Edrychwch ar ôl eich hun y Nadolig hwn!

Yma yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ry’n ni’n ymbil arnoch i ofalu amdanoch chi’ch hunan a chadw diogelwch mewn cof wrth i chi fwynhau Tymor yr Ŵyl.

Ar hyd mis Rhagfyr, byddwn ni’n rhannu ein 12 cyngor ‘Iechyd a Diogelwch’ Nadoligaidd i’ch cadw chi a’ch anwyliaid yn ddiogel yn ystod y gwyliau.

Dywedodd Pennaeth Diogelwch Cymunedol a Phartneriaethau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, y Rheolwr Grŵp Bleddyn Jones:

“Gyda Chyfnod yr Ŵyl ar ein gwarthaf unwaith eto, ry’n ni’n ymbil arnoch i barhau’n wyliadwrus a chadw diogelwch mewn cof wrth i chi fwynhau’r dathliadau.

P’un ai os achosir hwn gan goginio heb oruchwyliaeth, canhwyllau neu socedi sy’n cael eu gorlwytho, mae’n cymryd ychydig o eiliadau’n unig i dân cychwyn. Eleni, ry’n ni wedi drafftio 12 o gynghorion ‘Iechyd a Diogelwch’ syml y cewch ddilyn i’ch cadw chi’ch hun ac eraill yn ddiogel. Gall rhywbeth syml fel larwm mwg gweithredol a’i brofi’n rheolaidd atal trasiedi.

Rydym yn deall fod nifer yn rhannu pryderon ynghylch yr argyfwng costau byw, ac efallai bydd ‘Cynlluniau Galw Hyblyg’ a gynigwyd gan gyflenwyr ynni i gynnal peiriannau dros gyfnod yr oriau nad sy’n oriau brig yn gallu swnio fel ffordd dda i leihau costau’r gaeaf hwn. Fodd bynnag, ry’n ni’n ymbil arnoch i gadw’n wyliadwrus a pheidio â’u gadael yn rhedeg heb oruchwyliaeth, yn enwedig dros nos. Os bydd tân yn cychwyn wrth i chi gysgu, bydd gennych lai o amser i gael eich rhybuddio a dianc, ac felly’n rhoi eich hunan, eich anwyliaid a’ch cartref mewn perygl.

Gan bawb yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, os gwelwch yn dda, cadwch yn ddiogel a gofalwch am eich gilydd”.

Dilynwch ein 12 argymhelliad Iechyd a Diogelwch Nadoligaidd i’ch cadw chi’ch hun yn ddiogel y Nadolig hwn…

1. Peidiwch byth â gadael coginio heb ei oruchwylio

Mae’n hawdd cael eich llygad-dynnu pan fyddwch yn coginio pryd mawr, ond dim ond ychydig eiliadau’n unig fydd e’n cymryd i dân cychwyn. Mae tanau’n dechrau pan fydd eich sylw’n stopio!

Os ydych chi’n bwriadu coginio gwledd Nadoligaidd gartref eleni, cadwch yn wyliadwrus a pheidiwch byth â gadael coginio’n ddi-oruchwyliad, yn enwedig o amgylch plant.

Mewn achos o dân – ewch allan, arhoswch allan a galwch 999.

Am gynghorion pennaf ar gadw’n ddiogel, ymwelwch â’n tudalen Diogelwch Coginio.

2. Peidiwch â choginio o dan ddylanwad cyffuriau neu alcohol

Bwytewch, yfwch a byddwch lawen – ond peidiwch byth â choginio os ydych chi o dan ddylanwad cyffuriau ac alcohol!

Os ydych chi allan mewn parti neu ar noson allan gyda’ch ffrindiau, mae’n well i chi brynu bwyd ar eich ffordd gartref yn hytrach na cheisio coginio pan fyddwch yn cyrraedd gartref.

Os ydych chi am baratoi rhywbeth pan fyddwch chi’n cyrraedd gartref, mae’n well i chi baratoi pryd oer.

3. Peidiwch â gorlwytho socedau

Dros gyfnod yr Ŵyl, mae tua 1 ym mhob 4 o danau damweiniol yn y cartref yn cael eu hachosi gan nam trydanol – Cadwch at un plwg i bob soced.

4. Peidiwch byth â gadael i beiriannau trydanol fod yn weithredol heb oruchwyliaeth, yn enwedig dros nos

P’un ai’n oleuadau Nadolig neu sychwr dillad, ddylech chi fyth gadael peiriannau trydan yn weithredol heb eu goruchwylio.

Os ydych chi’n gadael y tŷ neu’n mynd i gysgu, sicrhewch eich bod yn dadblygio ac yn diffodd yn llwyr.

