Byddwch yn Ddiogel yn lle Difaru Noson Tân Gwyllt eleni

Gyda nifer o ddigwyddiadau a drefnwyd yn cael eu canslo, mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn paratoi ar gyfer noson brysurach nag arfer wrth i bobl gynllunio i ddathlu yn eu gerddi gartref. Gofynnwn i bobl beidio â chymryd risgiau, gan roi pwysau ychwanegol ar ein gwasanaethau brys. Rydym yn gofyn i bawb fod yn ddiogel yn hytrach na difaru noson Tân Gwyllt eleni.

Y llynedd, rhwng Hydref a Tachwedd mynychom 531 o danau bwriadol gyda chynydd o 21% ers 2019. Hoffem weld y nifer hwn yn gostwng. Gall mynychu digwyddiadau yn ymwneud â chamddefnyddio tân gwyllt a choelcerthi defnyddio amser a all achub bywydau gan fod ein diffoddwyr tân yn cael eu hatal rhag cyrraedd argyfyngau eraill. Gall tân gwyllt a choelcerthi fod yn beryglus iawn heb eu rheoli a’u trin yn briodol. Peidiwch â pheryglu eich anwyliaid neu’ch cymuned leol. Gall tanau ledaenu a mynd allan o reolaeth mewn ychydig eiliadau, gan beryglu difrod i eiddo, anaf a hyd yn oed marwolaeth.

Gall tân gwyllt ddychryn pobl ac anifeiliaid, wedi’r cyfan, mae tân gwyllt yn ffrwydron. Dywedwch wrth eich cymdogion os ydych chi’n bwriadu tanio tân gwyllt a pheidiwch â phrynu rhai swnllyd iawn. Gall tân gwyllt achosi llawer iawn o bryder i anifeiliaid. Mewn arolwg diweddar, dywedodd 62% o berchnogion cŵn fod eu hanifeiliaid anwes yn dangos eu bod dan bwysau yn ystod tymor tân gwyllt, gyda 54% o berchnogion cathod yn adrodd yr un peth.

Ychwanegodd Rheolwr Ymgyrchoedd RSPCA, Carrie Stones: “Mae diogelwch y cyhoedd mor bwysig adeg Noson Guto Ffowc – ond mae lles anifeiliaid yn allweddol hefyd. Rydym yn falch iawn o weithio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i godi ymwybyddiaeth o hwn.

Gall yr adeg hon o’r flwyddyn fod yn straen mawr ar anifeiliaid. Yn ffodus, mae cymaint o gamau y gall perchnogion anifeiliaid anwes eu cymryd i liniaru risgiau.

Mae bod yn barod yn bwysig iawn, ac mae ein gwefan yn llawn cyngor i berchnogion anifeiliaid anwes ar sut i helpu eu hanifeiliaid yn ystod y tymor tân gwyllt. Mae’r cyngor yn cynnwys adeiladu cuddfan ddiogel, dod o hyd i fannau cuddio i gathod neu gau ffenestri a llenni i leihau’r sŵn.

Rydym yn annog pawb sy’n cynnal arddangosfa tân gwyllt yn ardal Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru am ddeud wrth breswylwyr cyfagos; i helpu perchnogion anifeiliaid anwes i baratoi. Cyn cychwyn ar yr hwyl, ystyriwch ofn eich anifeiliaid – a helpwch i gadw anifeiliaid yn ddiogel yr adeg hon o’r flwyddyn.

Mae gwybodaeth gan y cyhoedd mor bwysig yn ein hymgyrch am ddefnyddio tân gwyllt yn fwy diogel. Rydym felly hefyd yn annog unrhyw un sy’n cael trafferth y tymor hwn gydag effaith negyddol tân gwyllt i rannu eu profiadau drwy ddefnyddio ein ffurflen adrodd am ddigwyddiadau.”

Cofiwch mai ffrwydriaid yw tân gwyllt, ac felly dylid eu trin gyda pharch a’u ddefnyddio’n unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a’r Cod Tân Gwyllt yn unig.

  • Gwnewch yn siŵr bod y tân gwyllt i gyd yn cydymffurfio â safonau a rheoliadau cymeradwy.
  • Peidiwch ag yfed alcohol os byddwch chi’n cynnau tân gwyllt.
  • Cadwch dân gwyllt mewn blwch caeedig a dilynwch y cyfarwyddiadau’n ofalus bob amser wrth eu defnyddio.
  • Daliwch nhw hyd fraich wrth eu cynnau gan ddefnyddio tapr a sefwch yn ôl yn ddigon pell.
  • Peidiwch byth â mynd yn ôl atynt ar ôl eu cynnau. Hyd yn oed os nad yw tân gwyllt wedi tanio, gallant ffrwydro o hyd.
  • Peidiwch byth â thaflu tân gwyllt a pheidiwch byth â’u rhoi yn eich poced.
  • Parchwch eich cymdogion – peidiwch â gollwng tân gwyllt yn hwyr yn y nos a chofiwch y dylech weithredu’n unol â’r gyfraith.
  • Cymerwch ofal gyda ffyn gwreichion – peidiwch byth â’u rhoi i blant o dan bump oed.
  • Hyd yn oed pan fyddan nhw wedi diffodd maen nhw’n dal yn boeth felly dylech eu rhoi mewn bwcedaid o ddŵr ar ôl ei ddefnyddio.
  • Cadwch eich anifeiliaid anwes dan do gydol fin nos.

