:

Coginio gwledd Nadoligaidd?

  • Peidiwch byth â gadael coginio heb oruchwyliaeth – mae tân yn dechrau pan fydd eich sylw’n crwydro!
  • Lle y bo modd, defnyddiwch ddyfeisiau cynnau tân yn lle matsis neu danwyr i gynnau stofiau nwy, i osgoi fflamau noeth
  • Cofiwch ddiffodd popeth ar ôl i chi orffen
  • Os bydd tân yn eich cegin, ewch allan, arhoswch allan a ffoniwch 999
  • Am fwy o gynghoron call am gadw’n ddiogel, ewch i’n tudalen Coginio’n Ddiogel

Pan fyddwch chi’n addurno gwnewch yn siŵr…

  • Gwiriwch eich gwefrau am unrhyw ddifrod
  • Peidiwch orlwytho socedi! Cofiwch un plwg i bob soced
  • Peidiwch adael i fylbiau gyffwrdd ag unrhyw beth gall llosgi’n hawdd, fel papur
  • Dylech BOB AMSER dynnu plygiau goleuadau Nadolig pan fyddwch chi’n mynd i’r gwely neu’n gadael y tŷ – yn ystod y tair blynedd diwethaf roedd un o bob pum tân damweiniol mewn tai yn ystod cyfnod yr ŵyl yn cynnwys trydan. Mwy o wybodaeth diogelwch yma

Os ydych chi’n siopa Nadolig funud olaf neu’n cludo anrhegion yn ddiogel i’ch ffrindiau a’ch teulu, cymerwch ofal ychwanegol wrth yrru yn nhywydd gaeafol

  • Gadewch amser ychwanegol ar gyfer eich taith
  • Sicrhewch eich bod chi’n hollol weladwy cyn cychwyn ar eich taith
  • Cwblhewch ein Harchwiliadau Diogelwch Cerbydau
  • PEIDIWCH byth a gyrru o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau

Fyddwch yn ddiogel wrth siopa ar-lein

  • Byddwch yn ymwybodol o nwyddau trydanol ffug – defnyddiwch declyn Check it Out Electrical Safety First (Saesneg yn unig)
  • Peidiwch ddibynnu ar adolygiadau, mae’n hawdd ffugio’r rhain
  • Os yw’r pris yn ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg ei fod!

Dros dymor yr ŵyl, cychwynnodd bron i hanner yr holl danau y mae ein criwiau yn eu mynychu o sbwriel…

  • Peidiwch losgi eich gwastraff cartref!
  • Gwaredwch eich sbwriel yn ofalus, cysylltwch â’ch awdurdod lleol am wybodaeth am gasgliadau a chanolfannau ailgylchu, neu ewch i Gymru yn Ailgylchu

Rydym hefyd yn eich annog i gyd i barhau i ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru yn ystod cyfnod yr ŵyl i sicrhau eich bod yn cadw eich hun, eich teulu, eich cymdogion a’r gwasanaethau brys yn ddiogel yn ystod y cyfnod hwn.  Am fwy o negeseuon gwybodaeth a diogelwch ewch i’n gwefan www.decymru-tan.gov.uk  neu dilynwch ni ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol Twitter/ Facebook / Instagram –  neu lawrlwythwch ein y Canllaw Diogelwch yn y Cartref