Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2021

Mae Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau yn ddathliad prentisiaethau blynyddol. Y thema eleni yw ‘Adeiladu’r Dyfodol’ a bydd yr wythnos yn gyfle i ni i gyd gydnabod sut y gall prentisiaethau helpu pobl i ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i ddilyn gyrfa werth chweil.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn falch o fod yn rhan o Raglen Brentisiaethau Cymru, sy’n rhoi cyfleoedd gwerthfawr i brentisiaid ddatblygu sgiliau a phrofiadau yn gysylltiedig â gwaith, ac ennill cymhwyster ill dau.  Mae’r cynllun hefyd yn caniatáu i brentisiaid chwarae rhan bwysig wrth ein helpu i ddarparu gwasanaeth i’n cymunedau.

Alysha Chappell sy’n beiriannydd TGCh ac yn bedair ar bymtheg oed yw prentis diweddaraf y Gwasanaeth gan ymunodd ym mis Tachwedd 2020. Ar ôl gorffen yn yr ysgol gweithiodd Alysha mewn archfarchnad am flwyddyn cyn ymuno â’r Gwasanaeth ar gynllun prentisiaeth tair blynedd.

Dywedodd Alysha: “Mae fy mhrentisiaeth wedi bod yn werth chweil gan ystyried cyn lleied o amser rwyf wedi treulio gyda’r sefydliad. Mae pawb wedi bod yn groesawgar iawn ac rwyf wedi dysgu sgiliau gwerthfawr a throsglwyddadwy ers i mi ymuno. Mae gweithio i derfynau amser tynn, datrys problemau, meddwl yn gyflym a bod yn chwaraewr tîm yn sgiliau bob dydd ac rwy’n croesawu hyn oll.

Byddwn yn argymell gwneud prentisiaeth i unrhyw un. Nid y Brifysgol yw’r unig ddewis ar gyfer gyrfa dda mewn bywyd, mae ffyrdd eraill o wneud hynny gan gael eich talu wrth wneud.”

Dywedodd Alysha ei bod yn gobeithio parhau â’r rôl ar ôl ei chyfnod  tair blynedd a datblygu o fewn y sefydliad.

Yn ogystal ag Alysha, ymunodd Tia Magan sy’n brentis ddwy ar bymtheg oed, â’r Gwasanaeth ym mis Hydref y llynedd fel Gweinyddwraig gydag Adran Perfformiad a Chyfathrebu’r Gwasanaeth. Mae cytundeb dwy flynedd gyda Tia ac mae hi’n gobeithio dilyn ei thad a dod yn Ddiffoddwr Tân Amser Gyflawn yn y dyfodol.

Nid yn unig mae gennym brentisiaid corfforaethol yn y Gwasanaeth ond mae gennym ni gweithwyr weithredol hefyd. Ar hyn o bryd mae gan Ganolfan Hyfforddi giât

Caerdydd dri phrentis sydd ar hyn o bryd yn gwenud yn gwych yn eu swyddi.

Dyma beth oedd ganddyn nhw i’w ddweud:

Luke Davies (Diffoddwr Tân) – “Rwy’n mwynhau dysgu set o sgiliau newydd sbon, nid yn unig ymladd tân ond sgiliau bywyd. Rwyf wedi dysgu set eang o sgiliau o osod ysgol i ddiogelwch tân. Mae’r brentisiaeth wedi’i osod mewn modd blaengar ac wedi’i hanelu at bob lefel sgiliau a chefndir.”

Richard Jones (Diffoddwr Tân) – “Rwy’n mwynhau dysgu sgiliau newydd, gwneud ffrindiau newydd ac hefyd gael hwyl. Rwyf wedi dysgu sut i fod yn rhan o’r tîm gan weithio gydag un nod cyffredin. Mae’r brentisiaeth yn caniatáu i mi ddysgu a chael fy nhalu ar yr un pryd mewn amgylchedd proffesiynol ond hwyliog.

Aisha Finlay (Diffoddwr Tân) – “Rwyf wedi mwynhau cwrdd â phobl newydd a chyfeillgarwch y tîm. Rwyf wedi dysgu gweithio dan bwysau a chyfathrebu â fy tîm i gyflawni ein tasgau ac rwy’n cael dysgu yn y swydd wrth gael fy nhalu i wneud hynny, sydd yn wych. ”

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi ymrwymo i wneud ein cymunedau yn llefydd diogelach i fyw, gweithio ac ymweld â hwy.  Er mwyn cyflawni hyn, gwyddom fod angen i ni fuddsoddi mewn denu, cadw a datblygu’r bobl orau ar gyfer pob swydd ar draws y sefydliad.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn credu yng ngwir werth gweithlu amrywiol. Rydym yn annog ymgeiswyr o bob cefndir yn rhagweithiol i ymgeisio er mwyn cynrychioli’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Os ydych chi’n ystyried gwneud prentisiaeth gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fel Alysha a Tia a bod angen rhagor o wybodaeth arnoch chi, mae croeso i chi gysylltu â’r tîm recriwtio ar 01443 232200 neu i gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Tudalen Prentisiaeth.