Gall coelcerthi hefyd fod yn risg tân sylweddol ac rydym yn cynghori preswylwyr i beidio â chynnau tanau mewn gerddi, ac ystyried eu cymdogion. Nid ydym chwaith yn cynghori neb i losgi gwastraff gardd neu wastraff cartref. Gallwch adael hwn i wasanaethau gwastraff, ailgylchu a chompostio eich awdurdod lleol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan . Cyfeiriwch hefyd at ganllawiau’r Llywodraeth 

Dywedodd Dean Loader, Rheolwr Grŵp a Phennaeth Diogelwch Cymunedol a Phartneriaethau: “Mae’r adeg hon o’r flwyddyn bob amser yn hwyl ac rydym am wneud yn siŵr bod pawb yn gallu mwynhau’r dathliadau’n ddiogel. Mae ein neges yn un syml – byddwch yn gall a gofalwch amdanoch chi eich hunain a’ch gilydd fel na fydd angen ein gwasanaethau arnoch yn ystod eich noson. Rydym yn mynychu llawer o danau heb oruchwyliaeth gydag anafiadau a achosir gan dân gwyllt a choelcerthi allan o reolaeth. Mae tân gwyllt a choelcerthi yn hwyl ond mae’n bwysig iawn i fod yn ofalus a mwynhau’r dathliadau gan fod yn gyfrifol. Gall ymddwyn yn anghyfrifol o gwmpas tanau a thân gwyllt arwain at ganlyniadau dinistriol, anafiadau sy’n bygwth bywyd a hyd yn oed golli bywydau.”

Gellir atal anafiadau drwy ddilyn y cod Tan Gwyllt. Os byddwch chi’n cael eich llosgi, rhaid:-

  • Dal y llosgiad o dan ddŵr rhedegog oer am o leiaf ddeng munud.
  • Ar ôl i’r llosgiad gael ei oeri, gorchuddiwch ef â phlastig glynu neu fag plastig glân.
  • Ffonio 999 os oes angen. Dylech bob amser ofyn am gyngor meddygol i fabi neu blentyn sydd wedi cael ei losgi.

Mae pawb wrth eu bodd yn cael eu dychryn yn iawn adeg Calan Gaeaf, ond nid os bydd yn o ran diogelwch.

Addurniadau

Mae Calan Gaeaf yn achlysur gwych i addurno eich cartref gyda phob math o addurniadau dychrynllyd. Mae llawer o gartrefi’n defnyddio canhwyllau yn eu haddurniadau i wella’r awyrgylch.  Byddem bob amser yn argymell eich bod yn defnyddio goleuadau â batris yn y lle cyntaf ond os byddwch chi’n dewis defnyddio canhwyllau, rhaid gofalu o ran eu gosod gan ystyried yr addurniadau eraill o’i gwmpas. Dylid cadw canhwyllau’n ddigon pell er mwyn osgoi achosi unrhyw berygl, felly gwnewch yn siŵr bod addurniadau neu unrhyw beth arall sy’n hongian yn ddigon pell o fflamau noeth.

Llusernau a Phwmpenni

Mae pwmpenni yn rhan annatod o dymor Calan Gaeaf, a gall cerfio un fod yn hwyl. Er eu bod yn draddodiadol yn cynnwys canhwyllau i oleuo eu mynegiant brawychus, rydym yn argymell y byddai newid i oleuadau batri yn opsiwn mwy diogel.

Diogelwch Canhwyllau

Gwnewch yn siŵr bod canhwyllau’n cael eu gosod yn ddiogel mewn daliwr priodol yn ddigon pell o ddeunyddiau a allai fynd ar dân tân – megis llenni. Diffoddwch ganhwyllau pan fyddwch chi’n gadael yr ystafell, a gwnewch yn siŵr eu bod yn cael eu diffodd yn llwyr yn y nos. Defnyddiwch laniadur neu lwy i ddiffodd canhwyllau, mae’n fwy diogel na’u diffodd drwy chwythu arnynt gan y gall gwreichion hedfan. Cofiwch, ni ddylid byth adael plant ar ben eu hunain gyda chanhwyllau wedi’u goleuo.

Gwisgoedd

Byddwch yn ofalus o ran pa ddeunyddiau a ddefnyddir mewn gwisgoedd Calan Gaeaf. Mae deunyddiau synthetig yn llawer mwy fflamadwy na deunyddiau naturiol, felly ceisiwch ddod o hyd i wisgoedd sy’n cynnwys cotwm, sidan neu wlân. Bydd y deunyddiau hyn yn fwy gwrthfflam ac felly bydd mwy o amser i chi weithredu os bydd tân.

I gael rhagor o gyngor ac arweiniad ewch i: https://www.decymru-tan.gov.uk/eich-diogelwch-lles/.