Wythnos Diogelwch yn y Cartref (yr 30fed o fedi – y 6ed o Hydref)

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cefnogi wythnos diogelwch yn y cartref Cyngor y Penaethiaid Tân Cenedlaethol (CPTC),  a gynhelir o’r 30ain o Fedi i’r 6ed o Hydref. Mae’r ymgyrch yn annog cartrefi i wneud yn siwr bod synwyryddion mwg yn addas ar gyfer anghenion eu cartrefi ac yn gallu rhoi rhybudd cynnar iddynt os bydd tân.

Mae synwyryddion mwg wedi’u gosod yn y rhan fwyaf o gartrefi ond mewn bron i 20% achosion o danau damweiniol mewn eiddo yn y DU, methodd y synwyryddion â gweithredu. Y rhesymau mwyaf cyffredin dros hyn oedd, mwg yn methu â chyrraedd y synhwyrydd (lleoliad amhriodol) a hefyd am fod y batris naill ai ar goll neu wedi mynd yn hen.

Gan gefnogir’r CPTC rydym yn annog pobl i:

  • Amnewid synwyryddion bob deng mlynedd – hyd yn oed os ydynt i’w gweld yn iawn wrth gael eu profi
  • Brynu uned synhwyro seliedig, fel nad oes modd tynnu batris neu ymyrryd â nhw

Dywedodd Neil Davies, Pennaeth Diogelwch yn y Cartref gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’ Byddem yn annog trigolion De Cymru i gael o leiaf un synhwyrydd mwg ar bob lefel yn ogystal â synhwyrydd gwres yn eu cegin, fel safon synhwyro sylfaenol. Dylai preswylwyr brofi’r synwyryddion yn wythnosol; rydym yn argymell “Profwch hi Ddydd Mawrth” fel ffordd o’n hatgoffa gan fod y profion hyn yn aml yn gallu cael eu hanwybyddu ymysg prysurdeb bob dydd y dyddiau hyn.

Dylai preswylwyr hefyd fod â chynllun dianc mewn achos o dân a dylai pob aelod o’r teulu a gwesteion fod yn gyfarwydd ag ef. Dylai’r llwybrau dianc fod yn rhydd o annibendod a dylid cynnwys allanfeydd eraill yn y cynllun rhag ofn nad yw’r llwybr dianc arferol yn anhygyrch oherwydd tân.
Mae cael cynllun noswylio hefyd yn syniad da bob amser . Bydd hyn yn rhoi tawelwch meddwl i chi fod pob sigarét, cannwyll a thân wedi cael eu diffodd yn llwyr. Dylid diffodd offer trydanol nad yw wedi cael ei wneud i’w gadael ymlaen dros nos, dylid cau drysau mewnol a dylid bob amser adael allweddi drws lle y gall pawb ddod o hyd iddynt. Rydym yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref am ddim gan griwiau proffesiynol sy’n brofiadol iawn mewn adnabod risg a pheryglon. Er mwyn manteisio ar ein gwasanaeth RHAD AC AM DDIM gallwch adael eich manylion ar ein rhif rhadffôn 0800 169 1234, a byddwn yn eich ffonio yn ôl neu cwblhewch y ffurflen ar-lein ganlynol https://www.decymru-tan.gov.uk/eich-diogelwch-a-lles/yn-y-cartref/cais-am-ymweliad/ Ar gyfer pobl â nam ar y clyw, rydym yn cynnig systemau pwrpasol sy wedi’u cydgysylltu â phadiau dirgrynol a strobiau sy’n fflachio. ”

I gael y cyngor a’r wybodaeth ddiweddaraf am synwyryddion mwg a diogelwch yn y cartref, gweler adran ddiogelwch yn y cartref ar wefan y Gwasanaeth  yma: https://www.decymru-tan.gov.uk/eich-diogelwch-a-lles/yn-y-cartref/