Mis Recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad – Awst 2022

Drwy gydol mis Awst, bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn dathlu eu ‘Mis Recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad’ eu hunain, gan amlygu rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad a hyrwyddo nifer o weithgareddau, swyddi gwag a digwyddiadau ledled De Cymru.

Yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, mae ein Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn dod o bob cefndir – o wneuthurwyr tai, gweithwyr y gwasanaethau brys, adeiladwyr, ffermwyr, gweithwyr swyddfa a chyfarwyddwyr cwmnïau, ynghyd â’r rhai sy’n hunangyflogedig ac nad ydynt yn gyflogedig ar hyn o bryd. Gallwn hefyd gynnig patrymau gweithio hyblyg, sy’n gallu cyd-fynd ag astudiaethau, gwaith ac ymrwymiadau teuluol!

Dilynwch ni ar: Facebook | Twitter | Instagram trwy gydol mis Awst i ddarganfod mwy!

Mae’r rôl Ar Alwad yn heriol ac yn wobrwyol, gyda hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu ac nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol i wneud cais.

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad, yn union fel y rhai sy’n llawn amser, yn ymateb i danau a galwadau gwasanaeth arbennig megis gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd, argyfyngau cemegol, llifogydd a thrychinebau naturiol eraill. Maent hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth hysbysu, atal ac addysgu cymunedau lleol mewn diogelwch tân gan gynnwys cynnal ymweliadau diogel a lles.


Beth yw’r manteision?

Drwy ddod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, byddwch yn derbyn hyfforddiant o’r radd flaenaf a chyfleoedd i ddatblygu a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Mae rôl Ddiffoddwr Tân Ar Alwad yn rhoi boddhad mawr, ymdeimlad o berthyn a’r cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn ogystal ag ennill hyd at £13,800 y flwyddyn.

I gael y rhestr lawn o fuddion, edrychwch a lawrlwythwch ein Llyfryn Gwybodaeth Diffoddwr Tân Ar Alwad.


Beth sy’n digwydd ym mis Awst?

Digwyddiadau Recriwtio:

Dewch i ymuno â ni yn un o’n digwyddiadau recriwtio ym mis Awst lle byddwch yn gallu cwrdd â’r criwiau, gofyn cwestiynau, gweld arddangosiadau a llawer mwy!

 

Noson Drilio

Un noson bob wythnos, mae Gorsafoedd Ar Alwad yn cynnal sesiwn hyfforddi a elwir yn ‘Noson Drilio’.

Fel arfer yn rhedeg o 18:30 i 20:30, mae Noson Drilio yn ffordd wych i’r rhai sydd â diddordeb yn rôl y Diffoddwr Tân Ar Alwad gwrdd â chriwiau, gofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddyn nhw a chael blas ar y math o waith sydd ynghlwm.

I gael gwybod pryd mae eich Gorsaf leol yn cynnal noson ymarfer, ewch i’n Tudalen Map Noson Ymarfer.


Pa orsafoedd sy’n recriwtio ar hyn o bryd?

Mae gennym 36 o Orsafoedd Tân ac Achub Ar Alwad ledled De Cymru, gan gynnwys ardaloedd fel Pen-y-bont ar Ogwr, Sir Fynwy a Chaerffili.

Mae rhestr lawn o swyddi gwag i’w gweld ar ein Tudalen Diffoddwyr Tân Ar Alwad.

Eisoes yn gwybod eich gorsaf leol? Dadlwythwch ac ymgeisiwch heddiw!

Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir i ddod yn Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad a gwasanaethu eu cymunedau.