Derbyniwch yr alwad – a dewch yn Ymladdwr Tân Ar Alwad

Derbyniwch yr alwad – a dewch yn Ymladdwr Tân Ar Alwad – dyna’r neges gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cefnogi ymgyrch genedlaethol i annog mwy o bobl i ddod yn Ymladdwyr Tân Ar Alwad.

Lansiwyd yr ymgyrch sy’n wythnos o hyd #NeedMore, a hyrwyddwyd gan y Cyngor Penaethiaid, Tân Cenedlaethol (CPTC), yr wythnos hon a bydd yn cael ei chynnal ar y cyd ag ymgyrch recriwtio gyfredol, lwyddiannus GTADC #BeMore.

Gan dynnu sylw at y cyfleoedd yn y Gwasanaeth Tân ac Achub, a chwalu’r mythau ynghylch yr hyn y mae’n ei gymryd i fod yn ymladdwr tân, cefnogir yr ymgyrch gan wefan genedlaethol – www.oncallfire.uk – sy’n annog pobl i gysylltu â’u Gwasanaeth Tân ac Achub lleol am fanylion sut i wneud cais.

Mae rôl Ymladdwr Tân Ar Alwad yn waith heriol a boddhaus, gan gynnwys ymateb i alwadau brys, cefnogi amrywiaeth o weithgarwch er budd y gymuned leol a gweithredu fel llysgennad cadarnhaol dros y Gwasanaeth Tân ac Achub.

Mae Ymladdddwyr Tân Ar Alwad yn dod o bob cefndir, gan gynnwys pobl sy’n gofalu am y tŷ, siopwyr, adeiladwyr, ffermwyr, gweithwyr swyddfa a chyfarwyddwyr cwmnïau, ynghyd â phobl nad ydynt yn gyflogedig ar hyn o bryd. Darperir hyfforddiant llawn yn barhaus ac nid oes angen profiad blaenorol i wneud cais.

Apply now to be an On-Call Firefighter
Be More

Mae’r oriau ar alwad yn seiliedig ar argaeledd ymgeiswyr a’u hymrwymiadau bob dydd eraill.

Er mwyn bod yn Ymladdwr Tân Ar Alwad, mae’n ofynnol i chi:

  • Fyw neu/a gweithio o fewn pum munud i’ch gorsaf dân leol
  • Fod awydd cryf i gefnogi’r gymuned leol.
  • Fod yn frwdfrydig am weithio fel rhan o dîm.
  • Allu bodloni’r gofynion ffitrwydd a meddygol.

I gael gwybod mwy am ddod yn Ymladdwr Tân Ar Alwad, cysylltwch â’ch Gwasanaeth Tân ac Achub lleol drwy www.oncallfire.uk. Mae’r wefan hefyd yn rhoi cyngor i gyflogwyr ynghylch y manteision o gael Ymladdwyr Tân Ar Alwad yn gweithio yn eu busnesau, gan gynnwys iechyd a diogelwch a hyfforddiant ymateb meddygol, yn ogystal â datblygu ymwybyddiaeth sefyllfa, sgiliau arweinyddiaeth a’r gallu i weithio dan bwysau.

Ymgeisio Nawr