Diwrnod Rhyngwladol Menywod 2022: Chwalu’r Rhagfarn

Bob 8fed o Fawrth rydym yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol Menywod (DRM), diwrnod byd-eang i amlygu a chodi ymwybyddiaeth o gyflawniadau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod.

Thema ymgyrch 2022 yw #ChwaluRhagfarn. Pe bai yn fwriadol neu’n anymwybodol, mae rhagfarn yn ei gwneud hi’n anodd i fenywod symud ymlaen. Yn unigol, rydyn ni i gyd yn gyfrifol am ein meddyliau a’n gweithredoedd ein hunain – trwy’r dydd, bob dydd.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn falch o gefnogi’r gwerthoedd sy’n arwain DRM gan gynnwys gobaith, cydraddoldeb a gwerthfawrogiad, ac maent yn parhau i roi pwys mawr ar helpu i greu byd cyfartal rhwng y rhywiau.

Alysha Chappell, Peiriannydd TGCh ym Mhencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

“Mae Diwrnod Rhyngwladol Menywod yn golygu llawer i mi oherwydd mae’n rhoi cyfle i fenywod gael eu gwerthfawrogi am yr hyn maent yn cyflawni ar lefelau personol a phroffesiynol.

Mae’n bwysig bod pawb yn derbyn yr un cyfleoedd i sicrhau cydraddoldeb yn y gweithle. Yn ogystal, dylai pawb yn y gweithle gael eu haddysgu am gydraddoldeb ac amrywiaeth, er mwyn wella dealltwriaeth ar y pwnc.

Myth cyffredin sy’n ymwneud â menywod rwy’n meddwl bod angen ei dorri yw nad ydym yn ddigon cryf i wneud swyddi corfforol, fel diffoddwr tân. Enghraifft berffaith o’r myth hwn yn cael ei chwalu yw bod cynnydd yn nifer o ddiffoddwyr tân benywaidd, gan gynnwys un o fy ffrindiau sydd wedi cymhwyso’n ddiweddar fel Diffoddwr Tân Ar Alwad yng Ngorsaf Dân ac Achub Porthcawl!

Neges hoffwn rannu gyda menywod ifanc sy’n meddwl am ddechrau eu gyrfaoedd, bydd i beidiwch â digalonni rhag ymgeisio am rolau a chyfleoedd mewn maes lle mae dynion yn bennaf! Mae fy rôl bresennol fel Peiriannydd TGCh yn GTADC yr un peth, ond rwy’n ei mwynhau bob dydd a byth yn teimlo fy mod yn dioddef gwahaniaethu oherwydd fy mod yn fenyw.”

Georgina Gilbert, Diffoddwr Tân yng Ngorsaf Tân ac Achub Penarth

“Fel menywod mewn cymdeithas rydyn ni’n clywed y rhagfarn bob dydd…..

Peidiwch â siarad yn rhy uchel. Peidiwch â siarad gormod. Peidiwch ag eistedd fel yna. Peidiwch â sefyll fel yna. Peidiwch â bod yn frawychus. Pam ydych chi mor druenus? Peidiwch â bod mor bossy. Peidiwch â bod yn bendant. Peidiwch â gorymateb. Peidiwch â bod mor emosiynol. Peidiwch â chrio. Peidiwch weiddi. Peidiwch â rhegi. Peidiwch â chwyno.

Mae Diwrnod Rhyngwladol Menywod 2022 yn ymwneud â thorri’r gadwyn o ragfarn a stereoteipio – i dorri’n rhydd – bod yn rhydd i fynegi, i eiriol – i fod yn deg.

Gall pawb fod yn fodel rôl weladwy – Galw allan ar wahaniaethu, stereoteipio a thuedd rhwng y rhywiau a bod yn rhan o ddyfodol sy’n 50:50 ac yn gynhwysol i bawb.”

 

Nicola Wheten, Rheolwr Prosiect Troseddau a Chanlyniadau ym Mhencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

“Mae Diwrnod Rhyngwladol Menywod yn ddiwrnod y gallwn ni, fel menywod, rannu a dathlu ein cyflawniadau a dangos nid yn unig i’r byd y pŵer sydd gan fenyw, ond hefyd i roi gwybod i fenywod eraill bod ganddyn nhw’r pŵer a’r cryfder hwnnw ynddynt.

I helpu cyflawni cydraddoldeb yn y gweithle, mae angen i ni gefnogi ein gilydd a dathlu llwyddiant eraill yn ogystal â rhai eich hun.

Y cyngor byddwn hoffi rhannu i rymuso menywod fyddai camu allan o’ch parth cysur, dilyn eich calon a chofleidio’ch diddordebau. Dyma’r athroniaeth a fabwysiadais trwy fy nghariad o focsio a phopeth y mae’r gamp yn ei gynnig. Rydw i nawr yn rhedeg fy nghlwb bocsio fy hun, Apollos ABC, gyda thalent anhygoel yn cerdded trwy’r drysau. Mae’r clwb hefyd wedi creu sesiynau menywod yn unig i helpu aelodau adeiladu hyder a gweithio ar eu hiechyd, ffitrwydd a lles eu hunain mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Mae hyn yn hanfodol gan ein bod hefyd yn gweithio’n agos gyda goroeswyr trais domestig.”

Byddwn yn marcio DRM ar draws ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i annog rhagor o bobl i ymrwymo i helpu i greu byd cynhwysol: Twitter | Facebook | Instagram

Eisiau gwybod mwy am weithio i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru?