Mae Mis Hanes Pobl Dduon (MHPDd) yn amlygu’r arwyr yn ein plith, a’r datblygiadau arloesol yn ogystal â chyflawniadau eithriadol Pobl Groenliw sy wedi llunio a gwella bywyd heddiw.

Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn gyfle gwych i ni addysgu a dathlu hanes a chyfraniadau cymuned Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig (APDdELl)  dros y blynyddoedd. Mae’r mis yn golygu gwahanol bethau i bawb ac mae balchder dros y mis hwn yn cael ei fynegi mewn nifer o ffyrdd amrywiol.

Yma yn #TimDeCymru, rydym yn falch o anrhydeddu ein cydweithwyr sy’n Bobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig, a byddwn yn rhannu eu hanesion fel y gallwch chi eu hanrhydeddu hefyd.

Mae’r mis yn gyfle i fyfyrio, yn ein hatgoffa i addysgu ac yn gyfle i ni fel Gwasanaeth i gefnogi a chynnal Cymuned Aelodau Pobl Dduon ac Ethnigrwydd Lleiafrifol GTADC.

Dywedodd PST Huw Jakeway “Roedd Frank Arthur Bailey yn ddiffoddwr tân a gweithiwr cymdeithasol Guyanese-Prydeinig ac efe oedd un o’r diffoddwyr tân du cyntaf yn y Deyrnas Unedig.
Fe’i ganwyd yn 1925 yn Guyana, a threuliodd Mr Bailey lawer o’i oes yn brwydro dros gydraddoldeb, gan oresgyn rhwystrau wrth wneud hynny.
Gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, rwy’n falch ein bod ni i gyd yn unfryd o ran amrywiaeth ein pobl, gyda phob un mor falch o wasanaethu ein cymunedau amrywiol gydag ymroddiad a phroffesiynoldeb. Mae’n hanfodol ein bod ni’n parhau i gyflogi staff o blith ystod amrywiol o gefndiroedd ethnig, diwylliannol a threftadaeth”

Dyma ein straeon staff :

Alex Szekely

Fy enw i yw Alex, ac rwy’n ddiffoddwr tân yn Aberbargod. Ymunais â GTADC yn 2010 yn 22 oed. Des i adref o’r ysgol un diwrnod i weld digwyddiadau erchyll 9/11 ar y teledu ac roeddwn i mor ofidus nad oedd unrhyw beth y gallwn ei wneud i helpu. O’r diwrnod hwnnw ymlaen roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau bod yn ddiffoddwr tân. Mae fy mam yn dod o Belize CA, mae fy nhad yn Gymro. Rwy’n ystyried fy hun yn Brydeiniwr du.

Pwy sy’n eich ysbrydoli chi a pham?

Fel cefnogwr pêl-fasged, cefais fy ysbrydoli gan Michael Jordan. Mae ei benderfyniad, ei egni, a’i feddylfryd enillydd yn fy ngwthio i fod y person gorau y gallaf fod.

Gwyliais i ffilm tua 8 mlynedd yn ôl o’r enw Glory Road. Lleolir y ffilm yn Texas yn y 80au. Sôn am ysgol i bobl gwyn mae’r ffilm, sy’n llogi prif hyfforddwr gwyn newydd, ac mae’r prif hyfforddwr gwyn hwn yn dod o hyd i chwaraewyr pêl-fasged du ac mae e’n dod yn aelod o’r tîm coleg. Mae’r mae’n dangos y ffordd y mae’r tîm hwn yn cael ei drin, gyda phobl yn gweiddi arnynt, sgrechian arnynt, eu curo, gyda dyfarniadau rhagfarnllyd oll yn digwydd achos eu bod yn Ddu. Mae hyd yn oed yr hyfforddwr gwyn yn dioddef gan fod chwaraewyr du gyda fe ar ei dîm. Mae’n cael ei aflonyddu, a’i gam-drin, mae ei swydd dan fygythiad ac mae ei gartref yn cael ei fandaleiddio. Ond mae’n dyfalbarhau gyda’i dîm achos taw hwythau yw’r chwaraewyr gorau, er gwaethaf lliw eu crwyn.

Newidiodd y ffilm honno fy meddwl a’r ffordd ‘rwy’n gweld y byd yn llwyr, sut bydda i’n trin pobl a’r hyn y byddaf yn ei wneud i helpu eraill a chynnwys pawb. Cyfrannodd y ffilm hon yn fawr at y person yr ydwyf heddiw.

Michael Jordan: – Gwaith caled, ymdeimlad teuluol cryf o deulu a chymuned a haelioni. Er gwaethaf ei lwyddiant mawr fel chwaraewr pêl-fasged a gyflawnwyd ar sail dawn dalent a gwaith caled ill dau, yn ogystal â’i gyfoeth cynyddol a pharhaus fel entrepreneur, mae bob amser wedi blaenoriaethu ei deulu ac mae hefyd wedi cyfrannu’n hael o’i amser a’i gyfoeth, hyd at filiynau o ddoleri at sawl achos yn ei gymuned, a hynny’n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol

 

Edris Kizito

Fy enw i yw Edris, ac rydw i’n Ddiffoddwr Tân yng Ngorsaf Dân ac Achub Duffryn.

Yn fy rôl fel diffoddwr tân, rwyf ar y cam datblygu ac edrychaf ymlaen at weithio’n galed a chwblhau’r cam hwn yn ystod y 18 mis nesaf. Mae’r yrfa newydd mor gyffrous gan fod llawer o gyfleoedd newydd, offer a phrosesau i ddysgu amdanynt er mwyn gwasanaethu’r bobl yn ein cymunedau. Mae pawb yn fy ngwylfa yn brofiadol iawn ac maent yn garedig wrth fy helpu i ddysgu.

Ymunais â’r gwasanaeth tân 11 mlynedd yn ôl ac o’r blaen bues i’n gweithio yn yr adran Gyllid fel cynorthwyydd Caffael, ac yna fel dechnegydd CADD yn yr adran Diogelwch Tân Busnes

Prydeiniwr Affricanaidd ydw i a chefais fy ngeni yn Uganda, Dwyrain Affrica.

 

Pwy sy’n eich ysbrydoli chi a pham?

Nelson Mandela: – Ei hydwythedd dyfal a’i allu i gymodi. Hyd yn oed ar ôl brwydr hir greulon a phoenus dros gyfiawnder a thegwch o dan apartheid a arweiniodd at 27 o flynyddoedd o garchar yn y pen draw, parhaodd gyda’r achos a galwodd am heddwch ac undod yn hytrach na dial.

 

Mark Dodds

Fy enw i yw Mark ac rwy’n Ddiffoddwr Tân yng Ngorsaf Dân Ganol Caerdydd. Ymunais â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn 2004 a gweithiais i yng Ngorsaf Dân ac Achub y Barri am ddeng mlynedd cyn trosglwyddo i Orsaf Dân ac Achub Canol Caerdydd.

Ymgeisiais gyntaf i ddod yn Ddiffoddwr Tân yn y flwyddyn 2000, ond yn anffodus roeddwn yn aflwyddiannus yn y broses ymgeisio. Wnes i ddim gadael i hyn fy rhwystro, felly gwnes i gais eto rai blynyddoedd yn ddiweddarach a llwyddais yn y diwedd a dyna ddechrau fy ngyrfa gyda’r Gwasanaeth tân. Ar ôl fy niwrnod cyntaf yn yr orsaf, roeddwn i’n gwybod taw hon oedd y swydd i mi. Roedd fy ffrindiau i mi bob amser yn dweud y byddai rôl Diffoddwr Tân yn addas i mi, ac ar ôl i  mi ymuno – sylweddolais eu bod yn iawn!

Rwy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm, a hefyd yr agwedd gorfforol y rôl a natur anrhagweladwy bob dydd yn ogystal â chael cysylltiad â’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.

 

Pwy sy’n eich ysbrydoli a pham?
Fy mhrif ddelfryd ymddwyn yn fy mywyd oedd fy Mamgu, roedd hi bob amser yn fy nghefnogi, roedd hi bob amser yn gadarnhaol a fyddai hi byth yn fy siomi, dyma sut rydw i’n ceisio byw fy mywyd.

 

Nilks Eratne

 

Fy enw i yw Nilks, ac rwy’n aelod o dîm Trawsnewid TGCh – ymunais â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn 2015. Rwy’n Asiaidd Prydeinig ac mae fy rhieni’n dod o Sri Lanka yn wreiddiol. Rwy’n mwynhau gweithio i’r Gwasanaeth gan ei fod yn hyrwyddo amrywiaeth mewn ffordd mor gadarnhaol nid yn unig yn y gweithle ond hefyd yn y gymuned ehangach.

Pwy sy’n eich ysbrydoli chi a pham?

Rwy’n cael fy ysbrydoli bob dydd gan fy nheulu ac mae Barrack Obama hefyd yn fy ysbrydoli. Un o fy hoff ddyfyniadau ganddo yw “Fydd newid byth yn dod os arhoswn ni am rywun arall neu ryw dro arall. Ni yw’r sawl rydyn ni wedi bod yn aros amdanynt. Ni yw’r newid rydym yn ei geisio”