Penwythnos Jiwbilî Platinwm y Frenhines: #7am70

O oleuadau llachar i gynnal partïon stryd  i bicniciau yn y parc – pa fodd bynnag y byddwch chi’n bwriadu dathlu’r Jiwbilî Blatinwm dros ŵyl y banc  eleni (2il – 5ed o Fehefin 2022), rydyn ni am i chi ei wneud yn ddiogel!

Yn 2022, Ei Mawrhydi y Frenhines fydd y Frenhines Brydeinig gyntaf i ddathlu Jiwbilî Platinwm ar ôl 70 mlynedd o wasanaeth. Gan fod llawer ohonom yn awyddus i ddathlu bod Ei Mawrhydi’r Frenhines yn cyrraedd y garreg filltir hanesyddol hon, rydym am helpu i’ch cadw’n ddiogel wrth fwynhau’r dathliadau.

Dywedodd Pennaeth Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, St. John Towell:

“Gyda nifer o weithgareddau a digwyddiadau’n cael eu cynnal dros benwythnos gŵyl y banc, mae’n hawdd bod yn hunanfodlon neu anghofio talu sylw i’r hyn sy’n digwydd o’n cwmpas. Rydym eisiau i’n cymunedau ddathlu a mwynhau eu hunain, fodd bynnag, mae’n bwysig cadw diogelwch mewn cof wrth wneud hynny.

Rydym yn annog y cyhoedd i fynychu arddangosfeydd neu ddigwyddiadau a drefnir yn barod i leihau’r pwysau ar ein gwasanaethau brys. Os ydych chi’n bwriadu cynnau tanau ar fannu neu goelcerthi dros y penwythnos, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dilyn ein harweiniad a ffoniwch 999 mewn argyfwng yn unig. Bydd hwn yn gyfnod hynod o brysur i’n Hystafell Reoli Tân ar y Cyd a’n criwiau ill dau a thrwy adrodd am rywbeth nad yw’n argyfwng, gallech fod yn tynnu adnoddau hanfodol a gwerthfawr oddi wrth ein cymunedau, gan beryglu bywydau yn ddi-angen.

Rydym hefyd yn annog y cyhoedd i fod yn ymwybodol o ffyrdd sydd ar gau, digwyddiadau a gweithgareddau eraill a allai effeithio ar eich taith. Cynlluniwch ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Yn ogystal â’r dathliadau arfaethedig, mae medalau Jiwbilî arbennig wedi’u dyfarnu i aelodau rheng flaen y gwasanaeth tân, yr heddlu, y gwasanaethau brys, y gwasanaethau carchardai a’r Lluoedd Arfog yn arwydd o ddiolch gan y genedl.

Mae bron i 1,000 o staff Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi derbyn Medal Jiwbilî Platinwm y Frenhines, gan amlygu eu rhagoriaeth weithredol a’u hymrwymiad i wasanaethu cymunedau De Cymru.”

Rydym wedi nodi ein saith cam i gadw eich dathliadau i fynd yn ddi-ffwdan:

GOLEUFȂU

Y goleufâu fydd y digwyddiad cymunedol cyntaf yn ystod y dathliad pedwar diwrnod.

Mae’r goleufâu’n caniatáu i gymunedau, unigolion a sefydliadau dalu teyrnged i Ei Mawrhydi y Frenhines fel rhan o ddathliadau swyddogol Penwythnos y Jiwbilî Platinwm.

Mae yna draddodiad hir o ddathlu Jiwbilî Frenhinol, priodasau a choroniadau drwy gynnau goleufâu, ac ar gyfer y Jiwbilî Platinwm eleni, rydym yn eich annog chi i ymuno ag un o’r digwyddiadau Goleufâu Cymunedol swyddogol a gynhelir ledled y DU.

Gwelwch y Dudalen Map o Ddigwyddiadau i ddod o hyd i ddigwyddiad yn eich ardal.

Os ydych chi’n bwriadu cynnal cynnau eich goleufâu eich hun, Ymweld ag ein Tudalen Llosgiadau Rheoledig a pheidiwch anghofio i Gofrestri eich Digwyddiad.

COFIWCH:

  • Mae yna wahanol fathau o oleufâu, ac mae gan bob un ofynion gwahanol. Gallwch ddarganfod mwy yma: https://www.queensjubileebeacons.com/
  • Sicrhewch fod strwythur a gwaelod cadarn gyda nhw, er enghraifft, eu bod yn ddigon cryf i gael gosod ysgol yn ei herbyn i roi pren ar ei ben.
  • Mae rhai goleuadau eisoes yn eu lle, felly dylech ystyried strwythurau neu lystyfiant sydd yno ers y tro diwethaf iddynt gael eu cynnau.
  • Bydd rhwystrau neu gordwn o gwmpas y goleufa’n diogelu’r cyhoedd rhag darnau / marwydos a all gwympo.

PEIDIWCH BYTH Ȃ:

  • Llosgi plastigau, metelau na defnyddio cyflymyddion
  • Cynnau’r goleufa mewn gwyntoedd cryfion

Dylai rhywun fod ar y safle bob amser i oruchwylio’r goleufa, wrth ei gynnau ac wedyn

Coelcerthi

Gall coelcerthi hefyd fod yn risg tân sylweddol. Rydym yn cynghori preswylwyr i ymatal rhag cynnau tanau yn eu gerddi, a bod yn ystyriol o’u cymdogion.

Nid ydym ychwaith yn cynghori unrhyw un i losgi gwastraff gardd neu gartref. Cofiwch ei storio ar gyfer adeg y gallwch ddefnyddio gwasanaethau gwastraff, ailgylchu a chompostio eich awdurdod lleol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein Tanau mewn Gerddi. Cewch gyfeirio hefyd at Ganllawiau’r Llywodraeth.