5. Gyrrwch yn ddiogel a pheidiwch byth â mynd y tu ôl i lyw gyrru os byddwch o dan ddylanwad cyffuriau neu alcohol

P’un ai os ydych chi’n gwneud rhywfaint o siopa Nadolig munud olaf neu’n mynd ag anrhegion i’ch ffrindiau a’ch teulu, cymrwch ofal ychwanegol wrth yrru – gwiriwch am ein cyngor ar gyfer Gyrru mewn Tywdd Gaeaf.

PEIDIWCH BYTH Â gyrru o dan ddylanwad cyffuriau neu alcohol.

6. Cwblhewch wiriadau diogelwch eich cerbyd

A yw eich cerbyd yn ddiogel a chyfreithiol? Parhewch yn ddiogel ar y ffyrdd y gaeaf hwn a sicrhewch bydd pob Gwiriadau Hanfodol ar gyfer Cerbydau (P.O.D.D.T.R.H) yn gyflawn.

7. Byddwch yn ddiogel o amgylch dŵr

Dylech chi byth mynd i’r dŵr ar ôl bod yn yfed – mae alcohol yn ffactor cyfrannol mewn nifer o ddigwyddiadau sy’n ymwneud â dŵr gan ei fod yn amharu eich crebwyll, ymateb a’ch gallu i nofio’n ddifrifol.

Gall sioc dŵr oer fod yn rhagflaenydd i foddi. Os ydych chi’n canfod eich hun yn y dŵr, cymrwch funud i adael i effeithiau cychwynnol dŵr oer basio. Ymlaciwch ac arnofiwch ar eich cefn i adennill eich gwynt. Ceisiwch afael ar rywbeth fydd yn eich helpu i arnofio.

Mewn argyfwng, galwch 999 a gofynnwch am y Gwasanaeth Tân ac Achub neu Wylwyr y Glannau os ydych ger yr arfordir.

Ymwelwch â’n Tudalen Diogelwch Dŵr am fwy o gyngor a chyfarwyddyd.

8. Profwch eich larwm mwg

Sicrhewch eich bod wedi gosod larymau mwg gweithredol yn eich cartref a phrofwch hwy’n gyson! Gweler ein canllaw ar Larymau Mwg sy’n Seinio.

9. Cynlluniwch eich llwybr dianc

Bod yn berchen ar larwm mwg gweithredol yw’r cam cyntaf hanfodol i’ch atal eich hun rhag tân, ond beth fyddwch chi’n gwneud os fydd y larwm yn canu?

Crëwch ac ymarferwch Gynllun Dianc i’ch aelwyd chithau.

10. Crëwch arfer noswylio

Cyn i chi fynd i gysgu, mae’n arfer dda cael rhestr wirio wrth noswylio sy’n cynnwys pethau ar y cynllun dianc a phwyntiau eraill i’w gofio fel:

Cymrwch olwg ar ein Canllaw Rhestr Wirio cyn Noswylio a gwelwch ba mor ddiogel yw eich cartref.

11. Defnyddiwch ganhwyllau’n ddiogel

Wrth ddefnyddio canhwyllau, mae’n bwysig cofio sawl un rydych wedi’u cynnau.

Peidiwch byth â’u cadw heb oruchwyliaeth – cadwch hwy i ffwrdd o addurniadau a chwythwch nhw allan yn llwyr cyn i chi fynd allan neu i’r lan i’r gwely.

Mae gennym fwy o gyngor a chyfarwyddyd ar gael ar ein Tudalen Diogelwch Tân Canhwyllau.

12. Peidiwch â llosgi eich gwastraff o’r cartref – gwaredwch eich sbwriel yn ddiogel

Dros gyfnod yr Ŵyl, mae bron i hanner yr holl danau a fynychwyd gan ein criwiau yn cychwyn o sbwriel…. felly, da chi, peidiwch â llosgi gwastraff o’r cartref!

Cysylltwch â’ch awdurdod lleol am wybodaeth ar gasgliadau a chanolfannau ailgylchu, neu ymwelwch â Chymru’n Ailgylchu.

Os oes gennych goeden Nadolig go iawn eleni, gwaredwch ef ar unwaith ac yn ddiogel wedi iddo sychu a pheidiwch byth â rhoi brigau neu nodwyddau mewn lle tân agored neu losgwr coed.


Am ragor o wybodaeth a negeseuon diogelwch, ewch at ein gwefan www.decymru-tan.gov.uk neu dilynwch ni ar ein sianelau cyfryngau cymdeithasol Twitter | Facebook | Instagram neu beth am lawr lwytho ein Llyfryn Diogelwch yn y Cartref.