BARBECIWS

Ydych chi’n bwriadu cael barbeciw ar gyfer y Jiwbilî? Cadwch yn ddiogel drwy ddilyn ein cyngor diogelwch!

  • Peidiwch byth â chynnau barbeciw dan do
  • Sicrhewch fod eich barbeciw yn gweithio’n iawn
  • Cadwch fwcedaid o ddŵr, bwcedaid o dywod neu beipen ddŵr gerllaw – rhag ofn y bydd argyfwng!
  • Sicrhewch fod eich barbeciw ar arwyneb gwastad ac ymhell oddi wrth adeiladau, ffensys, coed a llwyni
  • Peidiwch roi mwy o siarcol nag sydd ei angen i orchuddio gwaelod y barbeciw i ddyfnder o tua 50mm (dwy fodfedd)
  • Cadwch blant, gemau gardd ac anifeiliaid anwes ymhell o’r ardal goginio
  • PEIDIWCH â cheisio coginio os ydych wedi bod yn yfed alcohol

TANNAU GWYLLT

Gall tân gwyllt ddychryn pobl ac anifeiliaid, wedi’r cyfan, ffrwydron ydyn nhw.

  • Sicrhewch fod pob tân gwyllt yn cydymffurfio â safonau a rheoliadau cymeradwy
  • Peidiwch ag yfed alcohol os byddwch chi’n cynnau tân gwyllt
  • Cadwch dân gwyllt mewn bocs â chaead a dilynwch y cyfarwyddiadau yn ofalus wrth eu defnyddio
  • Dylech eu dal nhw hyd fraich wrth eu cynnau gan ddefnyddio tapr a safwch yn ddigon pell oddi wrthynt
  • Peidiwch byth â mynd yn ôl atyn nhw ar ôl iddynt gael eu cynnau – hyd yn oed os nad yw tân gwyllt wedi ffrwydro’n syth, gallai wneud wedyn
  • Peidiwch byth â thaflu tân gwyllt a pheidiwch byth â’u rhoi yn eich poced
  • Parchwch eich cymdogion – peidiwch â chynnau tân gwyllt yn hwyr yn y nos a chofiwch am y cyfreithiau perthnasol
  • Byddwch yn ofalus gyda ffyn gwreichion – peidiwch byth â’u rhoi i blant dan bump oed
  • Hyd yn oed pan fyddant wedi diffodd maent yn dal yn boeth felly rhowch ffyn gwreichion mewn bwcedaid o ddŵr ar ôl eu defnyddio
  • Cadwch eich anifeiliaid anwes dan do drwy’r nos

SBWRIEL

Os bydd mwy o sbwriel gyda chi ar ôl penwythnos gŵyl y banc, peidiwch â chael eich temtio i losgi gwastraff o’r ardd neu’r tŷ.

Yn lle hynny…cymerwch gyfrifoldeb am eich gwastraff!

Cysylltwch â’ch awdurdod lleol neu ewch i’w wefan i gael gwybodaeth am gasgliadau a chanolfannau ailgylchu neu ewch i Ailgylchu Cymru.

Os dewiswch ollwng sbwriel fe allech chi fod yn rhoi tanwydd ar y tân a chyfrannu at drasiedi.

DIOGELWCH DŴR

Os ydych chi’n dathlu ar lan dŵr neu’r arfordir, byddwch yn DDIOGEL:

  • SYLWCH ar y peryglon
  • CYNGOR – dilynwch arwyddion diogelwch a chyngor
  • FFRIND – arhoswch yn agos at ffrind neu aelod o’r teulu
  • ARGYFWNG – gweiddi am help a ffoniwch 999 neu 112

Mewn argyfwng, ffoniwch 999 a gofynnwch am y Gwasanaeth Tân ac Achub os ydych chi mewn lleoliad mewndirol neu ffoniwch Wylwyr y Glannau os ydych chi ar yr arfordir.

Am fwy o wybodaeth, ewch i ein Tudalen Diogelwch Dŵr.

TEITHIO

Bydd nifer o ffyrdd ar gau achos partïon stryd, gweithgareddau a digwyddiadau, felly cynlluniwch eich taith ymlaen llaw!

Gwiriwch gyda’ch Awdurdod Lleol am unrhyw ffyrdd fydd ar gau neu ddathliadau a allai effeithio arnoch, cofiwch am fynediad i gerbydau’r gwasanaethau brys os ydych chi’n cael parti a chofiwch, os ydych wedi bod yn yfed alcohol, gallech dal i fod dros y terfyn cyfreithiol  y diwrnod wedyn.

Beth am ymgyfarwyddo â’r 5 Angheuol?

ALCOHOL

Gall anafiadau a damweiniau ddigwydd os byddwch chi dan ddylanwad cyffuriau ac alcohol.

Mae peidio â thalu sylw neu gwympo i gysgu ill ddau wrth goginio gyfrannu’n fawr at danau domestig, a gallai ychwanegu ychydig o ddiodydd yn rysáit ar gyfer trychineb, gan beryglu eich cartref, eich anwyliaid a chi’ch hun.

Rydyn ni’n gwybod ei fod yn anodd pan fyddwch chi’n aros am help, ond nid cam-drin gweithwyr gwasanaethau brys yw’r ateb. Rydym yma i’ch helpu chi, ac ni allwn wneud hynny os byddwch chi’n ymosod arnom. Diogelwch ein criwiau sy’n dod gyntaf ac os byddant yn cael eu peryglu, efallai na fydd unrhyw ddewis gyda ni ond gadael.

Os ydych chi angen cymorth gennym ni neu ein cydweithwyr yn y gwasanaethau brys, pharchu ni a gweithio gyda ni, nid yn ein herbyn.